Back
Cyfnod cloi COVID-19 yn costio £29m i Gyngor Caerdydd

25/05/20

Yn ôl adroddiad, gallai'r ymateb i'r argyfwng Covid-19 gostio £29m i Gyngor Caerdydd wrth iddo wario mwy o arian a cholli refeniw yn nhri mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

Mae datganiad gan y Cabinet i Gyngor Caerdydd wedi datgelu'r gost sydd ynghlwm wrth ddelio ag effeithiau'r feirws.

Mae'r awdurdod yn amcangyfrif ei fod wedi gwario mwy na £18m yn ymateb i'r argyfwng, ac amcangyfrifir y gallai £11m arall o incwm gael ei golli erbyn diwedd mis Mehefin 2020 o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19.

Mae'r gwariant o £18m sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

        Gaffael Cyfarpar Diogelu Personol i gefnogi'r gwaith parhaus o ddarparu gwasanaethau'r Cyngor a'r sector gofal ehangach

        Cynnig llety brys i gynorthwyo pobl ddigartref yn ystod y pandemig

        Parhau i roi bwyd / cymorth ariannol i'r rhai sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim, o ystyried y ffaith bod ysgolion ar gau

        Cymorth i ddarparwyr gofal cartref a phreswyl i adlewyrchu'r costau ychwanegol o roi gofal yn ystod y pandemig

        Costau yr eir iddynt i gyflawni newidiadau gweithredol eang sy'n angenrheidiol i sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu'n ddiogel, gan gynnwys gwaredu gwastraff a darparu gwasanaethau profedigaeth

        Rhoi cymorth i gyflenwyr, sy'n cael eu talu yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth, er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau yn ystod ac ar ôl yr argyfwng COVID-19.

 

Dywedodd y Cyng Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymateb yn gyflym i'r argyfwng, gan newid y ffordd rydym yn gweithio, gan roi ffocws clir ar gynnal gwasanaethau hanfodol sy'n darparu ar gyfer ein trigolion mwyaf agored i niwed.

"Dros y ddeufis diwethaf mae ein gwasanaethau wedi gorfod ymateb ac addasu i'r argyfwng wrth i ddigwyddiadau barhau i ddatblygu. Rydym wedi sefydlu gweithrediadau bwyd i sicrhau na fydd pobl ar draws y ddinas sy'n gwarchod neu'n cael anhawster ariannol oherwydd y feirws yn mynd heb fwyd. Rydym wedi newid y ffordd mae ein gwasanaethau gwastraff yn gweithredu er mwyn sicrhau y cynhelir casgliadau ymyl y ffordd tra'n cadw ein staff a'n trigolion yn ddiogel.

"Rydym wedi caffael miliynau o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol i sicrhau y gall ein gwasanaethau a'r sector gofal barhau i weithredu. Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda'r sector gofal i sicrhau y gall barhau i weithredu yn y cyfnod anodd hwn, gan ddarparu gwasanaeth hynod bwysig a gwerthfawr. Mae ein hysgolion ardal wedi agor i blant gweithwyr allweddol ac rydym wedi cynnig prydau a thaliadau arian parod i filoedd o blant difreintiedig trwy gydol y cyfnod cloi.

"Wrth gwrs mae hyn i gyd yn costio ac rydym wedi gwario mwy na £18 miliwn er mwyn sicrhau bod y ddinas yn parhau i redeg ac nad yw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein plith yn dioddef yn ddiangen. Rydym bob amser wedi canolbwyntio ar sicrhau gwydnwch gwasanaethau sy'n hanfodol i'n hymateb i COVID-19, gan wneud popeth a allwn i amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a'n staff, a cheisio atal y feirws rhag lledaenu."

Mae'r gwariant ychwanegol o £18m yn cael ei adolygu'n gyson, ac mae'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd wrth i ragor o bwysau ddod i'r amlwg. Mae hyn yn cynnwys asesu effaith ariannol cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau am gymorth gyda'r Dreth Gyngor a gwaith i sefydlu gwasanaethau 'Olrhain Cyswllt' effeithiol yn lleol fel rhan o fenter Cymru gyfan.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Pan edrychwn ar incwm, rydym yn amcangyfrif y byddwn yn colli dros £11m o ganlyniad uniongyrchol i Covid-19. Mae'r incwm a gollir yn ystod y cyfnod cloi yn cynnwys cau lleoliadau diwylliannol a chwaraeon y Cyngor fel theatrau, Castell Caerdydd, Dŵr Gwyn Caerdydd a Neuadd y Ddinas. Mae hefyd yn adlewyrchu llai o weithgarwch mewn meysydd eraill sy'n creu incwm, gan gynnwys cynllunio, parcio, troseddau traffig sy'n symud, gwastraff masnachol, cofrestru ac arlwyo mewn ysgolion.

"Yn debyg i wariant, bydd yr amcangyfrif hwn yn cael ei fonitro'n ofalus a'i ddiweddaru yn ôl yr angen. Dros amser bydd angen dadansoddi'r asesiad o ffrydiau incwm pellach a'r un mwyaf arwyddocaol fydd y posibilrwydd o unrhyw effaith ar gasglu'r Dreth Gyngor eleni.  Mae pob ceiniog rydym yn ei chymryd ar gyfer y Dreth Gyngor yn awr yn hanfodol. Mae'n ein helpu i gynnal llif arian rheolaidd, sy'n ein galluogi i reoli rhywfaint o'r gwariant a'r colledion incwm rydym wedi'u gweld."

Mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd yn gallu hawlio'n ôl y gwariant ychwanegol o £18m gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Galedi Covid-19. Mae'r gronfa hon werth £110m ar hyn o bryd ac mae ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru ei defnyddio. Hyd yma mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn £465,000 i dalu am wariant sy'n gysylltiedig â Covid-19 yn ystod wythnosau olaf mis Mawrth.

Mae'r adroddiad yn dweud, fodd bynnag, ei bod yn debygol na fydd y lefel ariannu bresennol a gyhoeddwyd yn ddigon ar gyfer yr holl ofynion gwariant ar lefel Cymru gyfan, ac nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto ynghylch a fydd incwm a gollwyd yn cael ei ad-dalu gan Lywodraeth Cymru.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, ac rydym yn cyflwyno ceisiadau iddi am gostau sy'n gysylltiedig â Covid-19 bob mis.  Talwyd ein cyflwyniad ar gyfer mis Mawrth yn llawn. Fodd bynnag, gwyddom mai dim ond rhan o'r mis hwnnw yr effeithiwyd arno gan y cyfnod cloi, ac mae'r costau yn y misoedd ar ôl hynny'n uwch o lawer.  Mae yna, wrth gwrs, elfen o risg o ran adennill costau parhaus. Yn arbennig gan fod y trefniadau ariannu presennol dim ond wedi'u cadarnhau tan ddiwedd Mehefin 2020. Mae'n amlwg i ni y bydd yr heriau a wynebwn a'r arian rydym yn ei wario i ddelio â'r heriau hynny yn ymestyn y tu hwnt i hyn.

"Rydym wrthi'n gweithio ar y goblygiadau o symud tuag at yr hyn sy'n debygol o fod yn "norm newydd" wrth i gyfyngiadau'r cyfnod cloi gael eu lleddfu a'r cyfnod adfer ddechrau. Bydd angen newid rhai gwasanaethau er mwyn cadw at reolau a chyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol. Mae'n rhaid i ni sicrhau diogelwch staff a thrigolion yn hyn oll. Efallai y bydd goblygiadau ariannol sylweddol, gyda ffrydiau incwm yn arbennig yn debygol o gymryd cryn amser i ddychwelyd i lefelau arferol.

"Mae trafodaethau cadarnhaol ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae'r sefyllfa'n esblygu'n barhaus mewn ymateb i gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru a'r llywodraeth ganolog ac mae angen mwy o eglurder ar ddyraniadau cyllid eraill sydd wedi'u gwneud, gan gynnwys y £95m y mae Cymru'n ei dderbyn o'r £1.6 biliwn ychwanegol ar gyfer cynghorau Lloegr, a gyhoeddwyd ar 18 Ebrill 2020. Bydd y gwaith o fonitro ein cyllideb ar gyfer eleni a sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu hariannu yn parhau, yn ogystal â'r gwaith o baratoi ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Er bod llawer o ansicrwydd i bob un ohonom ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i geisio gwerth am arian, newid y ffordd mae ein gwasanaethau'n gweithio, a defnyddio ein cyllidebau i gefnogi gwasanaethau hanfodol a thrigolion a busnesau ein dinas yn ystod yr argyfwng hwn ac yn y blynyddoedd i ddod"