Back
Ailfodelu mannau cyhoeddus y ddinas er diogelwch

Mae ymestyn palmentydd i heolydd, creu llwybrau beiciau dros dro, tynnu dodrefn stryd, cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth cyflymder ac ailgynllunio'r gofod cyhoeddus o amgylch canolfannau siopa cymunedol ymhlith y syniadau sy'n cael eu cynnig ar unwaith gan Gyngor Caerdydd yn rhan o'r ymateb parhaus i COVID-19.

Gan fod disgwyl y bydd y cyfyngiadau cloi yn cael eu llacio yr wythnos nesaf, mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i gyflwyno nifer o gynlluniau peilot sydd â'r nod o gadw'r cyhoedd yn ddiogel a sicrhau ei bod yn bosibl ymbellhau'n gymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Y disgwyl yw y bydd ymbellhau cymdeithasol yn rhan o'r ‘normal newydd' am beth amser, ac mae hyn yn creu her sylweddol i drigolion a'r awdurdod lleol.

"Chafodd palmentydd y ddinas mo'u cynllunio i ganiatáu pellter o ddau fetr rhwng pobl eraill, felly bydd yn rhaid addasu gofod cyhoeddus i sicrhau y gellir cynnal ymbellhau cymdeithasol wrth i'r ddinas ddechrau ail-agor yn raddol ar gyfer busnes."

Yr ardal siopa leol gyntaf a gaiff ei haddasu am resymau diogelwch yw Wellfield Road ym Mhlasnewydd. Mae cynlluniau wedi'u llunio i gael gwared ar barcio ceir ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd er mwyn sicrhau bod y palmant yn gallu cael ei ymestyn yn ddiogel i'r briffordd i'r cyhoedd ei defnyddio.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Mae'n bwysig bod pawb yn deall na all y ddinas gael ei thrawsnewid dros nos i sicrhau bod canllawiau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn. Mae hon yn dasg sylweddol ac mae'n rhaid i ni fod yn hyderus bod unrhyw fesurau dros dro y byddwn yn eu rhoi ar waith yn ddiogel i'r cyhoedd eu defnyddio.

"Wellfield Road yw'r cynllun peilot cyntaf ar gyfer ardal siopa leol rydyn ni'n bwriadu ei haddasu. Pan fydd y mesurau hyn ar waith a'r asesiadau angenrheidiol wedi cael eu cynnal, byddwn yn ceisio cyflwyno cynlluniau eraill mewn gwahanol rannau o'r ddinasac mae gwaith hefyd ar y gweill i greu 'canol dinas ddiogelach' hefyd. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yng nghanol y ddinas i sicrhau y bydd unrhyw ddull a gyflwynwn yn gweithio i fusnesau, trigolion a phobl sy'n teithio i'w gwaith."

Mae cynlluniau traffig ffyrdd eraill hefyd yn cael eu hystyried yn y ddinas gan gynnwys cyflwyno'r cynigion ar Aer Glân y cytunwyd arnynt eisoes yng nghanol y ddinas ar Stryd y Castell.

Dywedodd y Cynghorydd Wild: "Cyn argyfwng COVID-19, y cyhoeddodd y Cyngor ein gweledigaeth trafnidiaeth strategol 10 mlynedd ar gyfer y ddinas, ar ôl ymgynghori. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau Aer Glân ar gyfer Stryd y Castell.

"Byddwn nawr yn cyflwyno rhai o'r cynlluniau hyn a fydd yn helpu i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod y cyfnod adfer. "Byddwn nawr yn cyflwyno rhai o'r cynlluniau hyn a fydd yn helpu i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod y cyfnod adfer. Y cyntaf fydd y lôn draffig ger y Castell ar Stryd y Castell a fydd yn cael ei chau er mwyn ymestyn y palmant i'r heol i'w ddefnyddio gan gerddwyr a beicwyr. Bydd hyn yn rhedeg o gyffordd Heol y Gadeirlan/Heol y Bont-faen, dros bont Treganna, ar hyd Stryd y Castell, Heol y Dug a hyd at gyffordd Heol y Gogledd - Boulevard de Nantes.

"Byddwn hefyd yn cyflwyno'r cynllun gwella trafnidiaeth y cytunwyd arno yn Stryd Wood a'r Sgwâr Canolog a fydd yn cynnwysgwelliannau i ddiogelwch cerddwyr, cyfyngiadau ar draffig trwodd tra'n sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal i breswylwyr a busnesau, yn ogystal â datblygu beicffordd newydd ar Stryd Wood."

Mae cynlluniau pellach hefyd yn cael eu creu i sicrhau y gall pobl ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy yn ddiogel i fynd o amgylch y ddinas yn ystod y cyfnod adfer a rhoddir manylion pellach am y cynlluniau hyn yn yr wythnosau i ddod.