Back
COVID-19: Caerdydd yn mynd i'r afael ag amddifadedd digidol

30/4/2020


Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu amrywiaeth o ffyrdd o fynd i'r afael ag amddifadedd digidol, er mwyn i blant a phobl ifanc barhau i fanteisio ar ddysgu ar-lein, tra bo ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.

Mae'r Cyngor wedi bod yn casglu gwybodaeth yn ddiweddar ar faint o ddisgyblion sydd angen cymorth digidol. Mae'r gwaith hwn wedi ei wneud mewn amryw ffordd, gan gynnwys galwadau ffôn, llythyron a  llwyfannau cyfathrebu electronig presennol ysgolion, drwy ffonau symudol fel arfer.

Mae ysgolion Caerdydd yn adnabod eu teuluoedd yn dda ac mae gan lawer ohonynt syniad da iawn eisoes ynghylch pa fynediad sydd gan eu disgyblion gartref, gyda rhai eisoes yn darparu dyfeisiau i ddisgyblion sydd dan anfantais ddigidol. 

Yn ogystal, mae rhai ysgolion wedi mynd y tu hwnt i hyn i sicrhau y gall disgyblion barhau i ddysgu gartref, drwy argraffu gwaith i deuluoedd sydd heb fynediad at ddyfeisiau a/neu argraffwyr, a darparu adnoddau gan gynnwys llyfrau a deunyddiau ysgrifennu.

Mae Caerdydd wedi archebu 1000 o lyfrau Chrome yn ogystal â'r 3000 sydd eisoes wedi'u prynu drwy Gronfa Project Technoleg Addysg. Mae hyn yn ychwanegol at roi cyfarpar presennol yr ysgol ar waith at ddibenion gwahanol. Mae tîm project penodol wedi'i greu i gyflwyno'r cynllun newydd a fydd yn darparu dyfeisiau defnyddwyr a band eang MiFi i'r holl ddisgyblion hynny sydd o dan anfantais ddigidol.

Yn bwysig iawn, mae Caerdydd yn bwriadu gwneud hyn yn ateb hirdymor i fynd i'r afael ag amddifadedd digidol, wedi'r cyfnod cloi.