Back
COVID-19: Cymorth i ymdrin ag urddas mislif pan fo'r ysgolion ar gau


3/6/2020


Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i ymdrin ag urddas mislif, er gwaetha'r ffaith bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

Bydd pob disgybl benywaidd ym mlynyddoedd 7 i 13 sy'n cael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd yn cael cymorth ariannol fel y gallant brynu cynhyrchion hylendid benywaidd.

Bydd y cynllun, a ariennir gan grant Urddas Mislif mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru ac a weinyddir gan dîm Prydau Ysgol Am Ddim y Cyngor, yn darparu taleb £15 fesul disgybl ar gyfer tymor yr haf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Fel rhan o'n rhaglen urddas mislif, mae myfyrwyr yn cael cynhyrchion mislif di-dâl yn yr ysgol ond gydag ysgolion ar gau ar hyn o bryd, mae'n bwysig nad yw merched ifanc a genethod yn colli allan.

"Bydd y cynllun hwn yn sicrhau bod y rhai sydd ei angen fwyaf yn dal i elwa ac yn dangos ymrwymiad Caerdydd i fynd i'r afael â thlodi mislif yn ein cymunedau a helpu i fynd i'r afael â stigma."

Cafodd cynllun Cyngor Caerdydd i hyrwyddo urddas mislif ymhlith genethod a merched ifanc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ei gyflwyno ym mis Mawrth 2019.

Mae'r rhaglen hefyd yn cyfrannu at ymrwymiad Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant lle mae barn a blaenoriaethau plant wrth wraidd penderfyniadau. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Ddwy flynedd yn ôl, cynhaliwyd arolwg urddas mislif mewn ysgolion uwchradd i gael barn merched ifanc am y mater o urddas mislif ac i ymgynghori ynghylch a fydden nhw'n hoffi cael nwyddau hylendid benywaidd am ddim.

"Roedd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod barn genethod a merched ifanc yn cael ei chlywed ac y gweithredir arni ac mae wedi helpu i ddileu rhwystrau mewn addysg. Yn ystod y cyfnod eithriadol hwn, mae'n hanfodol bod disgyblion yn gallu parhau i gael mynediad at nwyddau hylendid benywaidd."

Bydd llythyrau'n cael eu hanfon at fenywod teuluoedd sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim gyda manylion sut i wneud cais am daleb y gellir ei defnyddio yn unrhyw un o'r chwe archfarchnad ganlynol; Tesco, Asda, Sainsbury's, Morrisons, Marks & Spencer a Waitrose.

Os ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun ac os oes gennych ymholiad, anfonwch e-bost:

prydauysgolamddim@caerdydd.gov.uk