Back
Cwestiynau ac atebion am newidiadau gwastraff o’r 1af o Fehefin

Cwestiwn 1) Beth sy'n newid ar 1 Mehefin?

Bydd y rhan fwyaf o gasgliadau ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn dychwelyd i'r arfer o 1 Mehefin ac eithrio casgliadau gwastraff gardd gwyrdd, casgliadau swmpus a'r treial gwydr a fydd yn parhau i gael eu hatal nes y clywir yn wahanol.

Bydd hyn yn golygu y bydd bagiau gwyrdd a gwastraff bwyd yn cael eu casglu i'w hailgylchu o bob eiddo bob wythnos.

Bydd gwastraff cyffredinol a roddir mewn biniau olwynion du neu fagiau streipiau coch a gwastraff hylendid bellach yn cael eu casglu bob pythefnos eto.

Cwestiwn 2) Pam fod casgliadau gwastraff gardd gwyrdd, casgliadau swmpus a'r treial gwydr yn dal i gael eu hatal?

Mae ein holl weithrediadau rheoli gwastraff yn cael eu hadolygu'n barhaus ac mae'r gwasanaeth yn dibynnu ar faint o staff sydd ar gael gennym drwy gydol argyfwng COVID-19. Ar hyn o bryd, ni allwn weithredu'r gwasanaethau hyn. Cyn gynted ag y gallwn, byddwn yn rhoi gwybod i drigolion drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ar  ein gwefan.

Fodd bynnag, rydym yn gweithio ar gynllun a fydd yn galluogi trigolion i ddod â'u gwastraff gardd gwyrdd ac eitemau trydanol bach i ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref cyn bo hir.  Rydym yn creu system cadw lle ar-lein ar gyfer y canolfannau ailgylchu a fydd yn helpu i sicrhau y gellir dilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol ar y safleoedd.

Ni ddylid rhoi gwastraff gardd gwyrdd yn y biniau olwynion du nac yn y bagiau streipiau coch. Bydd hyn yn arwain at beidio â chasglu eich gwastraff o ymyl y ffordd.

Cwestiwn 3) A fydd y deunydd yn fy magiau ailgylchu yn cael ei ailgylchu?

Bydd. Caiff eich bagiau ailgylchu eu casglu gan gerbyd casglu gwastraff ar wahân a chaiff y deunydd ei brosesu i'w ailgylchu. Dim ond dros dro y gwnaethom anfon bagiau gwyrdd i'r cyfleuster adfer ynni, fel rhan o ymateb y Cyngor i bandemig COVID-19.

Cwestiwn 4) Felly beth sydd wedi newid? Nid yw'r Pandemig wedi dod i ben

Mae'r Cyngor bellach wedi addasu ei weithrediadau i sicrhau y gellir cadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol yn ein ffatri prosesu ailgylchu.

Cynhaliwyd asesiadau risg ac mae mesurau wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod ein staff yn gallu gweithio'n ddiogel, felly gall y gweithrediadau ail-ddechrau.

Ar gyfer yr holl staff na allant gadw dau fetr rhyngddynt, darperir Cyfarpar Diogelu Personol ac mae gan ein holl staff rheng flaen ac aelodau o'u teuluoedd fynediad i brofion COVID-19.

Rydym hefyd wedi recriwtio staff ychwanegol, gan gynnwys gyrwyr HGV, felly gallwn nawr weithredu mwy o'n cerbydau, ond oherwydd y gofynion sy'n ymwneud â hunan-ynysu, mae gennym lai o staff yn gweithio na'r arfer o hyd oherwydd effeithiau'r pandemig.

Cwestiwn 5) Beth allwn ni ei wneud i helpu i gadw staff yn ddiogel?

Gofynnir i drigolion ddiheintio dolenni eu biniau olwynion/cadi ymyl y ffordd cyn, ac ar ôl iddynt gael eu casglu.

Os oes gennych symptomau, neu os cadarnhawyd bod COVID-19 gennych, rhowch eich hancesi papur mewn bag ar wahân a'i adael am 72 awr. Ar ôl 72 awr, gellir ei roi yn y bin du neu'r bagiau streipiau coch. Peidiwch â rhoi hancesi papur yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd - ni fyddant yn cael eu casglu.

Cwestiwn 6) A fyddwch yn casglu bagiau du ychwanegol, nawr eich bod wedi dychwelyd i gasgliadau pythefnosol?

Na fyddwn. Ni chaiff gwastraff ychwanegol ei gasglu. Mae angen i drigolion barhau i ailgylchu cymaint o'u gwastraff â phosibl a dylai fod digon o le yn y biniau du a'r bagiau streipiau coch.

Cwestiwn 7) Gyda phawb yn aros gartref, rydym yn cynhyrchu mwy o wastraff. Beth ddylen ni ei wneud gyda'r gwastraff ychwanegol?

Defnyddiwch y gwasanaeth ymyl y ffordd ac ailgylchwch gymaint o wastraff â phosibl. Ni fydd eitemau swmpus na gwastraff gwaith y cartref yn cael eu casglu o ymyl y ffordd, felly rydym yn gofyn i'r holl drigolion storio'r eitemau hyn yn eu heiddo. Mae gwasanaeth sgipiau ar gael ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:https://www.cardiffcommercialwaste.co.uk/?lang=cy

Cwestiwn 8) Cyn COVID-19, cyflwynodd y Cyngor yr ymgyrch sticer pinc. A ydy'r cynllun yn dal i fod yn berthnasol?

Ydy. Dylid defnyddio bagiau ailgylchu gwyrdd ar gyfer yr eitemau canlynol yn unig:

-         Cardfwrdd

-         Papur

-         Tybiau a photiau plastig e.e. potiau iogwrt, bocsys plastig ffrwythau, potiau margarîn

-         Poteli plastig e.e. poteli llaeth, poteli glanhau (wedi'u gwagio)

-         Tuniau a chaniau

-         Poteli a jariau gwydr

-         Ffoil (wedi'i lanhau a'i roi mewn pêl)

Os oes gennych eitemau anghywir yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd, byddant yn cael eu gadael a rhoddir sticer pinc arnynt. Gall cyfres o gamau addysgol ddilyn.

Gall defnyddio bagiau ailgylchu gwyrdd yn anghywir yn gyson arwain at gyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. Gellir darllen mwy o wybodaeth am yr Ymgyrch Sticer Pincyma

Cwestiwn 9) Sut ydw i'n cael gwybod am fy wythnos gasglu gywir, ar gyfer biniau du/bagiau streipiau coch?

Dangosir dyddiadau'r pedwar casgliad cyntaf ar gyfer bagiau du neu fagiau streipiau coch fesul ardal isod.Gallwch hefyd weld y dyddiadau hyn ynwww.caerdydd.gov.uk/casgliadau.

Os ydych yn defnyddio ein gwefan neu ein ap i wirio eich dyddiadau casglu, cofiwch y bydd casgliadau mis Mehefin yn newid ar 31 Mai. 

Byddwch yn amyneddgar wrth i ni sicrhau bod ein calendrau ar-lein yn cyd-fynd â'r amserlen casgliadau. 

Os mai eich diwrnod casglu ywDYDD LLUN:

Ardal

Gwastraff cyffredinol (bagiau streipiau coch/biniau du)

Creigiau/Sain Ffagan

Y Tyllgoed

Radur/Pentre-poeth

Pentyrch

Tongwynlais

 

8 Mehefin

22 Mehefin

6 Gorffennaf

20 Gorffennaf

 

Trelái

Caerau

1 Mehefin

15 Mehefin

29 Mehefin

13 Gorffennaf

 

Os mai eich diwrnod casglu ywDYDD MAWRTH:

Ardal

Gwastraff cyffredinol (bagiau streipiau coch/biniau du)

Butetown

Grangetown

Glan-yr-afon

2 Mehefin

16 Mehefin

30 Mehefin

14 Gorffennaf

 

Ystum Taf

Llandaf

Felindre

Treganna

9 Mehefin

23 Mehefin

7 Gorffennaf

21 Gorffennaf

 

Os mai eich diwrnod casglu ywDYDD MERCHER:

Ardal

Gwastraff cyffredinol (bagiau streipiau coch/biniau du)

Gabalfa

Cathays

Pen-y-lan

3 Mehefin

17 Mehefin

1 Gorffennaf

15 Gorffennaf

Pentwyn

Plasnewydd

Cyncoed

10 Mehefin

24 Mehefin

8 Gorffennaf

22 Gorffennaf

 

Os mai eich diwrnod casglu ywDYDD IAU:

Ardal

Gwastraff cyffredinol (bagiau streipiau coch/biniau du)

Tredelerch

Adamsdown

Sblot

4 Mehefin

18 Mehefin

2 Gorffennaf

16 Gorffennaf

 

Pontprennau/Pentref Llaneirwg

Llanrhymni

Trowbridge

11 Mehefin

25 Mehefin

9 Gorffennaf

23 Gorffennaf

 

Os mai eich diwrnod casglu ywDYDD GWENER:

Ardal

Gwastraff cyffredinol (bagiau streipiau coch/biniau du)

Rhiwbeina

Llys-faen

Llanisien

12 Mehefin

26 Mehefin

10 Gorffennaf

24 Gorffennaf

Y Mynydd Bychan

Yr Eglwys Newydd

5 Mehefin

19 Mehefin

3 Gorffennaf

17 Gorffennaf

 

Cwestiwn 10) Does gennyf ddim bagiau streipiau coch ar ôl

Bydd y Cyngor yn danfon y lwfans 6 mis o fagiau streipiau coch cyn 1 Mehefin.

Os nad ydych wedi derbyn eich bagiau erbyn y dyddiad hwn, cysylltwch â ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, drwy ddefnyddio ein cyfleuster sgwrsio ar y we neu ein ffurflenni cysylltu â ni ar-lein, neu drwy ffonio C2C ar (029) 2087 2088

Cwestiwn 11) A allaf i gael Hysbysiad Cosb Benodedig neu fy erlyn am dipio anghyfreithlon?

Gallwch.  Mae ein dull dim goddefgarwch o ymdrin ag achosion o dipio anghyfreithlon yn berthnasol o hyd wrth i ni ymateb i COVID-19.

Gallwch dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 os cewch eich gweld yn tipio'n anghyfreithlon, neu Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 os bydd rhywun arall yn tipio'ch gwastraff yn anghyfreithlon.

Byddwch yn wyliadwrus o dwyllwyr gwastraff.  Os bydd rhywun yn cynnig cymryd eich gwastraff, neu os ydych yn talu rhywun i gymryd gwastraff, gwnewch yn siŵr ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredig. Ewch iwww.taclotipiocymru.orgi gael gwybod sut i wneud hyn.

O ble y caf fi fagiau ailgylchu a bagiau gwastraff bwyd/cadis ymyl y ffordd neu gegin?

Nodwch rif eich tŷ a'ch cod post drwy glicio ar y ddolen ganlynol:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspx neu drwy'r app Cardiff Gov y gallwch ei lawrlwytho am ddim ar siop appiau Apple neu ar Google Play.

Gall fod cyflenwad gan gynghorwyr lleol hefyd. Unwaith eto, gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau eich bod yn ymbellhau'n gymdeithasol wrth gasglu bagiau.

Gallwch brynu bagiau cadis bwyd mewn siopau.

Fodd bynnagrhaid iddynt gynnwys y logo isod a safon EN 13432

 

cid:image001.png@01D60688.A9803940

Gellir archebu cadis cegin a bwyd ymyl y ffordd i'w danfon trwy'r app Cardiff Gov, ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/ailgylchuneu drwy gysylltu â C2C (029) 2087 2088.