Back
Cynhelir casgliadau gwastraff gardd un tro yn ystod mis Mai
Caiff gwastraff gardd aelwydydd Caerdydd ei gasglu un tro yn ystod mis Mai, mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi.

Mae’r casgliadau ychwanegol wedi eu trefnu i helpu trigolion i gael gwared ar rywfaint o’u tociadau gwair a gwastraff gardd, sydd wedi cronni ers atal y gwasanaeth oherwydd y pandemig COVID-19.

Rhaid i drigolion fodd bynnag roi gwastraff gardd allan i’w gasglu dim ond yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro.

Ni chaiff unrhyw wastraff gardd ychwanegol, a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, ei gasglu.

Rydym wedi bod yn gweithio ar ddiweddaru'r wybodaeth ar y calendr i breswylwyr ym mhob rhan o’r wefan, ap Cardiff gov a BOBi (ein Sgyrsfot). Nodwch mai dim ond y tri gasgliad nesaf ar gyfer eich eiddo y mae'r calendrau yn eu dangos felly os ydych wedi trefnu casgliad gwastraff gardd yn hwyrach yn y mis ni fydd i’w weld ar unwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: “Mae llawer o drigolion wedi bod yn cysylltu â ni yn gofyn a fyddai’n bosib i ni wneud casgliad gwastraff gardd yn ystod yr argyfwng. Rydym ni wedi datblygu cynllun sy’n cynnwys ein timau gwastraff yn dod yn arbennig i weithio bob dydd Sadwrn ym mis Mai i gasglu gwastraff gardd. Gyda llai o staff oherwydd y feirws, hoffwn bwysleisio nad oedd yn hawdd trefnu hyn.

“Felly, mae’n bwysig i bobl ddeall mai dim ond un tro fydd hyn yn digwydd a bod pawb yn gwneud eu rhan ac yn rhoi gwastraff gardd allan dim ond yn eu biniau gwyrdd neu eu sachau gardd. Bydd rhaid gadael unrhyw wastraff gardd ychwanegol yn ôl. Ni fydd gennym ni yr amser na’r gallu i gasglu rhagor heb amharu ar ein casgliadau wythnosol arferol ar draws y ddinas.”

Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Llun, caiff eich gwastraff gardd ei gasglu ddydd Sadwrn, 2 Mai.

Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Mawrth, caiff eich gwastraff gardd ei gasglu ddydd Sadwrn, 9 Mai.

Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Mercher, caiff eich gwastraff gardd ei gasglu ddydd Sadwrn, 16 Mai.

Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Iau, caiff eich gwastraff gardd ei gasglu ddydd Sadwrn, 23 Mai.

Y Casgliad untro olaf fydd ar 30 Mai ar gyfer trigolion sydd fel arfer yn cael casgliadau gwastraff ar ddydd Gwener.

Mae'r tabl canlynol yn dangos pryd y bydd y casgliadau ychwanegol hyn yn digwydd ym mhob ward yn y ddinas.

Dydd Sadwrn 2 Mai - Creigiau/Sain Ffagan, Radur/Pentre Poeth, y Tyllgoed, Pentyrch, Tongwynlais, Trelái a Chaerau

Dydd Sadwrn 9 Mai - Treganna, Ystum Taf, Llandaf, Felindre, Butetown, Grangetown a Glan-yr-afon

Dydd Sadwrn 16 Mai - Cyncoed, Pentwyn, Plasnewydd, Gabalfa, Cathays a Phen-y-lan

Dydd Sadwrn 23 Mai - Pontprennau/Pentref Llaneirwg, Trowbridge, Llanrhymni, Adamsdown, Tredelerch a Sblot

Dydd Sadwrn 30 Mai - Rhiwbeina, Llanisien, Llys-faen, y Mynydd Bychan a’r Eglwys Newydd