Back
Diweddariad COVID-19: 3 Mehefin

Yn y diweddariad COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: yn ymateb i'r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg heddiw; mae 200 o ffonau symudol wedi'u rhoi i wasanaeth digartref Cyngor Caerdydd i gefnogi unigolion sy'n agored i niwed wrth iddynt symud oddi ar y strydoedd; mae Cyngor Caerdydd yn parhau i ymdrin ag urddas mislif; a cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc.

 

Wedi'i gynllunio'n ofalus; Cymorth i ysgolion Caerdydd wrth baratoi ar gyfer 29 Mehefin

Yn ymateb i'r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg heddiw, Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd llawer o blant ledled y ddinas yn gweld eisiau eu ffrindiau, eu hathrawon a'r drefn y mae'r ysgol yn ei chynnig. Rwy'n gwybod hefyd bod llawer o deuluoedd yn cael trafferthion yn gweithio o gartref ac yn addysgu gartref, bydd rhai rhieni a staff yn pryderu am blant yn dychwelyd i'r ysgol a byddwn ni'n gweithio i ddatrys hynny.

"Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw yn cynnig cyfle a reolir yn ofalus i blant a phobl ifanc ddychwelyd i'w hysgolion, wrth iddyn nhw alw heibio, dal lan a pharatoi ar gyfer mis Medi. Nid yw hyn yn golygu y bydd pob disgybl yn dod yn ôl ar 29 Mehefin. Bydd angen cael llawer llai o ddisgyblion yn yr ysgol ar unrhyw adeg sy'n golygu y bydd mwyafrif y disgyblion am ran helaeth o'r wythnos yn parhau i fod gartref.

"Fodd bynnag, mae hyn yn golygu y bydd cyfle i bob disgybl dreulio rhywfaint o amser yn ei ysgol cyn gwyliau'r haf, i ddal lan gydag athrawon a gweld ei hun pa mor wahanol fydd ei brofiad ysgol gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith a system ofalus o lanhau a chyfyngu cyswllt.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni barhau gyda'r paratoadau ar gyfer hyn, ac rydym ni'n edrych ymlaen at gael y canllawiau a gaiff eu cyhoeddi wythnos nesaf. Dros yr wythnosau i ddod byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion, gan sicrhau iechyd a lles ein staff, ein disgyblion a'u teuluoedd, gyda phwyslais ar fagu hyder a lleihau gorbryder.

"Ar yr un pryd rwy'n croesawu'r newyddion na chaiff rhieni eu cosbi os nad ydynt yn dymuno i'w plant ddychwelyd ar yr adeg hon a bod y Gweinidog yn glir nad oes disgwyl i blant ac athrawon sy'n hunan-warchod, neu'n byw'n agos at y rheiny sy'n hunan-warchod, ddychwelyd i'r ysgol ar hyn o bryd."

 

Every Little Helpsyn cefnogi pobl sy'n agored i niwed

Mae 200 o ffonau symudol wedi'u rhoi i wasanaeth digartref Cyngor Caerdydd i gefnogi unigolion sy'n agored i niwed wrth iddynt symud oddi ar y strydoedd.

Mae Tesco Mobile wedi darparu'r dyfeisiau, y mae credyd wedi'i roi ar bob un ohonynt, fel y gall unigolion mewn llety brys gadw mewn cysylltiad â'u gweithwyr cymorth.

Mae'r argyfwng iechyd presennol wedi cynnig cyfle unigryw i wasanaethau ymgysylltu'n well ag unigolion digartref yn y ddinas.

Mae mwy na 140 o bobl yn aros yn y llety brys ychwanegol y daethpwyd o hyd iddo gan y Cyngor er mwyn diogelu'r rheiny oedd yn cysgu ar y stryd yn ystod argyfwng COVID-19 ac mae llawer mwy o gleientiaid nag erioed yn fodlon derbyn help, yn benodol cymorth o ran camddefnyddio sylweddau. 

Mae rhoi ffonau symudol i gleientiaid yn galluogi'r tîm allgymorth Amlddisgyblaethol i gysylltu'n well ag unigolion, gan roi sicrwydd iddynt yn ystod y cyfnod pryderus hwn a'u hatgoffa am apwyntiadau meddygol ac apwyntiadau eraill gyda gwasanaethau.

Hefyd gall cleientiaid gael eu cwnsela gan gwnselwyr y Tîm Amlddisgyblaethol dros y ffôn neu ar sgwrs fideo, sydd hefyd yn helpu gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r sefyllfa bresennol wedi'n galluogi i wneud cynnydd mawr gyda'n cleientiaid sy'n ddigartref.  Dim ond llond llaw o bobl sy'n dal i gysgu ar y stryd yn y ddinas ac mae mwy o bobl yn dwyn ar y cyfle i stopio defnyddio heroin a dechrau rhaglenni triniaeth a all eu helpu i wneud y gwaith sydd ei angen i ailadeiladu eu bywydau.

"Rydym yn benderfynol o adeiladu ar y llwyddiant hwn a pheidio â gweld pobl yn cael eu denu'n ôl i ffordd niweidiol o fyw wrth gysgu ar y stryd, gan gardota er mwyn ariannu arfer camddefnyddio sylweddau.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Tesco Mobile am eu cyfraniad hael iawn a fydd yn helpu ein timau i aros mewn cysylltiad â chleientiaid yn haws.

"Gall aelodau'r Tîm Amlddisgyblaethol wirio lles cleientiaid yn fwy rheolaidd a rhoi iddynt y cymorth sydd ei angen arnynt ar y daith hon. Mae'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n stopio defnyddio cyffuriau'n golygu bod mwy o faterion seicolegol yn dod i'r amlwg ac mae angen therapi a chwnsela ar gleientiaid ar frys."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23999.html

 

Cymorth i ymdrin ag urddas mislif pan fo'r ysgolion ar gau

Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i ymdrin ag urddas mislif, er gwaetha'r ffaith bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

Bydd pob disgybl benywaidd ym mlynyddoedd 7 i 13 sy'n cael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd yn cael cymorth ariannol fel y gallant brynu cynhyrchion hylendid benywaidd.

Bydd y cynllun, a ariennir gan grant Urddas Mislif mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru ac a weinyddir gan dîm Prydau Ysgol Am Ddim y Cyngor, yn darparu taleb £15 fesul disgybl ar gyfer tymor yr haf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Fel rhan o'n rhaglen urddas mislif, mae myfyrwyr yn cael cynhyrchion mislif di-dâl yn yr ysgol ond gydag ysgolion ar gau ar hyn o bryd, mae'n bwysig nad yw merched ifanc a genethod yn colli allan.

"Bydd y cynllun hwn yn sicrhau bod y rhai sydd ei angen fwyaf yn dal i elwa ac yn dangos ymrwymiad Caerdydd i fynd i'r afael â thlodi mislif yn ein cymunedau a helpu i fynd i'r afael â stigma."

Cafodd cynllun Cyngor Caerdydd i hyrwyddo urddas mislif ymhlith genethod a merched ifanc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ei gyflwyno ym mis Mawrth 2019.

Mae'r rhaglen hefyd yn cyfrannu at ymrwymiad Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant lle mae barn a blaenoriaethau plant wrth wraidd penderfyniadau.

 

Y tîm cwnsela yn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc

Mae tîm cwnsela 2talk2, sydd wedi'i leoli mewn ysgolion, yn parhau i gynnig gwasanaethau i bobl ifanc 11 i 18 oed yng Nghaerdydd.

Mae ein cwnselwyr yn gweithio o gartref yn helpu ysgolion tra eu bod ar gau drwy gynnig cymorth dros y ffôn ar gyfer iechyd meddwl a lles pobl ifanc.

Maen nhw wedi creu adnodd ar-lein ar gyfer pobl ifanc ar Instagram @cardiff2talk2. Cafodd y tîm syniad gwych i drefnu her hanner marathon iechyd meddwl ac maen nhw'n postio gweithgareddau lles a syniadau fel heriau.

Rydym yn gweithio gyda rhieni, ysgolion a gwasanaethau fel y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Cynradd i gyrraedd a chefnogi cynifer o bobl ifanc ag y gallwn yn ystod yr adeg heriol ac ansicr hon.

Mae ysgolion wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i'r tîm yn addasu eu gwasanaeth i heriau Covid-19. Mewn adborth a gafwyd yn ddiweddar, dywedodd llawer o ysgolion fod y gwasanaeth yn rhagorol yn eu barn nhw a'u bod yn gwerthfawrogi pa mor ymatebol a chefnogol mae wedi bod.

Mae yna bob amser glust i wrando yn 2talk2!

Ffôn: 029 22 330709