Back
Datganiad ar drefniadau ysgolion ar gyfer gweithwyr allweddol.

20/3/2020

Mae'r Cyngor wrthi'n gweithio ar fanylion y ddarpariaeth addysgol o bell ar gyfer pob plentyn ynghyd â threfniadau ar gyfer plant y gweithwyr allweddol, plant sy'n agored i niwed, a dosbarthiadau prydau ysgol am ddim ar gyfer plant sy'n gymwys. Byddwn yn rhyddhau'r wybodaeth cyn gynted ag y bydd yn barod. Byddwch yn amyneddgar.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rydyn ni'n wynebu sefyllfa nas welwyd o'r blaen, ond rwyf am i chi wybod ein bod yn gweithio ar y cyflymder uchaf posibl i baratoi popeth a'i weithredu.

"Yn dilyn canllaw y Llywodraeth ar yr hyn a ystyrir yn weithiwr allweddol, rydyn ni'n deall bod llawer o bobl dan yr argraff nawr y gallan nhw gael darpariaeth gofal plant o ddydd Llun.

"Mae'n bwysig i chi wybod bod rhaid i ni yn gyntaf oll ystyried a sicrhau darpariaeth a goruchwyliaeth ar gyfer plant y mae eu rhieni neu eu gofalwyr yn staff y GIG a gweithwyr gofal. Mae'n amlwg bod rhaid i ni ganolbwyntio ar y ddau grŵp hyn yn y lle cyntaf, er mwyn sicrhau y gallan nhw ddal ati i gyflawni'r gwaith hanfodol sy'n ofynnol er mwyn atal COVID-19 a gofalu am y cleifion.

"Rwy'n gwybod bod hon yn adeg ofidus i bawb, ond gallwch fod yn sicr ein bod yn gweithio mor gyflym ag y gallwn ni i roi'r cynlluniau hyn ar waith. Os ydych yn dod o dan y categorïau allweddol eraill, fel y'u diffinnir gan y llywodraeth hoffem ofyn i chi yn garedig ystyried dod o hyd i ddewisiadau eraill o ran gofal plant am y tro. Nid yw'n bosib i ni fod mewn sefyllfa lle y bydd mwyafrif yr ysgolion yn ailagor eto os yw'r diffiniad o weithiwr allweddol yn rhy eang. Diolch i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn yn eich diweddaru cyn gynted ag y gallwn. Daliwch ati i ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol"