Back
Diweddariad Coronafeirws (COVID-19): Hybiau, Llyfrgelloedd a’r Ganolfan Dewisiadau Tai

 

 19/03/20

Fel y cyhoeddwyd ddoe, mae Cyngor Caerdydd wedi dechrau cyflwyno newidiadau i'w wasanaethau, gan adlewyrchu'r cyngor diweddaraf gan y Llywodraeth ac Iechyd y Cyhoedd ar y Coronafeirws (COVID-19), ac i gadw aelodau'r cyhoedd mor ddiogel â phosibl.

 

O fory ymlaen (dydd Gwener 20 Mawrth), bydd hybiau cymunedol ledled y ddinas yn gweithredu ar sail apwyntiadau yn unig. Dim ond cwsmeriaid ag apwyntiadau a drefnwyd o flaen llaw ar gyfer gwasanaethau, megis cymorth i mewn i waith, cyngor ariannol a chymorth tai a budd-daliadau a fydd yn gallu cael mynediad i'r adeiladau.

 

Bydd angen i gwsmeriaid ffonio rhif cynghori'r Cyngor ar 029 2087 1071 i wneud apwyntiad. Gall ymgynghorwyr ddarparu ystod o gyngor a chymorth dros y ffôn, fel efallai na fydd angen ymweld â'r Ganolfan.

 

Bydd gwasanaethau llyfrgell, gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau a ddarperir gan y gwasanaeth, yn dod i ben o yfory ond bydd defnyddwyr y llyfrgell yn dal i allu manteisio ar yr ystod eang o wasanaethau digidol am ddim sydd ar gael, gan gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau sain, e-gylchgronau a phapurau newydd ar-lein.

 

Gall unrhyw un sydd angen casglu bagiau ailgylchu neu wastraff bwyd gwyrdd o hyb neu adeilad llyfrgell barhau i wneud hynny. Bydd angen i gwsmeriaid gnocio'r drws a bydd staff yn rhoi bagiau.

 

Mae ein Gwasanaeth Digartrefedd a Dewisiadau Tai bellach ar gael trwy apwyntiadau'n unig. Dylai unrhyw un sydd angen cymorth gysylltu â'r awdurdod lleol dros y ffôn ar 02920 570 750, neu e-bostio:canolfandewisiadautai@caerdydd.gov.uk. Heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, dim ond aelodau o'r cyhoedd ag apwyntiad yn barod a gaiff fynd i'r Ganolfan Dewisiadau Tai ar Hansen Street.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r newidiadau rydym yn eu cyflwyno i'n hybiau a'n gwasanaethau llyfrgelloedd ac adeiladau eraill er mwyn helpu i ohirio lledaeniad COVID-19 a sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar helpu'r bobl sydd angen ein cymorth a'n gwasanaethau fwyaf ar hyn o bryd.

 

"Gall cwsmeriaid barhau i ddefnyddio ein llinell gynghori ar gyfer unrhyw gymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac os oes angen apwyntiad mewn hyb, caiff ei drefnu. Ond o yfory ymlaen, bydd mynediad cyffredinol i'n hybiau a'n llyfrgelloedd yn dod i ben hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.

 

"Rwy'n siŵr y bydd pobl yn deall yn iawn pam rydyn ni'n cyflwyno'r mesurau hyn ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb am eu dealltwriaeth ar hyn o bryd wrth i ni geisio lleihau unrhyw risg i'n cwsmeriaid a'n staff."

 

Er bod y trefniadau newydd ar waith, gall cwsmeriaid barhau i gysylltu ag ystod o wasanaethau'r Cyngor am wybodaeth, cymorth a chyngor dros y ffôn neu ar-lein.

 

Ffoniwch linell gymorth Cyngor Caerdydd ar 029 2087 1071, ac mae cyngor ar ddigartrefedd ar gael dros y ffôn drwy ffonio: 02920 570 750

 

Gwasanaeth Byw'n Annibynnol y Cyngor yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth a chyngor i bobl hŷn a phobl anabl. Gellir cysylltu â nhw ar 029 2023 4234.

 

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'r gwasanaeth ar gael dros y ffôn ar 03000 133 133, drwy e-bostcyswlltfas@caerdydd.gov.ukneu ewch iwww.cardifffamilies.co.uk

 

Dylai unrhyw un sy'n pryderu am ddiogelwch plentyn gysylltu â'r Hyb Diogelu Aml-asiantaeth (MASH) ar 029 2053 6490 neu y tu allan i oriau ar 029 2078 8570. Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol o gael ei niweidio, ffoniwch 999.

 

Ar gyfer pob ymholiad cyffredinol am wasanaethau'r Cyngor, cysylltwch â C2C ar 029 2087 2088.