Back
Project Dyddiaduron y ‘Diff'; COVID-19 drwy lygaid plant a phobl ifanc Caerdydd

 

26/4/2020


Lansiwyd project ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd i rannu eu profiadau o COVID-19 drwy gofnodion wythnosol mewn dyddiaduron.

Mae Dyddiaduron y ‘Diff' yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc gofnodi eu gweithgareddau, meddyliau a theimladau yn ystod y pandemig byd-eang drwy gyflwyno cofnod fideo, collage lluniau neu straeon dyddiadur ysgrifenedig.

Gyda'r ysgolion ar gau, a'r holl ddigwyddiadau mawr a bach wedi eu canslo a phlant a phobl ifanc ymhobman yn gorfod aros gartref, gall y dyddiaduron ddangos sut mae plant a phobl ifanc yn treulio eu hamser, yn dysgu sgiliau newydd efallai, cael eu haddysgu gartref neu hyd yn oed rhannu syniadau â phlant y dyfodol.

Wedi'i gefnogi gan Amgueddfa Caerdydd, Screen Alliance Wales a Phrifysgol De Cymru, cafodd y project ei lansio gan Ymrwymiad Caerdydd ac mae'n cefnogi uchelgais Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant y Cenhedloedd Unedig.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rydym yn byw mewn adeg ddigynsail a bydd y digwyddiad hwn yn aros mewn hanes, yn cael ei drafod gan genedlaethau'r dyfodol. Dyna pam mae'n bwysig rhoi llais i'n plant a phobl ifanc er mwyn cofnodi eu meddyliau, teimladau ac emosiynau yn ystod yr argyfwng iechyd byd-eang hwn am byth.

"Bydd hyn yn gyfnod ffurfiannol ar gyfer ein plant a phobli fanc sy'n byw yng Nghaerdydd a nod Dyddiaduron y ‘Diff' yw casglu eu profiadau i allu eu cofio am eu gwydnwch, eu gobaith a'u hagwedd gadarnhaol."

Mae'r project ar gael i bobl 7-16 oed, gallwch gyflwyno dyddiaduron yn Gymraeg a Saesneg ac mae'n rhaid eu lanlwytho drwy'r platfform Hwb (https://sites.google.com/hwbcymru.net/the-covid-19-diff-diaries/home)

Gellid cyflwyno ceisiadau yn wythnosol  o 26 Ebrill 2020. Daw'r project i ben fis ar ôl i'r holl ysgolion ail-agor ar gyfer addysg statudol. Rhaid cael cydsyniad gan riant cyn cyflwyno dyddiaduron.

Caiff gŵyl ffilm ei chynnal, yn arddangos y cofnodion a ddewisir gan banel o bobl ifanc, arbenigwyr o faes addysg a'r diwydiant ar ôl yr argyfwng iechyd.

Caiff uchafbwyntiau o geisiadau eu rhannu'n wythnosol drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd ac Addewid Caerdydd yn defnyddio hashnodau #TheDiffDiaries #DyddiaduronDiff  

Am ragor o wybodaeth am sut i gyflwyno cofnodion ewch i dudalen hwbhttps://sites.google.com/hwbcymru.net/the-covid-19-diff-diaries/homeneu dilynwch yr ymrwymiad Caerdydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol:

Facebook - Addewid Caerdyddhttps://www.facebook.com/cardiff.commitment.77

Instagram - Addewid Caerdyddhttps://www.instagram.com/cardiffcommitment/

Twitter-@AddewidCdydd https://twitter.com/AddewidCdydd

Addewid Caerdydd yw menter Cyngor Caerdydd sy'n dod â'r sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd i weithio mewn partneriaeth i gysylltu pobl ifanc â'r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael ym myd gwaith.

Nod Addewid Caerdydd yn y pen draw yw sicrhau bod pob person ifanc yn y ddinas yn cael swydd yn y diwedd a fydd yn ei alluogi i gyrraedd ei botensial llawn a chyfrannu at dwf economaidd y ddinas.