Back
COVID-19; Dull partneriaeth yn cefnogi plant agored i niwed Caerdydd

 12/5/2020

Mae gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o dimau iechyd, addysg a gwasanaethau plant wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod plant ag anableddau ac anghenion meddygol cymhleth yn gallu parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, yn ystod COVID-19.

Sefydlwyd y grŵp amlasiantaeth i alluogi disgyblion a'u teuluoedd i gyrchu gwasanaethau, cyngor a chymorth gan nifer o weithwyr proffesiynol ym meysydd gofal iechyd, addysg a gwasanaethau plant.

Hefyd, datblygwyd gwasanaeth brysbennu y gall teuluoedd a gweithwyr proffesiynol atgyfeirio atynt i blant ag anghenion gofal iechyd, fel bod modd defnyddio'r lefel gywir o gyngor a chymorth.

Mae'r grŵp yn cyfarfod bob wythnos ac mae'n cynnwys staff ysgol, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr clinigol, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith, nyrsys cymunedol, pediatregwyr, ymwelwyr iechyd anghenion arbennig, deietegwyr a ffisiotherapyddion.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd:  "Mae ein timau wedi gweithio'n galed i sefydlu a chynnal dull amlasiantaeth sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion a'u teuluoedd, gan sicrhau y gallant fanteisio ar yr holl ofal a chymorth sydd eu hangen arnynt mewn un lleoliad, tra'n cynnal mesurau i leihau lledaeniad yr haint.

"Mae'n dda gweld ystod helaeth o weithwyr proffesiynol, oll yn cydweithio i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu bodloni mewn ffordd gyfannol yn ystod yr ymateb i COVID-19 ac yn cefnogi ein teuluoedd."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae'r argyfwng iechyd byd eang yn adeg annifyr  bob un ohonom ond yn benodol i blant a phobl ifanc agored i niwed. I'r sawl ag anghenion meddygol neu ddysgu cymhleth, mae'r tarfu hwn i ofal rheolaidd a beunydd yn gallu bod yn annifyr, gan gael effaith niweidiol ar les. Mae'r enghraifft ragorol hon o gydweithio yn sicrhau bod modd parhau i roi'r gofal a'r cymorth gorau yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Dywedodd Rose Whittle, Rheolwr y Gyfarwyddiaeth Iechyd Cymunedol Plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Bu'n wych gweld sut mae ein timau clinigol amlddisgyblaeth wedi ymateb i'r argyfwng hwn, gan edrych am atebion arloesol a chydweithio gyda chydweithwyr o Addysg a Gofal Cymdeithasol. Mae hyn wedi helpu i gyflawni ymateb amlasiantaeth i gefnogi lles plant a phobl ifanc ag anableddau cymhleth ac anghenion meddygol, gan sicrhau gwasanaeth ymatebol i deuluoedd. Diolch i bawb sy'n rhan ohono, dyma waith partneriaeth ar ei orau."