Back
Gwaith i wella cyfleusterau chwaraeon ym Mharc Sanatorium

1/5/20

 
Mae'r gwaith gwella sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd ym Mharc Sanatorium yn adfer marciau dau faes chwaraeon presennol; un cae pêl-droed, un cae rygbi gyda rhywfaint o ffensys, rhwystrau i wylwyr ac mae llochesi tîm wedi'i ychwanegu at y cae pêl-droed. Mae hyn er mwyn darparu cyfleusterau chwaraeon ar gyfer defnyddwyr a disgyblion yn y gymuned tra bod datblygiad ysgol uwchradd newydd Fitzalan yn cael ei gwblhau.

Bydd hefyd yn darparu amwynderau etifeddol gwell a fydd ar gael i'w defnyddio gan y gymuned leol yn dilyn y gwaith, er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Bydd hefyd chwech yn fwy o goed ar y safle nag sydd yna ar hyn o bryd, pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau.
 

Bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn Mehefin 2020 ac ni fydd yn effeithio ar fynediad y cyhoedd i'r parc. 

Mae adfer lleiniau chwaraeon yn ddatblygiad a ganiateir ac nid oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer. 

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith galluogi a oedd yn gysylltiedig ag ysgol uwchradd newydd Fitzalan ar 18 Mawrth, 2020.