Back
Diweddariad COVID-19 26 Mawrth

Dyma'r diweddariad COVD-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymdrin â chasgliadau gwastraff wythnosol newydd, darpariaeth ychwanegol ar gyfer y digartref, cymorth i fusnesau lleol, gwasanaethau i denantiaid tai cyngor, a staff y GIG yn cael teithio am ddim gyda Bws Caerdydd. 

Diweddariad ar gasgliadau gwastraff wythnosol

Mae Caerdydd yn symud i drefn newydd wythnosol o gasglu gwastraff ymyl y ffordd a chaiff yr holl wastraff cartref (ac eithrio gwastraff gardd) ei gasglu ar yr un pryd.

Bydd y diwrnodau casglu ar gyfer eich ardal yn aros yr un fath, ond mae'r ffordd y caiff gwastraff ei drin yn newid i helpu i reoli effaith COVID-19 a sicrhau lles y preswylwyr a'r gweithlu.

Yn dechrau ddydd Llun, 30 Mawrth, mae'n rhaid i'r holl breswylwyr sydd â biniau olwynion du roi eu gwastraff bwyd a'u gwastraff hylendid (cewynnau/gwastraff meddygol ac ati) yn y bin du i'w casglu.Peidiwch â defnyddio eich cadi bwyd. Bydd y casgliadau yn digwydd ar y diwrnod arferol ar gyfer eich ardal.

Mae'n rhaid i breswylwyr sy'n byw mewn ardaloedd, nad oes biniau olwynion du ynddynt, roi'r gwastraff hylendid (cewynnau/gwastraff meddygol ac ati) yn eu bagiau streipiau coch ar gyfer gwastraff cyffredinol. Dylai'r gwastraff bwyd mewn ardaloedd â bagiau barhau i gael ei roi yn eich cadi bwyd i atal anifeiliaid ac adar rhag gwasgaru gwastraff ar hyd y strydoedd.

Bydd casgliadau ailgylchu yn parhau yn ôl yr arfer a dylid rhoi bagiau ailgylchu allan yn wythnosol ar yr un pryd â'r gwastraff arall.

Gofynnir i'r holl breswylwyr, ble bynnag y maent yn byw yng Nghaerdydd, i barhau i ailgylchu fel arfer, gan olchi eu hailgylchu a rhoi'r deunyddiau ailgylchu cywir yn eu bagiau ailgylchu gwyrdd. Mae tudalen A-Y o Ailgylchu ar gael yma   https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx

Gan y caiff gwastraff cyffredinol ei gasglu'n wythnosol nawr yn hytrach na phob pythefnos, nid yw'r cyngor yn disgwyl gweld biniau du yn gorlifo gyda gwastraff cyffredinol gormodol wedi ei adael wrth ochr y biniau.

Casgliadau gwastraff swmpus a chasgliadau gwastraff gardd

Mae casgliadau gwastraff swmpus a gwastraff gardd gwyrdd wedi eu hatal nes bydd yr argyfwng wedi dod i ben. Bydd atal y gwasanaethau hyn yn helpu'r Cyngor i ddefnyddio'r gweithlu i gadw ein strydoedd yn lân. 

I symleiddio'r gweithrediadau gwastraff a sicrhau y gallant barhau gyda gweithlu llai, efallai na fydd yn bosib i ni ddidoli gwastraff ailgylchu yn ystod yr argyfwng, fel y cyfryw, bydd yn mynd i'r gwaith troi gwastraff yn ynni ynghyd â'r gwastraff gweddilliol. Dyma'r ffordd ddiogelaf o waredu gwastraff a all gludo Covid-19. 

Fodd bynnag, er ei bod yn ymddangos yn rhyfedd, rydyn ni'n dal angen i chi rhoi eich deunyddiau ailgylchu yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd fel y gallwn ddychwelyd i ailgylchu gwastraff pan fyddwn yn gallu.  

Hefyd, os nad ydych yn golchi a gwahanu eich bagiau gwyrdd, bydd anifeiliaid ac adar yn eu torri ac yn gwasgaru'r gwastraff ar y strydoedd. Gyda gweithlu llai, bydd yn eithriadol o anodd i ni reoli a glanhau hyn. 

Mae bagiau ailgylchu gwyrdd yn parhau i fod ar gael yn y pedwar prif hyb, sef Hyb y Llyfrgell Ganolog, y Powerhouse yn Llanedern, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelái. Gallwch hefyd eu harchebu ar-lein yma  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspx   ac rydym yn adleoli staff i gyflymu danfoniadau i aelwydydd. Gofynnwn am eich amynedd yn yr amgylchiadau wrth i ni wneud ein gorau glas i ddod â bagiau i chi.

 

Darpariaeth ddigartrefedd ychwanegol

Mae'r cleientiaid cyntaf wedi symud i mewn i westy OYO y ddinas, wrth i gynlluniau newydd gael eu datgelu i ddefnyddio gwesty arall i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer unigolion digartref yn ystod argyfwng Coronafeirws. 

Cyhoeddodd y Cyngor yn gynharach yr wythnos hon ei fod wedi sicrhau llety ychwanegol yng Ngwesty OYO ar Stryd Clare yng Nglan-yr-afon, ar gyfer pobl sy'n cysgu allan a'r rhai sy'n byw mewn llety brys, lle mae unigolion yn cysgu mewn lleoedd a rennir ac nad yw'n bosibl ynysu eu hunain. 

Bydd y llety newydd hwn yn galluogi unrhyw unigolion â chyflyrau iechyd sylfaenol, neu sy'n dangos symptomau Coronafeirws COVID-19, i allu hunan-ynysu. 

Neithiwr, treuliodd 22 o gleientiaid eu noson gyntaf yng ngwesty OYO, sydd hefyd yn darparu tri phryd y dydd i breswylwyr, ac mae staff cymorth ar gael i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddiogel ac mae cyngor a chymorth priodol ar gael bob amser. 

Bydd ail westy, sy'n darparu 89 o welyau, yn agor yr wythnos nesaf i roi lle diogel i fwy o unigolion hunan-ynysu ac adfer. Yn yr un modd â Gwesty OYO a llety cynwysyddion llongau, bydd gan adeilad hostel YHA Caerdydd Canolog ar Stryd Tyndall, Sblot, gefnogaeth ar y safle 24 awr y dydd.

 

Grantiau i gefnogi busnesau lleol


Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth gwerth £1.4 biliwn i fusnesau yng Nghymru er mwyn helpu i fynd i'r afael ag effaith economaidd Coronafeirws (COVID-19). 

Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd a gwerth ardrethadwy o £500,000 neu lai yn derbyn rhyddhad o 100% ar ardrethi annomestig ar gyfer 2020-21. Bydd hyn yn cael ei weinyddu'n awtomatig drwy Gynllun Ardrethi'r Cyngor a chaiff ei weithredu'n awtomatig. 

Yn ogystal â'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £850m ychwanegol ar gael drwy gynllun grant newydd i fusnesau.

Bydd hyn yn golygu y bydd pob busnes, sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw y rheiny sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn derbyn grant o £10,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwch yma  i gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir. 

Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 yn derbyn grant o £25,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwch yma  i gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.

 

Gwasanaethau ar gyfer Tenantiaid y Cyngor

Y flaenoriaeth yw cadw tenantiaid a staff yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn ac mae hyn yn golygu ein bod wedi gorfod gwneud rhai newidiadau i wasanaethau. 

Atgyweiriadau

Er mwyn sicrhau gwasanaeth i'r tenantiaid sydd â'r angen mwyaf, dim ond gwaith atgyweirio brys fydd yn cael ei wneud, a dylai tenantiaid gysylltu â ni ynghylch atgyweiriad ddim ond os yw'n argyfwng. Ar gyfer atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys, dylai tenantiaid gysylltu â ni yn ystod yr wythnos yn dechrau 15 Mehefin ymlaen, pan ragwelir y bydd y gwasanaeth yn gallu ymateb i'r atgyweiriadau hyn unwaith eto.

Caiff apwyntiadau presennol ar gyfer atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys eu hatal tan ar ôl 15 Mehefin. 

Trosglwyddiadau a Chyfnewidiadau

Ni fydd unrhyw gyfnewid pellach yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a dim ond trosglwyddiadau brys a fydd yn digwydd. 

Taliadau Rhent

Dylai tenantiaid sy'n cael problemau gyda thaliadau rhent ar yr adeg anodd hon gysylltu i drafod. 

Materion yn ymwneud â Thenantiaeth ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Dim ond mewn achosion o frys mawr y bydd ymweliadau cartref yn digwydd. Bydd materion yn cael eu datrys dros y ffôn cyn belled ag y bo modd. 

Glanhau Ardaloedd Cymunedol Fflatiau

Bydd y gwaith rheolaidd o lanhau fflatiau tyrau isel yn cael ei atal a gallai casgliadau gwastraff swmpus gael eu hoedi. 

Cynnwys Tenantiaid

Mae pob cyfarfod sydd wedi ei drefnu gan y Cyngor wedi ei atal. Cynghorwn yn gryf y dylai pob grŵp atal eu cyfarfodydd.

 

Staff y GIG yn cael teithio am ddim gyda Bws Caerdydd

 

O heddiw ymlaen (dydd Iau 26 Mawrth), a hyd nes y cyhoeddir yn wahanol, bydd staff y GIG yn gallu teithio am ddim gyda Bws Caerdydd, mewn ymdrech i gefnogi'r gweithwyr hynny yn y GIG sydd yn y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn y pandemig coronafeirws, Bydd staff GIG sy'n dangos Cerdyn Adnabod dilys i'r gyrrwr yn cael teithio am ddim.