Back
Diweddariad COVID-19: 22 Mai

Croeso i ddiweddariad COVID-19 olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd. 

Heno: casgliadau gwastraff gardd gwyrdd fis Mehefin ac wythnos gyntaf Gorffennaf; lansio project cymunedol 'Arhoswch Gartref, Plannwch a Thyfwch!'; bydd ein Llinell Gyngor a'n 4 Hyb - Cau dros ŵyl y banc; teyrnged gerddorol i weithwyr allweddol Caerdydd a'r Fro; a casgliadau gwastraff gardd ar ddydd Sadwrn a casglu gwastraff gŵyl y banc. 

Bydd diweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd yn dychwelyd ddydd Mawrth, 26 Mai. Yn y cyfamser, gobeithio y cewch benwythnos Gŵyl Banc da, ac cadwch yn ddiogel.

 

Bydd casgliadau gwastraff gardd gwyrdd untro yn parhau ym mis Mehefin a'r wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf

Yn dilyn y galw mawr amdanynt, bydd y Cyngor yn ymestyn y casgliadau gwastraff gardd gwyrdd untro i fis Mehefin a'r wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf. Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dyddiadau casglu ar gyfer eich ardal chi, yn dilyn ddydd Mawrth 26 Mai. 

Gofynnir i drigolionroi gwastraff gardd gwyrdd yn unig eu bin gwyrdd neu sachau amldro. Os caiff y bin gwyrdd ei lenwi â phridd neu unrhyw eitem arall na ellir ei gompostio, ni fydd yn cael ei gasglu a bydd sticer pinc yn cael ei roi ar eich bin.  

Hyd at y penwythnos diwethaf, drwy'r casgliadau untro yn ystod mis Mai, mae'r Cyngor wedi casglu bron 1,000 tunnell o wastraff gardd o wardiau ar draws y ddinas

Bydd casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd arferol yn ailddechrau pan fydd gan y Cyngor ddigon o staff a gwydnwch i ddarparu'r gwasanaeth hwn.  Caiff rhagor o wybodaeth ei chyhoeddi drwy wefan y cyngor a sianelau cyfryngau cymdeithasol pan fydd ar gael. 


Lansio project cymunedol 'Arhoswch Gartref, Plannwch a Thyfwch!'

Mae Planhigfeydd Parc Bute yn gweithio gyda grwpiau tyfu cymunedol a gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd ar brosiect 'Arhoswch Gartref, Plannwch a Thyfwch' er mwyn helpu i annog trigolion i dyfu eu llysiau a'u perlysiau eu hunain yn ystod cyfnod y cloi.

Diolch i gyllid gan Food For Life Get Togethers bydd eginblanhigion llysiau a dyfir ym mhlanhigfeydd Cyngor Caerdydd, gan gynnwys Courgettes ' Midnight', Pys 'Shiraz', India-corn 'Goldcrest', Ciwcymer 'Carmen' a mwy, yn cael eu dosbarthu gan  fenter gymdeithasol y Wiwer Werdd  yn y Sblot i drigolion lleol, teuluoedd a sefydliadau fel cartrefi gofal, llochesi i'r digartref a Chanolfan Pobl Fyddar Caerdydd drwy rwydwaith Caerdydd Fwytadwy.

Mae'r rhwydwaith yn cynnwys Eartha yn y Rhath, Tyfu Caerdydd yn Nhrelái/Fairwater a Growing Street Talk yn Grangetown/Glanyrafon.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi gallu darparu cefnogaeth bwysig i'r prosiect cymunedol hwn a chwarae rhan yn y gwaith o helpu i gael mwy o bobl i dyfu eu llysiau eu hunain."

"Mae'r tîm ym Mharc Bute yn gwneud gwaith gwych gan dyfu amrywiaeth eang o blanhigion ar gyfer nifer o barciau a mannau gwyrdd Caerdydd, trwy gynhyrchu mêl o'u cychod gwenyn a thrwy ddarparu lle tyfu ar gyfer mentrau cymdeithasol lleol - mae hon yn enghraifft wych arall o sut y gallwn gefnogi ein cymunedau, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23935.html

 

Bydd ein Llinell Gyngor a'n 4 Hyb - Cau dros ŵyl y banc

Bydd ein Llinell Gyngor a'n 4 Hyb ar gau ddydd Llun 25 Mai ar gyfer gŵyl y banc.

Bydd y llinellau'n agor eto ddydd Mawrth 26 Mai (9am - 5.30 pm). Ffoniwch 029 2087 1071 neu e-bostiwchhybcynghori@caerdydd.gov.uk

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23668.html

 

Teyrnged gerddorol i weithwyr allweddol Caerdydd a'r Fro

Mae aelodau o Gôr Ieuenctid Sir Caerdydd a Bro Morgannwg wedi cynhyrchu teyrnged gerddorol i weithwyr allweddol ledled y rhanbarth am eu hymdrechion trwy gydol yr argyfwng Coronafeirws.

Mae'r cantorion ifanc, o un o nifer o ensembles o fewn Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerdydd a Bro Morgannwg, wedi cynhyrchu fideo teimladwy ohonyn nhw eu hunain yn perfformio ‘What a Wonderful World' gan Louis Armstrong gyda'i gilydd, pob un yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r ffilm yn cynnwys lluniau o ffrindiau a theulu sy'n gysylltiedig ag aelodau'r côr, sy'n chwarae rhan mor bwysig yn eu gwahanol swyddi ar hyn o bryd.

Bydd y fideo i'w gweld ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor dros y penwythnos hwn ac mae hefyd i'w weld yma:

https://www.youtube.com/watch?v=UNCiZQ_ZW1Q

 

Casgliadau Gwastraff Gardd ar ddydd Sadwrn a Casglu Gwastraff Gŵyl y Banc

Dyma nodyn i'ch atgoffa y cynhelir casgliadau gwastraff gardd untro ar ddydd Sadwrn y mis hwn.

Bydd yr ardaloedd yng Nghaerdydd y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu arDdydd Iauyn cael casgliad gwastraff garddddydd Sadwrn yma, 23 Mai.

Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.

Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.

I weld cwestiynau ac atebion am y casgliadau gwastraff gardd untro yn ystod mis Mai, ewch i:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23726.html

Gŵyl y Banc Diwedd Mis Mai - Dim Newid i Ddyddiadau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd eich diwrnod casglu yn aros yr un fath dros Ŵyl y Banc diwedd mis Mai, ond mae'n bosibl y bydd amseroedd y casgliad yn newid felly gofalwch eich bod yn rhoi eich gwastraff allan erbyn 6am. 

Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff ar waith ddydd Llun 25 Mai ac ni fydd unrhyw newid i ddyddiadau casglu am weddill yr wythnos.

Bydd ein tîm casglu gwastraff yn gweithio drwy gydol gŵyl y banc i sicrhau bod y gwasanaeth casglu yn parhau'n effeithiol.

Ailgylchu

Gofynnwn i chi barhau i wahanu deunyddiau ailgylchu, yn union fel y byddech yn ei wneud fel arfer, oherwydd rydym yn cydnabod na fyddai unrhyw le yn eich bin du/ bagiau streipiau coch ar gyfer yr eitemau hynny pe na baech yn cael casgliad bagiau ailgylchu.

Mae Caerdydd am fod y ddinas ailgylchu orau yn y byd, felly rydym am i chi barhau i ddefnyddio eich bagiau gwyrdd ailgylchu, er mwyn cynnal arferion da ar gyfer pan fydd yr argyfwng drosodd.

Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer deunydd ailgylchu a gwastraff bwyd yn dychwelyd i'r arfer o ddydd Llun 1 Mehefin.

Mae hynny'n golygu:

  • Bydd bagiau ailgylchu gwyrdd a gwastraff bwyd yn cael eu casglu o bob eiddo bob wythnos, gyda gwastraff bagiau du a gwastraff hylendid yn cael eu casglu bob pythefnos

 

  • Bydd gwastraff gardd gwyrdd, casgliadau swmpus a'r treial gwydr yn parhau i fod wedi'u hatal dros dro nes clywir yn wahanol 

 

  • Bydd casgliadau gwastraff gardd gwyrdd untro yn parhau i gael eu cynnal dros y penwythnos/au olaf ym mis Mai

 

  • Rydym yn bwriadu ailagor ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Ffordd Lamby a Bessemer Close cyn gynted ag y bo modd.

Os nad ydych yn siŵr os oes modd rhoi eitem benodol yn eich bag ailgylchu gwyrdd, darllenwch ein canllaw Ailgylchu A-Y:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx