Back
Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd


 20/03/20

Cafodd Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd ei lansio heddiw mewn ymgais i ddatgloi potensial gwirfoddoli ledled y ddinas wrth i breswylwyr geisio cefnogi ei gilydd yn ystod y feirws COVID-19.

 

Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un a fyddai'n hoffi gwirfoddoli ei amser yn helpu pobl eraill y mae'r sefyllfa bresennol yn effeithio arnynt er mwyn cydlynu eu hymdrechion trwy wefan Gwirfoddoli Caerdydd, a all roi gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli ar hyn o bryd.

 

Bydd y wefan yn gweithredu fel gwasanaeth broceru, gan baru pobl sydd eisiau helpu gyda chyfleoedd gwirfoddoli ledled y ddinas a bydd yn helpu i ddiogelu gwirfoddoli a'r rhai maent yn ceisio eu helpu trwy reoli cysylltiadau mewn ffordd briodol, gan gynnwys  hwyluso gwiriadau GDG lle y bo angen

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae'r Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu ar hyn o bryd i sicrhau lles ein cymunedau, a chefnogi preswylwyr, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed yn ein dinas, ar hyn o bryd.

 

"Mae eisoes yn glir iawn bod awydd cryf ymhlith pobl yn ein cymunedau i gefnogi ein gilydd drwy'r achosion, ac rydym eisiau harneisio'r potensial hwnnw a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl er budd ein preswylwyr mewn angen. Dyna pam rydym yn lansio Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd.

 

"Rwyf wedi clywed am gymaint o ffyrdd y mae pobl yn cynnig helpu yn eu cymunedau eisoes ac mae'n anhygoel gweld pobl yn dod at ei gilydd i wneud yr hyn a allant. Ond mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn mewn ffordd sy'n cadw pawb yn ddiogel - y rhai sy'n gwirfoddoli eu gwasanaethau a'r rhai sy'n derbyn cymorth, ac mewn ffordd sy'n sianelu grym ein pobl lle y mae ei angen fwyaf, fel nad ydym yn dyblygu neu'n ymgymryd â rhywbeth na allwn ei gyflawni.

 

"Bydd llawer o gyfleoedd a fydd ar gael ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd yn bwydo i mewn i'r gwaith y mae timau'r cyngor yn ei wneud i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r rhai sydd eu hangen. Byddwn yn defnyddio ein cronfa gwirfoddolwyr bresennol er mwyn helpu i gefnogi'r gwaith hwn yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid a chysylltu â chyfleoedd gyda nhw er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni anghenion dinasyddion ar hyn o bryd."

 

Mae cyfleoedd Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd nawr ar gael ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd yma

Yn ogystal â chydlynu cyfleoedd, mae'r Cyngor yn cyhoeddi canllaw i wirfoddolwyr a'r rheiny sydd mewn angen er mwyn sicrhau y gall pawb aros yn ddiogel ac i amddiffyn lles pobl.

 

Awgrymiadau a Chanllawiau i Wirfoddolwyr ac Aelodau o'r Cyhoedd

 

Gwirfoddolwyr

  • Peidiwch â mynd i mewn i gartrefi pobl, hyd yn oed os cewch wahoddiad
  • Ewch mewn parau lle bo'n bosib
  • Wrth ymweld â phobl, cadwch o leiaf 2 metr  rhyngoch chi ac unrhyw un arall
  • Osgowch gyswllt agos gyda phobl sydd â symptomau coronafeirws
  • Teithiwch ar drafnidiaeth gyhoeddus dim ond pan fydd angen
  • Peidiwch â rhoi eich manylion personol megis rhif ffôn, cyfeiriad, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol nac unrhyw wybodaeth bersonol arall i unigolion.
  • Peidiwch â rhoi na benthyg arian i unigolion, na chymryd taliadau personol ar gyfer tasgau

 

Y Cyhoedd

  • Dylai pawb wneud yr hyn a allant i atal coronafeirws rhag lledaenu. Mae'n hynod bwysig i bobl sy'n 70 oed neu'n hŷn, sydd â chyflwr iechyd hirdymor, sy'n feichiog a/neu sydd â system imiwnedd wannach
  • Peidiwch â rhoi eich manylion banc, rhif PIN na chyfrineiriau i unrhyw un
  • Peidiwch byth â rhoi eich cerdyn i rywun arall fynd i'r siopau ar eich rhan
  • Gofynnwch i'r person am fanylion adnabod i gadarnhau mai dyma'r person rydych yn disgwyl iddo ymweld â chi.
  • Os bydd rhywun yn honni ei fod yn dod o gwmni neu sefydliad, dylech bob amser ofyn a gwirio prawf adnabod. Os yn ansicr, chwiliwch yn annibynnol am rif y cwmni o gyfeiriadur a ffoniwch i wirio.
  • Defnyddio cadwyn drws i'ch rhoi mewn rheolaeth ac ystyried defnyddio cynllun cyfrinair
  • Gofynnwch am dderbynneb ar gyfer unrhyw siopa cyn darparu unrhyw arian-Peidiwch â thalu arian parod ymlaen llaw (er enghraifft ar gyfer bwydydd)
  • Osgowch gyswllt agos cymaint â phosibl
  • Dylech adael bwyd ar eich stepen drws.  Peidiwch â chaniatáu unrhyw wirfoddolwr yn eich cartref o dan unrhyw amgylchiadau

 

Er ein bod yn croesawu ymateb y gymuned a'r llanw o ewyllys da sy'n lledaenu ar draws y ddinas ar hyn o bryd, dymuna'r Cyngor hefyd rybuddio unigolion fydd yn derbyn cymorth o'r posibilrwydd o sgamiau posib neu fanteiswyr yn achub ar gyfle ar yr adeg hon.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y Cynghorydd Michael Michael:

"Yn ystod yr adeg ansicr hon, mae symudiad cynyddol i wella'r teimlad o gymuned yn ein dinas. O ystyried yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl, mae hyn, heb os, yn glodwiw. Mae angen i'r rheiny sy'n wynebu'r risg fwyaf o'r feirws gael cymorth eu cymdogion i sicrhau y gallan nhw ymdopi â'r mesurau sydd ar waith er mwyn arafu lledaeniad y pandemig yng Nghymru.

 

"Yn anffodus, mae pobl yn ein cymunedau a allai geisio manteisio ar y cynnydd hwn mewn ysbryd cymunedol. Yn gynharach yr wythnos hon, cafodd y Cyngor adroddiadau am bobl yn gwneud galwadau digroeso i bobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed, gan honni eu bod o'r Cyngor ac yn cynnal ymweliadau cartref i fesur tymheredd pobl.

 

"Nid yw'r Cyngor yn cyflawni unrhyw ymweliadau iechyd yn ymwneud â'r Coronafeirws (COVID-19) ac mae'r bobl sy'n ymweld â'r eiddo hyn yn dwyllwyr ac ni ddylid eu gadael i mewn i gartref neb.

 

"Rydym hefyd wedi cael adroddiadau ychwanegol bod pobl yn gwneud galwadau digroeso i werthu pecynnau profi Coronafeirws. Nid yw'r cyfarpar hwn ar gael yn fasnachol ac mae'r unig brofion sydd ar gael yn perthyn i'r gwasanaeth iechyd.

"O ystyried yr adroddiadau, gofynnwn i'r holl drigolion fod yn wyliadwrus os yw pobl yn cnocio ar eu drws. Mae'n bwysig bod pobl yn gwneud y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau nad ydynt yn dioddef o sgàm.

 

"Os oes unrhyw un yn cnocio ar eich drws, gofynnwch am brawf adnabod a'i adael i mewn dim ond os ydych yn hollol siŵr ei fod yn gweithredu'n onest. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â'r Rhif Ymateb Cyflym ar 0845 6012600 a bydd y gweithredwr yn gallu eich helpu."