Back
Diweddariad COVID-19: 14 Mai

Yn y diweddariad COVID-19 a ddarparwyd gan Gyngor Caerdydd heno:caiff mesurau ymbellhau cymdeithasol eu gosod ar Stryd y Castell ddydd Sul; cynllunio manwl yn mynd rhagddo i agor CAGCau Caerdydd cyn gynted â phosib; mae'r Gwasanaeth Tiwtor EOTAS yn helpu plant drwy'r argyfwng; adnoddau llyfrgell ar-lein; a sicrhau'r dewis cywir o sgriniau diogelwch COVID-19 ar gyfer tacsis

 

Caiff mesurau ymbellhau cymdeithasol eu gosod ar Stryd y Castell ddydd Sul

Caiff y lôn draffig ger Castell Caerdydd, ar Stryd y Castell, ei chau ddydd Sul yma, 17 Mai, er mwyn ymestyn y palmant i'r heol i'w ddefnyddio gan gerddwyr a beicwyr.

Dyma'r project cyntaf i'w roi ar waith yng nghanol y ddinas i gadw'r cyhoedd yn ddiogel a'u galluogi i gadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol ar rwydwaith y briffordd. Cafodd gwaith arall ei gyflwyno'n llwyddiannus yn gynharach o amgylch Llyn Parc y Rhath a oedd yn cynnwys creu llwybr cerdded unffordd o amgylch y llyn i gynorthwyo â mesurau ymbellhau cymdeithasol, a hefyd cafwyd gwared ar y mannau parcio i ymwelwyroedd yn agosaf at y llyn, i wneud lle ychwanegol i feicwyr a rhedwyr.

Bydd y man newydd hwn a rennir yn rhedeg o gyffordd Heol y Gadeirlan/Heol y Bont-faen, dros bont Treganna, ar hyd Stryd y Castell, Heol y Dug a hyd at gyffordd Heol y Gogledd a Boulevard de Nantes.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae rhaid i ni sicrhau bod unrhyw newidiadau rydym yn eu gwneud i ffyrdd a phalmentydd yn ddiogel i bawb sy'n defnyddio'r ffordd. Stryd y Castell yw'r cynllun ffordd cyntaf yn y ddinas. Caiff ei osod ddydd Sul ac rydym wrthi hefyd yn ystyried cyflwyno cynllun tebyg ar Stryd Wood.

"Mae'n amhosibl i ni weddnewid yr holl fannau cyhoeddus yn y ddinas dros nos, ond rydym yn gwneud popeth ag y gallwn, gyda'r adnoddau sydd ar gael, i gyflwyno'r cynlluniau ymbellhau cymdeithasol hyn cyn gynted â phosib.

"Gyda'r cynnydd arwyddocaol yn niferoedd y bobl sy'n beicio a cherdded i'r ddinas, mae'n bwysig, yn fwy nag erioed, fod pawb sy'n defnyddio gofod cyhoeddus yn parchu ac yn ofalgar tuag at eraill, yn enwedig at ddefnyddwyr sydd yn agored i niwed."

Pan gaiff y man newydd a rennir ei osod ar Stryd y Castell, caiff ei farcio dros dro gyda chonau traffig. Caiff y conau hyn eu hamnewid gyda chonau polyn wedi eu bolltio maes o law.

Caiff cynllun peilot ei lansio ar Welfiled Road, yn Plasnewydd yn fuan, i alluogi ymbellhau cymdeithasol mewn canolfannau siopa yn yr ardal. Mae'r cyngor wrthi'n gweithio gyda busnesau yn yr ardal i ddatblygu'r cynllun terfynol, ond bydd yn cynnwys dileu'r mannau parcio ar y naill ochr o'r ffordd i alluogi'r gwaith o ymestyn y palmant i roi ragor o le i gadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol.

 

Cynllunio manwl yn mynd rhagddo i agor CAGCau Caerdydd cyn gynted â phosib

Mae Cyngor Caerdydd wrthi'n rhoi cynlluniau ar waith i agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGCau) ar Ffordd Lamby a Chlos Bessemer cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Cynhelir asesiadau manwl i sicrhau y gall y ddau safle weithredu gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith i sicrhau diogelwch trigolion sy'n defnyddio'r cyfleusterau a'r staff sy'n gweithio yno.

Mae system archebu ar-lein yn cael ei datblygu a bydd yn galluogi trigolion i archebu slot apwyntiad. Bydd hyn yn sicrhau y gall y cyngor reoli mynediad i'r ddwy CAGC yn haws gan leihau unrhyw draffig a allai gronni.

Dim ond os oes ganddynt apwyntiad a drefnwyd ymlaen llaw y gall trigolion ddefnyddio'r safleoedd. Ni fydd mynediad i unrhyw heb apwyntiad.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Rwy'n siŵr bod pawb yn deall bod rhaid ystyried diogelwch ein trigolion a staff yn brif flaenoriaeth. Oherwydd yr amgylchiadau presennol, yn anffodus, ni allwn yn syml agor y cyfleusterau hyn a'u gweithredu fel y gwnaethom cyn i'r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno.

"Rydym wedi cynnal asesiad risg iechyd a diogelwch manwl, yn ogystal ag asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, sy'n ei gwneud yn glir bod rhaid ailfodelu'r safleoedd i sicrhau ei bod yn bosib cadw pellter o 2 fetr rhwng trigolion a'n staff bob amser.

"Byddwn hefyd yn cynnig llai o sgipiau, felly gall fod angen rhoi cyfyngiadau ar waith ar ba fath o wastraff y gellir dod ag ef i'r CAGC yn y lle cyntaf.

"Mae'r holl fanylion hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd a hoffwn roi sicrwydd i drigolion ein bod yn gweithio'n galed i'w hagor cyn gynted ag y gallwn a phan fyddwn yn hyderus y gallant weithredu'n ddiogel. Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch pawb."

Mae Ffordd Lamby yn ddepo gweithredol ac mae'n hanfodol felly nad yw traffig yn cronni ar Ffordd Rover sef y prif lwybr i'r safle. Os bydd gormod o draffig yn cronni, ni fydd y cerbydau gwastraff yn gallu mynd i'r safle ac fe gaiff hyn effaith sylweddol ar gasgliadau ymyl y ffordd i drigolion y ddinas. 

Aeth y Cynghorydd Michael yn ei flaen i ddweud: "Does dim amheuaeth bod angen i ni gyflwyno system archebu ar-lein i reoli'r llif traffig, yn arbennig ar Ffordd Lamby. Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth ar sut y caiff hyn ei weithredu a phryd y bydd y cyfleusterau yn ailagor ar ôl i ni gael sicrwydd bod y trefniadau newydd arfaethedig yn gweithio'n effeithiol ac yn ddiogel i bawb."

 

Mae'r Gwasanaeth Tiwtor EOTAS yn helpu plant drwy'r argyfwng

Mae'r Gwasanaeth Tiwtora EOTAS (Addysg Heblaw yn yr Ysgol) wedi parhau i gefnogi ac addysgu'r plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn ein cymuned yn ystod yr argyfwng iechyd presennol.

Mae'r athrawon a'n Tîm Sgiliau a Chymorth wedi bod mewn cysylltiad â dysgwyr a'u teuluoedd yn ddyddiol.  Mae gwersi a sesiynau cymorth wedi'u cynnal dros y ffôn, gan ddefnyddio'r rhyngrwyd a thrwy WhatsApp i sicrhau bod pawb yn gallu eu mynychu. 

Mae gweithgareddau ac adnoddau wedi'u danfon i gartrefi'r 50% o'n dysgwyr nad ydynt yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd gartref.  Mae llawer o'n dysgwyr a'u teuluoedd eisoes wedi'u hynysu ac â  chyflyrau iechyd meddwl felly mae gwaith, trefn a chysylltiad rheolaidd yn bwysig iawn. 

Dywedodd un rhiant, "Diolch yn fawr am y galwadau ffôn cyson - maen nhw'n helpu fy iechyd meddwl fy hun i gael rhywun yno'n meddwl amdanom ni. A diolch am yr offer celf a chrefft a'r llyfrau lliwio ymwybyddiaeth ofalgar. Roedd fy mhlentyn mor hapus i gael ei bag o bethau hwyliog a rhoddodd wên ar ei hwyneb".

Rydym hefyd yn cefnogi ein pobl ifanc ym mlwyddyn 11 sy'n ymgeisio am le mewn colegau a gwaith i barhau'n gadarnhaol ac yn optimistaidd.

Mae rhiant arall wrth ei bodd y bydd eu mab "yn cyflawni ei freuddwyd o fynychu'r chweched dosbarth gyda'i ffrindiau ysgol gynt".

Mae Microsoft Teams wedi'u helpu i weithio'n agos gyda thimau eraill y Cyngor ac asiantaethau allanol gan gynnwys Gwasanaethau Plant, Llamau, CAMHS, ysgolion a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.

Mae'r Gwasanaeth Tiwtora yn falch o gefnogi rhai o'n plant sydd fwyaf agored i niwed ar yr adeg ddigyffelyb hon ac i fod yn #GweithioDrosGaerdydd #GweithioGydanGilydd

 

Adnoddau llyfrgell ar-lein

Mae amrywiaeth o adnoddau digidol ar gael o Wasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd i bobl eu mwynhau gartref.

Mae gan y gwasanaeth e-lyfrau am ddim, llyfrau e-sain, e-gylchgronau, e-bapurau newydd ac adnoddau hynafiaeth y gall aelodau llyfrgelloedd eu cyrchu o'u dyfeisiau eu hunain.

Gellir gweld y catalog electronigyma:

https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy/

Mae na adnoddau ar gyfer oedolion a phlant, gan gynnwys llyfr newydd (uchod) gan ddarlunydd Axel Scheffler a thîm o arbenigwyr i helpu plant a theuluoedd i ddeall COVID-19.

Gall preswylwyr nad ydynt yn aelodau o lyfrgell hefyd ymuno ar-lein trwy's linc uchod.

Mae'r timau hefyd wedi llunio gweithgareddau ar gyfer y cloi mawr gan gynnwys amser odli, adnoddau Hwyl Hanes i roi rhagflas i bobl o'r cyfoeth o e-adnoddau hanes lleol a threftadaeth sydd ar gael a chanllawiau 'sut i' i helpu defnyddwyr i gael y gorau o'r catalog ar-lein.

Gallwch weld gweithgareddau'r cloi mawr yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Llyfrgelloedd-ac-archifau/gweithgareddau-wrth-ynysu/Pages/default.aspx

 

Sicrhau'r dewis cywir o sgriniau diogelwch COVID-19 ar gyfer tacsis

Mae'r cyngor yn gweithio gyda'r diwydiant tacsis a llogi preifat i sicrhau bod y sgriniau COVID-19 a ddewisir ac a ddefnyddir yn ddiogel ac nad ydynt yn peryglu'r systemau diogelwch cymhleth a geir mewn cerbydau modern.

Mae'r cyngor wedi derbyn canllawiau gan Lywodraeth Cymru, sy'n amlinellu'r safonau a'r rheoliadau y dylid eu dilyn, ac rydym yn defnyddio'r canllawiau hyn i lywio'r dewis o sgrin.

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/cymorth/cynnwys-syn-benodol-i-sector/cyngor-ar-fasnach-tacsis

Wrth osod rhywbeth mewn cerbyd yn ôl-weithredol, mae'n hanfodol y caiff ei wneud yn ddiogel ac nad yw'n peryglu cyfanrwydd strwythur y cerbyd. Mae gan gerbydau modern nifer o fagiau awyr ac mae'n bwysig na chaiff y mesurau diogelwch hyn eu difrodi nac eu peryglu mewn unrhyw ffordd wrth osod y sgrin.