Back
Diweddariad COVID-19 - 31 Mawrth

Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: y cynnydd diweddaraf yn y ddarpariaeth ddigartrefedd, mireinio'r casgliadau gwastraff wythnosol newydd, preswylwyr yn dangos eu gwerthfawrogiad i'r criwiau casglu gwastraff a mwy

 

Darpariaeth ddigartrefedd ychwanegol ar gyfer pobl fwyaf agored i niwed y ddinas

Datgelir cynlluniau i ddefnyddio gwesty ychwanegol i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer unigolion digartref yn ystod yr argyfwng coronafeirws. 

Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf ei fod wedi sicrhau llety ychwanegol yng Ngwesty'r OYO ar Clare Street yng Nglan-yr-afon, ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd a'r rhai sy'n byw mewn llety brys, pan fo unigolion yn cysgu mewn llety a rennir a lle nad yw hunanynysu yn bosibl. 

Mae'r llety newydd hwn yn galluogi unrhyw unigolion sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol, neu sy'n dangos symptomau Coronafeirws COVID-19, i hunanynysu. 

Mae pob un o'r 41 ystafell wely yng ngwesty OYO bellach wedi'u meddiannu. Mae preswylwyr yn derbyn tri phryd y dydd ac mae staff cymorth ar gael dydd a nos i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddiogel a bod cyngor a chymorth priodol ar gael bob amser. 

Mae'r llety hunangynhwysol hwn, yn ogystal â'r ddau gynllun cynwysyddion llongau sydd newydd eu cwblhau yn Nhrelái a Butetown, yn rhan o gyfres o ddarpariaethau newydd sy'n cael eu cyflwyno gan Gyngor Caerdydd i roi cymorth ychwanegol i bobl sy'n agored i niwed. 

Cyhoeddodd y Cyngor y bydd ail westy, gydag 89 o welyau, yn agor heddiw i roi lle diogel i fwy o unigolion hunan-ynysu a gwella.Fel gyda Gwesty'r OYO a'r cynwysyddion llongau, bydd gan adeilad Hostel Canol Caerdydd yr YHA yn Stryd Tyndall Sblot, gymorth ar y safle 24 awr y dydd.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23522.html 

 

Mireinio'r casgliadau gwastraff wythnosol newydd

Ddoe, dydd Llun 30 Mawrth, cyflwynodd Cyngor Caerdydd amserlen gwbl newydd ar gyfer casglu gwastraff ac ailgylchu (mae'r manylion llawn ar gael i'w darllen yma:  https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23491.html). 

Fel arfer, byddai newid mor fawr â hyn mewn gwasanaeth yn gofyn am fisoedd o waith cynllunio gyda llawer o gyfathrebu gan y Cyngor yn yr wythnosau yn arwain at ei gyflwyno. Ond yn y cyfnod hwn o argyfwng COVID-19, mae'r Cyngor yn gorfod symud yn gyflym i helpu i gadw'r cyhoedd a staff mor ddiogel â phosibl, ac mae'n golygu y bydd angen newidiadau pellach wrth i ni fireinio'r trefniadau casglu newydd. 

Yn dilyn y casgliadau ddoe, mae'r Cyngor wedi atgoffa pobl i wneud yn siŵr bod eu gwastraff a'u deunyddiau hailgylchu yn cael eu rhoi allan erbyn 6am ar y diwrnod casglu. Y rheswm am hyn yw y gallai ein criwiau fod yn casglu gwastraff ar adeg wahanol na'r arfer mewn rhai ardaloedd, ac mae'n ddealladwy bod pobl wedi mynd i'r arfer dros y blynyddoedd o roi eu biniau allan ar adeg benodol, gan eu bod yn gwybod y byddent fel arfer wedi cael eu casglu'n hwyr y bore, neu yn y prynhawn ayyb. 

Rydym hefyd wedi gorfod newid y trefniadau ar gyfer gwastraff gardd. Yn wreiddiol, fe ddywedon ni y gallai preswylwyr roi ychydig  bach o wastraff gardd yn y biniau du/bagiau stribed coch, ond rydyn ni wedi gorfod newid hyn gan ei bod hi'n risg y byddai mwy o wastraff gardd yn cael ei roi allan i'w gasglu. 

Mae ein contractwr Troi Gwastraff yn Ynni wedi cadarnhau y byddai llawer iawn o wastraff gardd yn achosi problemau gweithredol sylweddol, ac yn cynyddu'r amser y mae'n ei gymryd i brosesu'r gwastraff. 

Gyda hynny mewn golwg, rydym bellach yn rhannu'r wybodaeth ganlynol: 

Yn anffodus, o ganlyniad i flaenoriaethu adnoddau, rydym wedi ATAL yr holl gasgliadau gwastraff gardd DROS DRO. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y dylech roi'r gorau i fwynhau'r ardd.  Mae gennych nifer o opsiynau ar gyfer delio â'ch gwastraff gardd. 

Y ffordd fwyaf ecogyfeillgar o ymdrin â glaswellt wedi ei dorri, tocion gwrychoedd ac ati yw trwy gompostio yn y cartref. Gall hyn fod mor syml â rhoi eich holl doriadau mewn pentwr taclus mewn cornel dawel yn yr ardd. Cymysgwch ychydig o bapur, cardfwrdd a chroen llysiau o wastraff bwyd i greu pentwr a fydd yn dadelfennu o fewn rhai wythnosau i greu compost gwych y gellir ei ailddefnyddio yn yr ardd. Fel arall, cadwch eich gwastraff gardd yn eich bin gwyrdd/sachau amldro. 

Rhyddhawyd y graffig diweddaraf hwn sy'n cynnwys y newidiadau a wnaed yn ddiweddar wrth i'r trefniadau casglu gael eu mireinio.  Mae croeso i chi rannu hwn: 

 

Preswylwyr yn dangos eu gwerthfawrogiad i'r criwiau casglu gwastraff

Mae rhieni a phlant wedi dechrau anfon negeseuon personol at eu criwiau casglu gwastraff drwy atodi lluniau a negeseuon i'w bagiau ailgylchu gwyrdd a'u biniau olwynion du. 

Ddoe (Mawrth 30), atododd preswylwyr sy'n byw ym Mhentyrch, Radur, y Tyllgoed a Chreigiau luniau a chapsiynau at eu biniau a'u bagiau gwastraff - roedd llawer yn cynnwys y neges symlaf a'r orau oll, sef ‘Diolch'. 

Yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus mae Cyngor Caerdydd wedi symud i gasgliadau ymyl y ffordd wythnosol, ac eithrio gwastraff gardd. Mae hyn i sicrhau nad oes gwastraff yn cronni ar strydoedd y ddinas. 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Gyda'r pandemig parhaus hwn, mae ein criwiau gwastraff yn gwneud eu gorau glas mewn amodau heriol iawn. 

"Ar adeg fel hyn, mae cadw ysbryd uchel ymysg ein gweithlu yn bwysig iawn ac mae'r criwiau'n ddiolchgar iawn am y negeseuon a gawsant. Mae'n wych gweld plant a mwy na thebyg ychydig o oedolion hefyd yn gadael negeseuon i'r criwiau er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad. 

"Nod y Cyngor yw parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i breswylwyr yn ystod yr argyfwng hwn. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen i breswylwyr ddilyn y cyfarwyddiadau a roddwyd ynglŷn â sut y dylent gyflwyno eu gwastraff. 

"Rydym wedi symud i un casgliad wythnosol ar gyfer popeth ond gwastraff gardd. Ni all y cyfleuster troi gwastraff yn ynni dderbyn hwnnw. 

"Rwy'n gwybod y bydd gan rai preswylwyr gwestiynau am sut mae pethau'n gweithio a cheir atebion i lawer o'r rheini yma 

"Yn hollbwysig, mae'r Cyngor hefyd yn ailgyfeirio criwiau er mwyn i ni allu canolbwyntio ar gael gwared ar wastraff y GIG yn ystod yr argyfwng. Gyda'r newyddion bod Stadiwm Principality hefyd yn cael ei droi'n ysbyty, mae'r Cyngor yn paratoi cynlluniau ar gyfer sut y byddwn yn gwasanaethu'r cyfleuster newydd hwn. Rydym yn gwneud popeth y gallwn gyda'r adnoddau prin sydd ar gael. Dyna pam mae angen i bobl weithio gyda ni a deall pam rydym wedi gorfod atal casgliadau gwastraff gardd a newid y ffordd rydym yn delio â gwastraff am y tro. Byddwn yn dychwelyd y trefniadau i'r arfer cyn gynted ag y gallwn. 

"Mae hefyd yn bwysig bod pobl yn parhau i ailgylchu a defnyddio eu bagiau gwyrdd ar gyfer hyn. Byddwn yn dychwelyd at broses ailgylchu arferol cyn gynted ag y gallwn ac mae'n bwysig nad ydym yn torri'r arfer o ailgylchu'n gywir. Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd ac rydym eisiau bod y gorau yn y byd.

"Drwy weithio gyda'n gilydd gall pob un ohonom helpu i sicrhau bod gwastraff yn cael ei symud o strydoedd y ddinas yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl." 

 

Cynnal plant i weithwyr allweddol

Rydym heddiw wedi prosesu 100 o geisiadau pellach am lefydd gofal plant i weithwyr allweddol i ddechrau yfory, Dydd Mercher 1 Ebrill. 

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau a'n nod yw gallu cynnig mwy o lefydd cyn gynted ag y bo modd. 

AM ragor o wybodaeth neu er mwyn cofrestru ewch i

http://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/gofal-plant-i-weithwyr-allweddol/Pages/default.aspx

Bydd unrhyw deulu a dderbyniodd le gofal plant yn eu hysgol leol yr wythnos ddiwethaf yn parhau i fod â lle yn eu lleoliad dynodedig. 

 

Trefniadau Ymbellhau Cymdeithasol ar gyfer Rhandiroedd

Gellir parhau i ddefnyddio rhandiroedd Caerdydd yn ystod cyfnod parhaus COVID-19, ond yn unol â chyngor y Llywodraeth, cyflwynwyd canllawiau newydd i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n ddiogel.

 

  • Os ydych yn hunan-ynysu, peidiwch â mynd i mewn i'r safle
  • Cyfyngwch ymweliadau i 1 awr y dydd, yn unol ag argymhellion ymarfer corff dyddiol.
  • Cofiwch ymarfer ymbellhau cymdeithasol gyda'ch gilydd, cadwch 2 fetr i ffwrdd o eraill a chyfyngwch gysylltiad â'ch gilydd gymaint â phosib.
  • Ewch ar eich pen eich hun, peidiwch â mynd â theulu a ffrindiau gyda chi.
  • Cadwch hylif diheintio dwylo gyda chi a'i ddefnyddio'n rheolaidd, yn enwedig cyn ac ar ôl agor a chau gatiau a chyffwrdd cloeon.
  • Gwisgwch fenig tafladwy a newidiwch y rhain yn rheolaidd.
  • Peidiwch â rhannu offer.  Sychwch eich offer eich hun ar ôl eu defnyddio.
  • Peidiwch â golchi eich dwylo mewn cafnau dŵr.
  • Arhoswch ar eich llain eich hun, peidiwch â mynd i mewn i leiniau eraill, hyd yn oed os cawsoch ganiatâd ymlaen llaw 

Mae'r holl gyfleusterau cymunedol ar gau, gan gynnwys toiledau.