Back
Cyngor ar y Dreth Gyngor - Negeseuon Testun ac E-byst

21/05/20 

Fel arfer, ar ddiwedd mis Ebrill, bydd Cyngor Caerdydd yn anfon llythyrau atgoffa i'r trigolion hynny sydd heb dalu rhandaliad Treth Gyngor cyntaf y flwyddyn ariannol newydd, ac i'r rhai sydd mewn dyled iddynt mewn perthynas â Threth Gyngor y flwyddyn gynt.

Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni gyda COVID-19, nid yw Cyngor Caerdydd wedi anfon llythyrau atgoffa eleni, ac yn hytrach mae wedi dechrau anfon negeseuon testun ac e-byst at y trigolion hynny sydd wedi darparu rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost.

Yn dilyn cynllun peilot yn y Mynydd Bychan, Treganna a Phontprennau yr wythnos diwethaf, mae'r Cyngor wedi dechrau anfon negeseuon testun ac e-byst i ardaloedd eraill, gyda thrigolion sy'n byw yn in Radyr, Fairwater, Llanishen, Sain Ffagan, Tongwynlais, Trowbridge, Eglwys Newydd, Grangetown and Thornhill bellach yn dechrau eu derbyn.

Os yw'r dull hwn yn ddull effeithiol o annog trigolion i fanteisio ar yr help a'r gefnogaeth sydd ar gael, gan gynnwys gwneud cais i gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, bydd rhagor o destunau ac e-byst yn cael eu cyflwyno.

Help a Chymorth:

http://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/help-a-chymorth/Pages/default.aspx