Back
Ateb cladin ar gyfer fflatiau uchel y ddinas


 13/03/20

Caiff buddsoddiad £17 miliwn i gladio pum bloch uchel o fflatiau yn y ddinas ei drafod gan y Cabinet yr wythnos nesaf.

 

Mae'r Cyngor yn cynnig amnewid cladin y cafodd wared ohono o'r blociau tŵr ddwy flynedd yn ôl, yn sgil trychineb Grenfell Tower, gydag ateb newydd ar sail briciau ceramig a fydd yn gwella effeithlonrwydd thermol yr adeiladau.

 

C:\Users\c080012\Desktop\cladding lydstep.jpg

 

Cafwyd gwared o'r cladin o bump o chwech o flociau uchel y Cyngor ar ôl i brofion ddangos, er nad oedd unrhyw un o'r adeiladau'n cynnwys ACM, y deunydd a oedd yn gorchuddio Grenfell, nid oedd yn bodloni safonau tân presennol ac felly roedd yn risg bosibl i breswylwyr. 

 

Tynnwyd cladin i lawr yn fflatiau Lydstep yn Ystum Taf, Nelson House yn Butetown a Threm y Môr yn Grangetown.    Arhosodd y cladin yn ei le yn Loudoun House oherwydd bod gan y bloc ddwy set o risiau ac ystyrir ei fod yn llai o risg nag adeiladau uchel eraill.

 

Ers tynnu'r cladin, mae nifer o denantiaid wedi gweld dirywiad o ran cyflwr eu fflatiau gydag anwedd a llwydni ychwanegol oherwydd llai o insiwleiddio. Cyflogwyd y Cyngor ymgynghorwyr i gynnal arolygon a sicrhau'r ffordd orau ymlaen ar gyfer yr adeiladau ac yn dilyn adolygiad o'r opsiynau, argymhellir y cladin sy'n seiliedig ar friciau ceramig fel yr ateb mwyaf priodol.

 

Nid yw bloc uchel Trem y Môr yn gynwysedig yn y rhaglen ail-gladin gan ei fod i gael ei ddymchwel fel rhan o raglen ailddatblygu gyffrous ar gyfer yr ystâd gyfan.  

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Bu diogelwch y preswylwyr sy'n byw yn ein blociau uchel yn flaenoriaeth i'r cyngor ac rwy'n falch iawn ein bod bellach yn gallu cynnig ffordd ymlaen o ran ail-orchuddio'r pum adeilad hyn.

 

"Bu'n bwysig y gallwn ddod o hyd i'r ateb cywir ar gyfer yr adeiladau, yn nhermau diogelwch ac effeithlonrwydd thermol. Yr ateb bricwaith hwn yw'r opsiwn mwyaf diogel sydd ar gael ar y farchnad - nid yw'n llosgadwy a bydd hefyd yn cynyddu effeithlonrwydd ynni yr adeilad yn sylweddol, a chysur i'r preswylwyr.

 

"Rydym wedi ymgynghori gyda'n tenantiaid a'n lesddeiliaid drwy gydol y broses hon ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb yr effeithir arnynt am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd ymgynghori yn parhau i ddigwydd wrth i'r cynllun symud ymlaen."

 

Caiff y gost amcangyfrifedig o £17 miliwn am y cladin ei hariannu o Raglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai y Cyngor. Argymhellir bod y Cabinet y cymeradwyo caffael contractwr ar gyfer y gwaith ail-orchuddio, a gaiff ei gynnal gam wrth gam, gan ddechrau gyda'r tri bloc yn Lydstep yn ddiweddarach eleni.