Back
Diweddariad COVID-19 - 3 Ebrill

Dyma'r crynodeb COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: nodyn i'ch atgoffa y bydd y ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn newid i gynllun talebau o'r dydd Llun yma;1,000 o wirfoddolwyr yn ymuno â Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd; pryd ar Glud yn cyflenwi i'r nifer uchaf o gwsmeriaid hyd yn hyn; a casgliadau gwastraff ac ailgylchu Gwyliau Banc y Pasg. 

 

Prydau Ysgol Am Ddim

Nodyn i'ch atgoffa y bydd y ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn newid i gynllun talebau o'r dydd Llun yma, 6 Ebrill ymlaen a chaiff ei ymestyn i gynnwys yr hyn a fyddai wedi bod yn gyfnod o bythefnos o wyliau Pasg i ysgolion. 

Bydd y cynllun talebau newydd yn disodli'r pecynnau bachu bwyd a ddarparwyd i ysgolion ers dydd Llun 23 Mawrth. 

Caiff rhieni a gofalwyr plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd daleb y gellir ei lawrlwytho gwerth £40 er budd eu plentyn/plant cymwys, a gellir ei wario yn un o'r archfarchnadoedd canlynol:

  • Tesco
  • Asda
  • Sainsbury's
  • Morrisons
  • Marks & Spencer
  • Waitrose

Bydd y trefniadau ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim ar ôl toriad y Pasg yn cael eu cyfathrebu maes o law. 

Mae'r Cyngor wedi llwyddo i ddarparu 45,000 o fagiau bachu i'w casglu a'u cymryd i'w bwyta oddi ar y safle, ond bydd y cynllun newydd yn cynorthwyo mesurau i leihau cyswllt cymdeithasol, fel y cyhoeddodd Llywodraeth y DG. 

Bydd teuluoedd cymwys yn derbyn llythyr gyda manylion y daleb yn uniongyrchol gan y Cyngor o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf. 

Cliciwch yma i weld copi o'r llythyr:

http://app.prmax.co.uk/collateral/163969.pdf 

I wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim, ebostiwchPrydauysgolamddim@caerdydd.gov.uk 

 

1,000 o wirfoddolwyr yn ymuno â Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd

Erbyn hyn, mae aelodaeth grŵp gwirfoddolwyr Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd yn cynnwys 1000 o breswylwyr o bob rhan o'r ddinas sydd wedi ymrwymo i neilltuo eu hamser a'u gwasanaethau i helpu pobl mewn angen yn ystod argyfwng COVID-19. 

O fewn pythefnos yn unig, mae'r cynllun wedi derbyn llu o gynigion o gefnogaeth a chymorth wrth i'r ddinas fynd i'r afael â'r heriau a achosir gan argyfwng y coronafeirws ac mae'n ceisio sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn gallu cael y darpariaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Wedi'i chynnwys ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd, mae Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd yn gweithredu fel gwasanaeth brocera, gan baru pobl a hoffai helpu â chyfleoedd gwirfoddoli ledled y ddinas. Gall y rhai sy'n chwilio am gymorth hefyd chwilio am help yn eu hardal leol ar y wefan. 

Mae llawer o'r gwirfoddolwyr hyn yn cefnogi gwaith timau'r Cyngor, er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol i'r rhai sydd mewn angen yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Ers ei lansio ar 20 Mawrth, ymwelwyd â thudalen gwe'r cynllun dros 42,100 o weithiau ac mae 1,026 o unigolion bellach wedi cofrestru i wneud yr hyn a allant i helpu eraill yn ystod yr argyfwng.  

Yn ogystal â'r wefan, mae Llinell Gyngor y Cyngor wedi derbyn 2,181 o alwadau gan unigolion y mae angen cymorth arnynt i gael eitemau hanfodol.

I ymuno â'r cynllun Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd, ewch i www.gwirfoddolicaerdydd.co.uk  neu ffoniwch 029 2087 1071 

 

Pryd ar Glud yn cyflenwi i'r nifer uchaf o gwsmeriaid hyd yn hyn

Mae gwasanaeth Pryd ar Glud Caerdydd yn ateb galw cynyddol, gyda disgwyl y bydd dros 2,000 o brydau bwyd yn cael eu cyflenwi yr wythnos hon.

Mae'r gwasanaeth rheng flaen yn parhau i gynnig i gwsmeriaid rheolaidd sy'n ei chael yn anodd coginio am wahanol resymau, bryd iach a maethlon o fwyd ac oherwydd yr argyfwng Coronafeirws presennol, mae mwy o bobl yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, sy'n cyflenwi ledled y ddinas.

Yr wythnos ddiwethaf, cyrhaeddodd Pryd ar Glud garreg filltir newydd, gan gyflenwi i'r nifer uchaf o gwsmeriaid hyd yma,  a hynny yn sgil mwy o gofrestriadau ac atgyfeiriadau. 

Bydd y tîm yn darparu dros 2,000 o brydau bwyd yr wythnos hon, gyda'r dosbarthu yn ystod yr wythnos yn cyrraedd uchafbwynt o ryw 300 y dydd. Mae'r penwythnosau hefyd wedi gweld cynnydd sydyn a'r disgwyl yw mai hwn fydd y prysuraf eto gan fod disgwyl i dros 500 o brydau gael eu dosbarthu ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Ydych chi'n adnabod rhywun a allai elwa o gael pryd o fwyd iach a maethlon wedi ei ddanfon i garreg eu drws?

Cewch fwy o wybodaeth yma:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Gwasanaethau-Cymdeithasol-a-Lles/Oedolion/pryd-ar-glud/Pages/default.aspx

 

Casgliadau gwastraff ac ailgylchu Gwyliau Banc y Pasg

Bydd eich diwrnod casglu yn parhau yn ôl yr arfer yn ystod y Pasg eleni, ond gall yr amseroedd casglu newid felly sicrhewch bod eich gwastraff allan erbyn 6am.

Bydd gwasanaethau casglu gwastraff yn gweithredu ar Ddydd Gwener (10 Ebrill) y Groglith a Dydd Llun y Pasg (13 Ebrill).

Bydd ein casglwyr sbwriel yn gweithio ar draws gwyliau banc y Pasg i sicrhau bod y gwasanaeth casglu yn parhau.