Back
Diweddariad COVID-19: Dydd Mawrth 24 Mawrth
Newyddion ar drefniadau ysgolion, angladdau a phriodasau, gwirfoddolwyr, hybiau, dosbarthiad bagiau gwastraff a busnesau yn diystyru cyfarwyddiadau'r llywodraeth

 

Darpariaeth Ysgol a Gofal Plant ar gyfer Gweithwyr Allweddol

Bydd y trefniadau ysgol a'r darpariaethau gofal plant a gafodd eu rhoi ar waith ddydd Llun, 23 Mawrth yn aros yr un fath am y tro, yn ogystal â'r gwasanaeth prydau ysgol am ddim.

Bydd y trefniadau hyn yn newid yn unol â mesurau diweddaraf Llywodraeth y DU, a gyhoeddodd y Prif Weinidog am 8.30pm ddydd Llun, 23 Mawrth.

Mae'r gwaith cynllunio ar gyfer y trefniadau newydd yn mynd rhagddo, a chaiff y rhieni y manylion cyn gynted ag y byddant wedi'u cwblhau.

 

Diweddariad COVID-19: hybiau a llyfrgelloedd; bagiau ailgylchu a bagiau gwastraff bwyd

O yfory, Ddydd Mercher 24 Mawrth, er mwyn helpu i arafu ac atal trosglwyddiad y feirws, dim ond y pedwar Hyb craidd canlynol fydd ar agor:  Llaneirwg, Trelái, y Pwerdy a Hyb y Llyfrgell Ganolog.

Bydd mynediad i'r hybiau hyn drwy apwyntiad yn unigac eithrio casglu parseli Banc Bwyd a bagiau gwyrdd.

Bydd yr oriau agor arferol yn ystod yr wythnos yn berthnasol i'r hybiau cymunedol. Ni fyddant ar agor ar benwythnosau heblaw am Hyb y Llyfrgell Ganolog a fydd yn gweithredu ar yr adegau a restrir isod;

Oriau agor Hyb y Llyfrgell Ganolog:

Dydd Llun i Ddydd Mercher, 9am - 6pm

Dydd Iau - 10am - 7pm

Dydd Gwener - 9am - 6pm

Dydd Sadwrn - 9am - 5:30pm

 

Sylwer, yn ogystal â'r Hybiau hyn, mae bagiau gwyrdd yn dal i gael eu danfon i gartrefi ac rydym wrthi'n gweithio ar drefniadau i fagiau fod ar gael mewn siopau lleol fydd yn parhau i fod ar agor.

Gwerthfawrogir eich amynedd wrth i'r cynlluniau hyn gael eu cwblhau.

 

Bagiau gwyrdd a bagiau gwastraff bwyd:

Mae gan y Cyngor gyflenwad digonol o fagiau ailgylchu gwyrdd a bagiau gwastraff bwyd. Bydd pob un o'r pedwar hyb, a restrir uchod, yn derbyn cyflenwadau rheolaidd.

Bydd cyflenwadau o fagiau hefyd yn parhau i siopau bwyd yn y ddinas sydd fel arfer yn stocio'r cynhyrchion hyn. 

Bydd danfon bagiau i gartrefi hefyd yn parhau. Mae staff y Cyngor nad ydynt yn gallu cyflawni eu gwaith dyddiol arferol, oherwydd y pandemig, wedi cael eu hadleoli i helpu i ddosbarthu bagiau.

Gall preswylwyr ofyn am fwy o fagiau ar-lein neu drwy ap Cardiff Gov. Rydym yn dogni cyflenwadau i dri rholyn o fagiau gwyrdd a thri rholyn o fagiau gwastraff bwyd. Dylai hyn sicrhau bod preswylwyr yn cael digon o fagiau a byddant yn annog pobl i beidio â storio gormod o'r rhain. Diolch am eich amynedd gyda'r mater hwn.

 

COVID-19: Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau - Caerdydd yn cyfyngu ar y niferoedd mewn angladdau ac yn canslo priodasau

Yn dilyn anerchiad y Prif Weinidog, mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n mynychu gwasanaethau angladd ac mae priodasau wedi'u canslo er mwyn helpu i arafu trosglwyddiad COVID-19.

O heddiw ymlaen, caiff uchafswm o ddeg aelod o'r teulu agos fynychu angladdau ac amlosgiadau sy'n digwydd yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig a mynwentydd y ddinas.

Mae pob seremoni briodas yn awr wedi eu canslo ac oherwydd ôl-groniad yn ystod y gwanwyn yn sgil COVID-19, ni fydd archebion newydd ar gyfer priodasau yn cael eu derbyn ar gyfer dyddiadau sydd cyn mis Medi. Nid oes unrhyw hysbysiadau newydd o briodas yn cael eu derbyn ar hyn o bryd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'r rhain yn ddigwyddiadau cerrig milltir mawr pan fydd teuluoedd a ffrindiau fel arfer yn dod at ei gilydd i ddathlu neu i alaru, ond mae hwn yn gyfnod gwirioneddol ddigynsail a rhaid rhoi blaenoriaeth i gyfyngu ar gyswllt cymdeithasol er mwyn helpu i ohirio lledaeniad COVID-19.

"I helpu cymaint o bobl â phosibl i dalu teyrnged i'w hanwyliaid, mae'r Cyngor yn hepgor ei ffi safonol o £50 ar gyfer gwe-ddarllediadau byw o wasanaethau angladd. Mae'r gwasanaethau hyn, a ddarperir gan gontractwr, yn ôl y galw ar gael drwy rif PIN preifat sydd i'w gael ar gais gan y rheolwr angladdau."

Mae ardal y dderbynfa yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig bellach ar gau i'r cyhoedd. Gellir ymdrin ag ymholiadau ar-lein o hyd drwyhttps://cardiffbereavement.co.uk/cy/drwy e-bostioDerbynfaDraenenPen-y-graig@caerdydd.gov.ukneu ffonio 029 2054 4820.

Er mwyn cynnal lefelau gwasanaeth, rhoddir blaenoriaeth ar hyn o bryd i waith allweddol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chladdedigaethau ac amlosgiadau dros gyfundrefnau cynnal a chadw tiroedd ym mynwentydd Caerdydd. Mae mynwentydd yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd ar hyn o bryd ond mae'n ofynnol i unrhyw ymwelwyr ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol a theithio ond os yw hynny'n hanfodol.

Mae gwasanaeth blynyddol Sul y Blodau, y trefnwyd ei gynnal yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar 5 Ebrill 2020 hefyd wedi ei ganslo.

Mae'r dderbynfa yn Swyddfa Gofrestru Caerdydd bellach ar gau i'r cyhoedd. Gellir cofrestru genedigaethau a marwolaethau o hyd yn Neuadd y Ddinas, drwy apwyntiad yn unig. Dim ond un person fydd yn cael cofrestru'r digwyddiadau hyn. I wneud apwyntiad ffoniwch 029 2087 1680 neu 029 2087 1684 neu e-bostiwchcofrestryddion@caerdydd.gov.uk

 

#GydanGilyddDrosGaerdydd

Diolch yn FAWR i bobl Caerdydd! Rydym wedi cael ymateb ysgubol ers lansio Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd - mae mwy na 800 o bobl wedi dweud eu bod eisiau gwirfoddoli yn barod! Mae cymaint o bobl eisiau cynnig eu hamser i gefnogi eu cymuned.

Mae ein tîm yn brysur yn cysylltu â phawb sydd wedi dweud yn garedig eu bod eisiau helpu.

Am ymateb anhygoel! Mae'n wych gweld pobl yn dod at ei gilydd i wneud yr hyn a allant.

 

#GweithioDrosGaerdydd #GweithioDrosochChi

Cefnogwch ein gweithwyr allweddol a chadwch eich plant yn brysur drwy roi llun yn eich ffenestr! Gallai fod yn enfys neu neges ysbrydoledig i weithwyr sy'n darparu gwasanaethau hanfodol yng Nghaerdydd. Rhannwch eich lluniau yma wrth i ni barhau i weithio i Gaerdydd a #gweithioichi

 

COVID-19: Atgyweiriadau brys

Rydym yn blaenoriaethu gwaith atgyweirio brys ar dai cyngor mewn ymateb i haint COVID-19. Er mwyn gwneud hyn rydym yn gohirio gwaith atgyweirio cyffredinol a brys am y tro. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi ar fater atgyweirio brys, dwedwch wrthym os ydych yn hunan-ynysu neu'n dioddef o symptomau'r feirws..#GweithioDrosGaerdydd#GweithioDrosochChi

 

COVID-19: Rhybudd y gall manwerthwyr sy'n diystyru cyfarwyddiadau'r Llywodraeth i gau gael dirwyon a cholli eu trwyddedau

Mae busnesau an-hanfodol sy'n torri cyfyngiadau'r Llywodraeth ac sy'n aros ar agor wedi cael eu rhybuddio eu bod yn wynebu dirwyon a cholli eu trwyddedau.

Dywed swyddogion Cyngor Caerdydd eu bod wedi cael gwybod am dafarndai'n methu â chau neu'n cynnal "sesiynau dan glo" er gwaethaf y ffaith bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi ddydd Gwener y dylai safleoedd trwyddedig gau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'n rhaid i hyn stopio.

"Os daliwch chi ‘mlaen, gallwch ddisgwyl problemau mawr wrth gael trwydded pan ddaw'r amser i ail-agor. Mae'r rheolau yma nawr. Nid cais yw hwn, mae'n orchymyn llywodraeth. Mae'n rhaid i ni gyd wneud ein rhan i achub bywydau pobl."

Gydag ymestyn y gorchymyn nos Lun i gynnwys mwy o fusnesau, mae Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir y Cyngor yn cysylltu â'r holl safleoedd yr effeithir arnynt i sicrhau eu bod yn deall y gofynion newydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Rwy'n gobeithio y bydd gweddill y sector manwerthu yn gweithredu'n gyfrifol ac yn osgoi'r angen i'r Cyngor gymryd camau gorfodi".

Cysylltwch â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) ar 0300 123 6696 i roi gwybod am unrhyw bryderon neu i gael arweiniad pellach

 

COVID-19: CAGCau i gau

Mae CAGCau Caerdydd (Ffordd Lamby / Clos Bessemer) wedi cau yn dilyn annerchiad y Prif Weinidog i'r genedl a'i rybudd o ran unrhyw deithio nad yw'n hanfodol.