Back
COVID-19, diweddariad, dydd Llun 23 Mawrth

Newyddion ar lety i'r digartref, meysydd chwarae wedi'u cau, trefniadau gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol, cau Neuadd y Sir a CAGCau 

Y Cyngor yn cymryd awenau gwesty OYO i roi llety i rai sy'n cysgu ar y stryd 

Mae'r Cyngor yn cymryd meddiant ar lety yn y ddinas i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. 

Mae'r Cyngor wedi cymryd meddiant arwestyOYO ar Stryd Clare yngNglan yr Afon, sef gwesty'r Wynford gynt, er mwyn sicrhau bod llety hunangynhwysol ar gael i rai sy'n cysgu allan yng Nghaerdydd. 

Mae'r cynwysyddion llongau yn Nhrelái a Butetown agafoddeu haddasuar gyferteuluoedd digartref hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer pobl ddigartref sy'n dangos symptomau'r feirws  ac  angen hunan-ynysu arnynt. 

Mae gan lety brys presennol y Cyngor ar gyfer y digartref nifero gynlluniau lle caiff unigolion eu cartrefu mewn gofod a rennir. Nid ywhyno gymorth i atal lledaeniad yCoronafeirws (COVID19)ac felly mae'r Cyngor yn chwilio am lefydd eraill yn hytrach na'r ddarpariaeth hon. 

Mae'r Cyngor wedi bod yn trafod gydanifer o berchnogion gwestyau i ddod o hyd i ddarpariaeth lety bosibl. GwestyOYOyw'r ddarpariaeth gyntaf o'r fath i gael ei chymryd er mwynsicrhaubod digon o lety addasyn ystod y pandemig.Mae sgyrsiau yn dal i fynd rhagddynt gyda pherchnogion gwestyau eraill yn y ddinas. 

Mae'r llety OYO yn westy 41 gwely sydd â chyfleusterau ymolchi en-suite ym mhob ystafell, sy'n gwneud hunan-ynysu yn bosibl i'r rhai sydd ag angen y llety. Bydd staff cymorth ar gael ar y safle 24 awr y dydd er mwyn sicrhau bod y llety hwn yn ddiogel a bod cyngor a chymorth priodol ar gael. 

Mae Tîm Allgymorth y Cyngor wedi bod yn gweithioâ'r rhai sy'n cysgu ar y stryd i'w cynghori am y feirws ac i'whannog i ddod i mewn i lety. Mae anghenion yr holl bobl ddigartref yn cael eu hasesu er mwyn sicrhau y gellir eu symud i'r llety mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. 

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Rwy'n falch ein bod wedi gallu sicrhau'r llety ychwanegol hwn i helpu'r rhai sy'n cysgu allan yng Nghaerdydd ar yr adeg anodd hwn" 

"Drwy ddarparu llety argyfwng hunan-gynhwysol, rydym yn sicrhau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd ac sy'n dangos symptomau'r feirws yn gallu hunan-ynysu fel pawb arall sydd angen gwneud hynny. 

"Rydym yn parhau i edrych ar adeiladau eraill y gallwn eu defnyddio dros dro i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae ein llety brys newydd yn y Parade, yng nghanol y ddinas bron wedi ei gwblhau, a chaiff ei ddefnyddio i helpu'r rhai sydd mewn angen yn ystod yr argyfwng hwn. 

"Mae ein Tîm Allgymorth yn parhau i wneud gwaith rhagorol dan amodau anodd iawn ac rydym yn gofyn i bawb sy'n cysgu ar strydoedd Caerdydd i ddod mewni'r lletysydd ar gael iddyn nhw."  

COVID-19: Caerdydd yn cau ardaloedd chwarae yn ei pharciau i'r cyhoedd 

Ardaloedd chwarae ym Mharciau Cyngor Caerdydd i gau ar unwaith. 

Credir bod y risg o drosglwyddo o blentyn i blentyn ar offer chwarae yn ormod o risg i'r cyhoedd wrth i ni geisio arafu trosglwyddiad COVID-19. 

Bydd Parciau Caerdydd yn aros ar agor ar hyn o bryd. Rydym yn deall y rôl y gallant ei chwarae o ran cynorthwyo lles yn ystod y cyfnod hwn. 

Fodd bynnag, rydym yn annog pawb sy'n ymweld â'n parciau i ymarfer ymbellhau cymdeithasol. Mae hyn yn hanfodol os ydym am arafu neu atal trosglwyddo COVID-19 o berson i berson. 

Os na ddilynir rheolau ymbellhau cymdeithasol yn ein parciau yna efallai y bydd yn rhaid i ni adolygu'r sefyllfa hon a gallent yna fod ar gau i'r cyhoedd. 

Rydyn ni felly'n argymell yn gryf bod pobl yn osgoi unrhyw dorfeydd, ac yn ymarfer ymbellhau cymdeithasol, er mwyn i barciau gael parhau i fod ar agor 

Trefniadau gofal plant mewn ysgolion ar gyfer gweithwyr allweddol 

Dechreuodd y trefniadau ysgol newydd heddiw, gan gynnig darpariaeth ar gyfer disgyblion 3-14 oed. Mae ysgolion Caerdydd yn canolbwyntio ar drefniadau gofal plant ar gyfer staff y GIG, gweithwyr gofal a'r gwasanaethau brys yn y lle cyntaf. 

Mae'r Cyngor yn gofyn eto bod rhieni yn cadw eu plant gartref os gallant. Er mwyn arafu neu atal trosglwyddo'r feirws, mae'n bwysig bod cymaint o blant â phosibl yn aros gartref 

Bydd yr awdurdod lleol y parhau i adolygu'r ddarpariaeth wrth i'r galw am leoedd yn dod yn gliriach drwy'r wythnos. 

Mae darpariaeth gofal plant cyn-ysgol yn parhau, ac mae'r Cyngor yn argymell bod darparwyr yn gofalu am blant gweithwyr allweddol yn unig, neu'r rhai yr ystyrir eu bod yn agored i niwed. 

Mae ysgolion yn rhoi ar waith ffyrdd priodol o gadw mewn cysylltiad a chynnig cymorth sy'n seiliedig ar angen gyda phob plentyn sy'n agored i niwed. 

Cafodd tua 13,000 o gwdinau cydio eu dosbarthu i ysgolion y bore yma, a gasglwyd gan ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim am hanner dydd. 

Gellir gweld y cyhoeddiad a wnaed neithiwr ar ddarpariaeth Gofal Plant i weithwyr allweddol mewn ysgol a phrydau ysgol am ddim yma  :https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23446.html  

COVID-19: Neuadd y Sir Caerdydd yn cau i'r cyhoedd am y tro

Bydd Neuadd y Sir Caerdydd yn cau i bob aelod o'r cyhoedd yn syth am gyfnod amhenodol. 

Mae'r cau yn digwydd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a staff y cyngor wrth i ni geisio arafu ac atal trosglwyddiad COVID-19. 

Mae modd gwneud ymholiadau  ar-lein  o hyd neu dros y ffôn i C2C 029 2087 2087. Mewn amgylchiadau eithriadol efallai y cytunir i wneud apwyntiadau ymlaen llaw, ond dim ond dan amodau felly y bydd mynediad yn cael ei ganiatáu. 

COVID-19: Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref 

Mae galw mawr wedi bod ar y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac mae ciwiau o gerbydau wedi achosi problemau sylweddol a thagfeydd i'r cyhoedd ac i'n cerbydau gwastraff sydd wedi methu cyrraedd y safleoedd. 

Anfonwyd negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i ddweud wrth y cyhoedd i ymweld â'r canolfannau DDIM OND os oedd wirioneddol angen iddynt wneud hynny, ac i beidio â dod ag eitemau swmpus gan y bydden nhw'n cael eu gwrthod.  Mae symud eitemau swmpus yn aml yn gofyn am gymorth gan weithwyr y Cyngor ac mae hyn yn gwneud ymbellhau cymdeithasol yn anodd ei weithredu. Mae rhai o'n gweithwyr hefyd wedi cael eu cam-drin gan y cyhoedd a oedd wedi eu gwylltio gan  y ciwiau. 

Eglurwyd i'r cyhoedd ar y cyfryngau cymdeithasol nad oes unrhyw gynlluniau i atal casgliadau gwastraff o gartrefi preswylwyr.  Fodd bynnag, os nad yw cerbydau gwastraff y Cyngor yn gallu cael mynediad i'r safleoedd  CAGC a'i bod yn anodd cynnal pellhau  cymdeithasol yno, efallai y bydd yn rhaid cau ein cyfleusterau ailgylchu gwastraff y cartref.