Back
Diweddariad COVID-19 - 1 Ebrill

Y diweddara am COVID-19 gan Gyngor Caerdydd: mynwentydd i gau dros dro ar ôl nifer uchel o ymwelwyr ar y penwythnos, a newidiadau i Farchnad Caerdydd yn sicrhau bod stondinau sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn aros ar agor. 

 

Mynwentydd Caerdydd i gau dros dro ar ôl nifer uchel o ymwelwyr ar y penwythnos

Caiff pedair mynwent yng Nghaerdydd eu cau i'r cyhoedd dros dro, oni bai eu bod yn mynd i angladd, yn dilyn penwythnos gyda llu o bobl yn ymweld â'r safleoedd ac yn methu cydymffurfio â chyfarwyddiadau'r Llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Michael Michael: "Nid oedd cau'r safleoedd hyn yn benderfyniad hawdd i ni, ond yn ystod yr argyfwng presennol, rhaid i ddiogelwch y cyhoedd a chyfyngu lledaeniad COVID-19 fod y flaenoriaeth gyntaf. 

"Yn anffodus, mae nifer yr ymwelwyr sydd wedi bod yn anarferol o uchel y penwythnos hwn ar y cyd a'r diffyg ymbellhau cymdeithasol yn golygu bod rhaid i ni wneud yr hyn y mae llawer o awdurdodau mewn ardaloedd eraill eisoes wedi'i wneud - cyfyngu mynediad. 

O 2 Ebrill bydd gatiau Mynwent Cathays, Mynwent y Gorllewin a Mynwent Pantmawr wedi eu cloi drwy'r amser, gyda mynediad cyfyngedig, am uchafswm o ddeg aelod teulu agos, dim ond pan gynhelir angladdau a chladdedigaethau ar y safle. 

Bydd mynediad cyfyngedig i Fynwent ac Amlosgfa Draenen Pen-y-graig hefyd. Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru bydd yr Amlosgfa ei hun ar gau i'r cyhoedd ehangach, ac eithrio i uchafswm o 10 aelod teulu agos yn mynychu angladdau a chladdedigaethau.  Ni chaniateir mynediad i'r cyhoedd i ardaloedd eraill y safle, megis y gerddi, y cofebion, neu'r Llyfr Coffa. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Rydym yn deall y bydd hyn yn anodd i rai pobl, er enghraifft os na allant ymweld â pherthynas ar ben-blwydd, ac rydym yn cydymdeimlo gyda hyn, ond mae hi'n adeg heriol ac yn y pen draw mae rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i gadw pobl yn ddiogel." 

 

Marchnad Caerdydd

Mae newidiadau wedi'u cyflwyno ym Marchnad Caerdydd i sicrhau y gall masnachwyr hanfodol barhau i gynnig cynnyrch ffres i gwsmeriaid ledled y ddinas yn ystod yr achosion o COVID19.

Mae'r oriau masnachu wedi'u gostwng i 8am -1.30pm gyda'r fynedfa a'r allanfa drwy Heol Eglwys Fair yn unig, er mwyn i dîm y farchnad allu rheoli nifer y cwsmeriaid sy'n dod i mewn i'r adeilad a sicrhau system ciwio ddiogel. 

Y masnachwyr sydd ar agor yw: 

E Aston (Fishmongers) Limited

Mae Ashton's, sydd wedi bod yn rhan o Farchnad Caerdydd ers ei hagor yn 1891, yn cynnig gwasanaeth cownter ffres a danfoniadau am ddim ledled y ddinas. Ashton's yw gwerthwyr pysgod annibynnol mwyaf Cymru, ac mae eu gwerthwyr pysgod medrus yn gallu cynnig y dewis gorau a mwyaf eang o bysgod i'w gwsmeriaid. Ffoniwch eu llinell archebu ar 029 2022 9201 i gael danfoniad am ddim.

 

JT Morgan Butchers

Mae JT Morgan Butchers, a sefydlwyd yn 1861, yn fusnes teuluol sydd wedi cael canmoliaeth gan bobl fel Rick Stein, Raymond Blanc ac Angela Gray. Maent yn darparu amrywiaeth o gigoedd o safon uchel, gan gynnwys cig oen morfa heli. Cysylltwch â llinell archebu JT Morgan ar 029 2038 8434  i holi am ddanfoniadau.

 

K Blackmore & Sons Butchers

Mae gan Blackmore Butchers enw da am gynnig cigoedd o safon a thoriadau anarferol. Maent wedi bod yn rhan o'r farchnad ers blynyddoedd lawer ac mae ganddynt lawer o gwsmeriaid ffyddlon. O doriadau cig eidion o safon, i gig gafr a phen moch, mae cigyddion Blackmore yn cynnig gwasanaeth cigyddiaeth heb ei ail. Ffoniwch 029 2039 0401 i gael gwybodaeth am ddanfoniadau.

 

Sullivans Fruit & Veg

Mae Sullivans Fruit and Veg fusnes teuluol, annibynnol gyda mwy na 50 o flynyddoedd o brofiad. Mae Sullivans yn cynnig bocsys ffrwythau a llysiau ar ben eu harchebion arferol ac yn cynnig gwasanaeth danfon am ddim ar gyfer archebion dros £10. Maent hefyd yn cyflenwi llaeth, wyau a choed ar gyfer stofiau llosgi coed fel rhan o'u gwasanaeth danfoniadau. Archebwch ar-lein drwy www.cardiffgreengrocer.com