Back
Eglurhad o fil £29m COVID-19 i Gyngor Caerdydd

05/06/2020 

Datgelwyd dadansoddiad o amcan gost ymateb i Covid-19 o £29m i Gyngor Caerdydd rhwng mis Ebrill a diwedd Mehefin mewn adroddiad i Gabinet yr awdurdod.

Ymhlith y costau y mae:

  • Gwariant o £5.1m ar gyfarpar diogelu personol (PPE);
  • Cymorth i ddarparwyr gofal yn y cartref a phreswyl i adlewyrchu costau ychwanegol rhoi gofal yn ystod y pandemig;
  • £2.1m ar ddarparu prydau ysgol am ddim i tua 12,000 o ddisgyblion bob dydd;
  • £2.1m o gymorth i gyflenwyr, a delir yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth, er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau yn ystod ac ar ôl argyfwng Covid-19 presennol;
  • £1.8m ar wasanaethau profedigaeth - (a ganiatawyd caffael marwdy dros dro);
  • £ 1.7m ar newidiadau gweithredol ar gyfer gwastraff; a
  • £1.6 miliwn ar dai i gynorthwyo'r digartref yn ystod y pandemig.

 

Mae'r Cyngor hefyd wedi datgelu'r colledion incwm yr amcenir y bydd COVID-19 wedi ei gostio i'r Cyngor dros yr un cyfnod.

Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Colled o £3.8m mewn ffioedd parcio, cosbau parcio a Throseddau Traffig sy'n Symud;
  • Colled o £2.3m o leoliadau a digwyddiadau;
  • Colled o £1.3m o wastraff masnachol, swmpus ac ailgylchu;
  • Colled o £700,000 o weithgareddau hamdden a chwaraeon awyr agored;
  • Colled o £700,000 o brydau ysgol;
  • Colled o £600,000 o Storey Arms a'r Gwasanaeth Cerddoriaeth;
  • Colled o £500,000 o gynllunio a rheoli adeiladau.

 

Dangosodd yr adroddiad y gwariant a oedd yn gysylltiedig â delio ag effeithiau'r feirws.

Mae'r awdurdod yn amcangyfrif ei fod wedi gwario mwy na £18m yn ymateb i'r argyfwng, ac amcangyfrifir bod £11m arall o incwm wedi ei golli o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19 yn nhri mis cyntaf y flwyddyn ariannol yn unig.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymateb yn gyflym i'r argyfwng, gan newid y ffordd rydym yn gweithio, gan roi ffocws clir ar gynnal gwasanaethau hanfodol sy'n darparu ar gyfer ein trigolion mwyaf agored i niwed.

"Ers cychwyn y cyfnod cloi, mae ein gwasanaethau wedi gorfod ymateb ac addasu i'r argyfwng wrth i'r sefyllfa barhau i esblygu. Rydym wedi sefydlu gweithrediadau bwyd i sicrhau na fydd pobl ar draws y ddinas sy'n gwarchod neu'n cael anhawster ariannol oherwydd y feirws yn mynd heb fwyd. Rydym wedi newid y ffordd mae ein gwasanaethau gwastraff yn gweithredu er mwyn sicrhau y cynhelir casgliadau ymyl y ffordd bob wythnos gan gadw ein staff a'n trigolion yn ddiogel.

"Rydym wedi caffael miliynau o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol i sicrhau y gall ein gwasanaethau a'r sector gofal barhau i weithredu. Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda'r sector gofal i sicrhau y gall barhau i weithredu yn y cyfnod anodd hwn, gan ddarparu gwasanaeth hynod bwysig a gwerthfawr. Mae ein hysgolion ardal wedi agor i blant gweithwyr allweddol ac rydym wedi cynnig prydau a thaliadau arian parod i filoedd o blant difreintiedig trwy gydol y cyfnod cloi.

"Wrth gwrs mae hyn i gyd yn costio ac rydym wedi gwario mwy na £18 miliwn er mwyn sicrhau bod y ddinas yn parhau i redeg ac nad yw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein plith yn dioddef yn ddiangen. Rydym bob amser wedi canolbwyntio ar sicrhau gwydnwch gwasanaethau sy'n hanfodol i'n hymateb i COVID-19, gan wneud popeth a allwn i amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a'n staff, a cheisio atal y feirws rhag lledaenu."

Mae'r gwariant ychwanegol o £18m yn cael ei adolygu'n gyson, ac mae'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd wrth i ragor o bwysau ddod i'r amlwg. Mae hyn yn cynnwys asesu effaith ariannol cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau am gymorth gyda'r Dreth Gyngor a gwaith i sefydlu gwasanaethau 'Olrhain Cyswllt' effeithiol yn lleol fel rhan o fenter Cymru gyfan.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Pan edrychwn ar incwm, rydym yn amcangyfrif y byddwn yn colli dros £11m o ganlyniad uniongyrchol i Covid-19. Mae'r incwm a gollir yn ystod y cyfnod cloi yn cynnwys cau lleoliadau diwylliannol a chwaraeon y Cyngor fel theatrau, Castell Caerdydd, Dŵr Gwyn Caerdydd a Neuadd y Ddinas. Mae hefyd yn adlewyrchu llai o weithgarwch mewn meysydd eraill sy'n creu incwm, gan gynnwys cynllunio, parcio, troseddau traffig sy'n symud, gwastraff masnachol, cofrestru ac arlwyo mewn ysgolion.

"Yn debyg i wariant, bydd yr amcangyfrif hwn yn cael ei fonitro'n ofalus a'i ddiweddaru yn ôl yr angen. Dros amser bydd angen dadansoddi'r asesiad o ffrydiau incwm pellach a'r un mwyaf arwyddocaol fydd y posibilrwydd o unrhyw effaith ar gasglu'r Dreth Gyngor eleni.  Mae pob ceiniog rydym yn ei chymryd ar gyfer y Dreth Gyngor yn awr yn hanfodol. Mae'n ein helpu i gynnal llif arian rheolaidd, sy'n ein galluogi i reoli rhywfaint o'r gwariant a'r colledion incwm rydym wedi'u gweld."

Mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd yn gallu hawlio'n ôl y gwariant ychwanegol o £18m gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Galedi Covid-19. Mae'r gronfa hon yn werth £110m ar hyn o bryd ac mae ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru ei defnyddio. Hyd yma mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn £465,000 i dalu am wariant sy'n gysylltiedig â Covid-19 yn ystod wythnosau olaf mis Mawrth. Cyflwynwyd hawliad o £5.2m ym mis Ebrill i Lywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad yn dweud, fodd bynnag, ei bod yn debygol na fydd y lefel ariannu bresennol yn ddigon ar gyfer yr holl ofynion gwariant ar lefel Cymru gyfan, ac nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto ynghylch a fydd incwm a gollwyd yn cael ei ad-dalu gan Lywodraeth Cymru.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Rydym yn cyflwyno hawliadau i Lywodraeth Cymru bob mis. Mae, wrth gwrs, elfen o risg o ran yr adennill costau parhaus. Yn arbennig gan fod y trefniadau ariannu presennol dim ond wedi'u cadarnhau tan ddiwedd Mehefin 2020. Mae'n amlwg i ni y bydd yr heriau a wynebwn a'r arian rydym yn ei wario i ddelio â'r heriau hynny yn ymestyn y tu hwnt i'r amserlen honno.

"Felly bydd angen ystyried a deall yn llawn goblygiadau symud tuag at yr hyn sy'n debygol o fod y "normal newydd" wrth i gyfyngiadau'r cyfnod cloi gael eu lleddfu ac i'r cyfnod adfer ddechrau.  Mae hyn yn debygol o gynnwys effaith strategaethau gadael ar gyfer y newidiadau gwasanaeth a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig. Mae hefyd yn debygol y bydd angen newid rhai gwasanaethau er mwyn cadw at reolau a chyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol. Mae'n rhaid i ni sicrhau diogelwch staff a thrigolion yn hyn oll tua'r dyfodol. Efallai y bydd goblygiadau ariannol sylweddol yn hyn o beth, gyda ffrydiau incwm yn arbennig yn debygol o gymryd cryn amser i ddychwelyd i lefelau arferol.

"Mae trafodaethau cadarnhaol ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae'r sefyllfa'n esblygu drwy'r amser, yn ymateb i gyhoeddiadau llywodraethau Cymru a'r DU. Oherwydd yr heriau hyn, bydd angen cadw golwg manwl ar gyllideb 2020/21 a bennwyd ym mis Chwefror. Y bwriad yw y bydd Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi'i ddiweddaru yn cael ei ddwyn gerbron y Cyngor yn yr haf, ym mis Gorffennaf 2020 gobeithio, a fydd yn gallu adlewyrchu'r effaith hysbys a disgwyliedig ar gyllideb 2020/21. Yn ogystal â rhoi rhagor o eglurder o ran y flwyddyn ariannol gyfredol, bydd hyn yn caniatáu bwrw ymlaen â gwaith pennu cyllideb 2021/22."