Back
Diweddariad COVID-19: 15 Mai

Yn niweddariad wythnosol COVID-19 diweddaraf Cyngor Caerdydd: mae Arweinydd y Cyngor yn dweud y bydd dull ‘un dinas' yn ein helpu i orchfygu COVID; bil cloi mawr COVID £29M Cyngor Caerdydd; Ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau; ac mae Caerdydd yn ymdrin ag amddifadedd digidol.

 

Bydd ymagwedd ‘Un Ddinas' yn ein helpu i drechu COVID meddai arweinydd Cyngor Caerdydd

Cafodd ymagwedd ‘un ddinas' Caerdydd i fynd i'r afael â COVID-19 ei chanmol gan arweinydd Cyngor Caerdydd sy'n dweud bod rhaid i'r ddinas ‘barhau i weithio gyda'n gilydd' i sicrhau bod prifddinas Cymru'n gwella o effeithiau'r pandemig.

Yn ysgrifennu cyn y Cyngor Llawn cymerodd arweinydd y ddinas, Y Cynghorydd Huw Thomas y cyfle i ddiolch i weithwyr allweddol, staff y sector cyhoeddus a phreswylwyr am y rolau pwysig maent oll wedi'i chwarae wrth helpu i arafu lledaeniad y feirws.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos 265 o farwolaethau o Covid-19 hyd at 1 Mai. Rydym yn gwybod, y tu ôl i bob un o'r niferoedd mae trasiedi bersonol ofnadwy, ac rydym yn meddwl am bawb yr effeithiwyd arnynt.

"Cafodd y cyfnod cloi effaith fawr ar bob agwedd ar fywyd yn y ddinas. Rydym yn byw trwy gyfnod o newid digynsail.  Drwyddi draw, rwyf wedi cael fy nharo gan hyblygrwydd, cryfder a dewrder nodedig ein dinas, ei thrigolion a'i sector cyhoeddus.

"Mae'r Cabinet a finnau'n hynod falch o ymateb y Cyngor yn ystod yr hyn sy'n parhau fel cyfnod anodd a phoenus, ac rydym mor ddiolchgar am y gwaith y mae staff y cyngor wedi'i wneud i gefnogi ein cymunedau a'r llu o deuluoedd y mae COVID yn effeithio arnynt.  Mae'n glir i mi bod yr ymagwedd ‘un ddinas' hon yn ein helpu i fynd i'r afael â'r achosion, a'r ymagwedd ‘un ddinas' y bydd ei hangen arnom er mwyn dod o hyd i'n ffordd yn ôl i fywyd normal.

"Ar hyn o bryd daethpwyd â'r ddinas ynghyd ac mae'n gweithio ac yn ymladd gyda'i gilydd i drechu'r feirws hwn. Dyma beth rwy'n ei olygu gan ‘ymagwedd un ddinas' - gweision cyhoeddus dewr yn gweithio gyda'i gilydd ar draws y GIG, y Cyngor, yr Heddlu a'r Gwasanaethau Tân; haelioni eithriadol dinasyddion Caerdydd sy'n gwirfoddoli i helpu cymdogion, neu'n cyfrannu'n ariannol i ailstocio Banciau Bwyd; ymroddiad gweithwyr allweddol yn y meysydd manwerthu, trafnidiaeth a logisteg i gyflenwi ein hanghenion pob dydd i ni. Yr ysbryd hwn o gyd-berthyn sy'n ein helpu i fynd trwodd, ac mae'n rhaid i ni dynnu ar hyn o hyd yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Yn y Cyngor Llawr ddydd Iau nesaf, 21 Mai, bydd y Cynghorydd Thomas yn dweud wrth yr aelodau etholedig y bydd ei Gabinet yn mabwysiadu ymagwedd Ailgychwyn, Adfer ac Adnewyddu i arwain Caerdydd allan o'r argyfwng Covid-19.

Bydd y broses tri cham yn cynnwys:

 

  • AilddechrauAilddechrau ac addasu ystod eang o Wasanaethau'r Cyngor yng nghyd-destun gofynion ymbellhau cymdeithasol estynedig a llym.
  • Adfer:Ymateb strategol i gefnogi'r ddinas i ddod allan o'r argyfwng.
  • :Gweithio'n agos gyda phartneriaid y ddinas, staff a dinasyddion i nodi'r dyfodol rydym am ei weld at gyfer Caerdydd ar ôl yr argyfwng, a sut y byddwn yn gwneud iddo ddigwydd gyda'n gilydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23882.html

 

Cyfnod cloi COVID-19 yn costio £29m i Gyngor Caerdydd

Yn ôl adroddiad, gallai'r ymateb i'r argyfwng Covid-19 gostio £29m i Gyngor Caerdydd wrth iddo wario mwy o arian a cholli refeniw yn nhri mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

Mae datganiad gan y Cabinet i Gyngor Caerdydd wedi datgelu'r gost sydd ynghlwm wrth ddelio ag effeithiau'r feirws.

Mae'r awdurdod yn amcangyfrif ei fod wedi gwario mwy na £18m yn ymateb i'r argyfwng, ac amcangyfrifir y gallai £11m arall o incwm gael ei golli erbyn diwedd mis Mehefin 2020 o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19.

Mae'r gwariant o £18m sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

        Gaffael Cyfarpar Diogelu Personol i gefnogi'r gwaith parhaus o ddarparu gwasanaethau'r Cyngor a'r sector gofal ehangach

        Cynnig llety brys i gynorthwyo pobl ddigartref yn ystod y pandemig

        Parhau i roi bwyd / cymorth ariannol i'r rhai sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim, o ystyried y ffaith bod ysgolion ar gau

        Cymorth i ddarparwyr gofal cartref a phreswyl i adlewyrchu'r costau ychwanegol o roi gofal yn ystod y pandemig

        Costau yr eir iddynt i gyflawni newidiadau gweithredol eang sy'n angenrheidiol i sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu'n ddiogel, gan gynnwys gwaredu gwastraff a darparu gwasanaethau profedigaeth

        Rhoi cymorth i gyflenwyr, sy'n cael eu talu yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth, er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau yn ystod ac ar ôl yr argyfwng COVID-19.

Dywedodd y Cyng Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymateb yn gyflym i'r argyfwng, gan newid y ffordd rydym yn gweithio, gan roi ffocws clir ar gynnal gwasanaethau hanfodol sy'n darparu ar gyfer ein trigolion mwyaf agored i niwed.

"Dros y ddeufis diwethaf mae ein gwasanaethau wedi gorfod ymateb ac addasu i'r argyfwng wrth i ddigwyddiadau barhau i ddatblygu. Rydym wedi sefydlu gweithrediadau bwyd i sicrhau na fydd pobl ar draws y ddinas sy'n gwarchod neu'n cael anhawster ariannol oherwydd y feirws yn mynd heb fwyd. Rydym wedi newid y ffordd mae ein gwasanaethau gwastraff yn gweithredu er mwyn sicrhau y cynhelir casgliadau ymyl y ffordd tra'n cadw ein staff a'n trigolion yn ddiogel.

"Rydym wedi caffael miliynau o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol i sicrhau y gall ein gwasanaethau a'r sector gofal barhau i weithredu. Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda'r sector gofal i sicrhau y gall barhau i weithredu yn y cyfnod anodd hwn, gan ddarparu gwasanaeth hynod bwysig a gwerthfawr. Mae ein hysgolion ardal wedi agor i blant gweithwyr allweddol ac rydym wedi cynnig prydau a thaliadau arian parod i filoedd o blant difreintiedig trwy gydol y cyfnod cloi.

"Wrth gwrs mae hyn i gyd yn costio ac rydym wedi gwario mwy na £18 miliwn er mwyn sicrhau bod y ddinas yn parhau i redeg ac nad yw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein plith yn dioddef yn ddiangen. Rydym bob amser wedi canolbwyntio ar sicrhau gwydnwch gwasanaethau sy'n hanfodol i'n hymateb i COVID-19, gan wneud popeth a allwn i amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a'n staff, a cheisio atal y feirws rhag lledaenu."

Mae'r gwariant ychwanegol o £18m yn cael ei adolygu'n gyson, ac mae'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd wrth i ragor o bwysau ddod i'r amlwg. Mae hyn yn cynnwys asesu effaith ariannol cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau am gymorth gyda'r Dreth Gyngor a gwaith i sefydlu gwasanaethau 'Olrhain Cyswllt' effeithiol yn lleol fel rhan o fenter Cymru gyfan.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23879.html

 

Ffeithlun COVID-19 4: Ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau

Dros gyfnod argyfwng COVID-19, rydym wedi bod yn cynhyrchu cyfres o ffeithluniau, gan nodi ymateb Cyngor Caerdydd mewn rhifau.Dyma'r diweddaraf o'r ffeithluniau hyn.

Mae'n casglu popeth o niferoedd Cyfarpar Diogelu Personol a gyflenwir, i'r miloedd o oriau a ddarperir mewn gofal cartref bob wythnos; y cannoedd o barseli bwyd a ddarparwyd; y miliynau a ddosbarthwyd mewn cymorth busnes; y miloedd o oriau gofal plant a ddarperir bob wythnos yn ein hysgolion; y miloedd o dunelli o wastraff a gasglwyd.

Mae'r rhestr yn mynd ymlaen, ond gallwch weld yr holl rifau ar eich cyfer chi eich hun:

 

Caerdydd yn mynd i'r afael ag amddifadedd digidol

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu miloedd o ddyfeisiau digidol a donglau band eang drwy Gronfa Prosiect Technoleg Addysg Llywodraeth Cymru i gefnogi plant yng Nghaerdydd sydd wedi methu â dysgu ar-lein tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gydag ysgolion ar draws y ddinas i gyflawni'r cynllun, a fydd yn gweld dros 5000 o ddyfeisiau Chromebook neu i-Pad yn cael eu benthyg gan ysgolion sy'n bodoli eisoes neu eu prynu, a 2500 o ddonglau band eang yn cael eu harchebu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu amrywiaeth o ffyrdd o fynd i'r afael ag amddifadedd digidol, er mwyn i blant a phobl ifanc barhau i fanteisio ar ddysgu ar-lein, tra bod ysgolion ar gau.

"Rydym wedi bod yn casglu gwybodaeth i bennu faint yn union o ddisgyblion sydd angen cymorth digidol ac mae tîm prosiect penodol wedi'i sefydlu i gyflwyno'r cynllun newydd gyda chymorth ein hysgolion.

"Yn bwysig, yn ogystal â sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu parhau i ddysgu ac ymgysylltu ag addysg yn ystod yr argyfwng iechyd, rydym hefyd yn bwriadu i hyn fod yn rhan o ateb hirdymor i gefnogi dysgu o bell ar ôl y cloi mawr."