10/3/2020
Mae Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth yng Nghaerdydd wedi ennill sgôr 'Da' ym mhob un o'r pum maes y mae Estyn, sef Arolygiaeth Addysg Cymru, yn edrych arnynt.
Yn dilyn arolygiad diweddar, gwelwyd bod yr ysgol ‘yn groesawgar gyda'r staff yn ofalgar tuag at y disgyblion.' Dywedodd yr arolygwyr hefyd fod ‘bron pob disgybl yn mwynhau dod i'r ysgol, yn teimlo'n ddiogel yno ac yn trin ei gilydd, staff ac ymwelwyr â pharch.'
Amlygodd yr adroddiad fod ‘y rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu'n ddysgwyr hyderus, yn gwneud cynnydd cadarn ac yn cyflawni'n dda' a bod staff ‘yn creu amgylchedd dysgu cefnogol ac ysgogol i ddisgyblion, sy'n eu hannog i ddysgu.'
Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod disgyblion yn ‘ymfalchïo yn y Gymraeg a'u cysylltiadau agos â'r gymuned leol a bod yr ysgol yn cynnig cyfleoedd buddiol i ddisgyblion gyfrannu at yr hyn yr hoffent ei ddysgu, ac i gymhwyso a datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn llwyddiannus ar draws y cwricwlwm.'
Dywedodd Estyn hefyd fod gweledigaeth y Penaethiaid yn ‘seiliedig ar ddisgwyliadau uchel a'r angen i les disgyblion fod wrth galon holl waith yr ysgol.'
Wrth sôn am y llwyddiant, dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gwaelod-y-Garth, Mrs Catrin Evans: "Fel ysgol, rydyn ni'n falch o'r adroddiad gan ei fod yn cydnabod y safonau uchel mae ein disgyblion yn eu cyflawni a'r ymdeimlad cryf o gymuned sy'n rhan annatod o'n hethos a'n gweledigaeth."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n hyfryd clywed sylwadau mor gadarnhaol gan Estyn ac rwyf hefyd yn falch bod y disgyblion yn cael barn ar yr hyn yr hoffent ei ddysgu.
"Mae hyn nid yn unig yn cefnogi cwricwlwm newydd Cymru ond hefyd yn dangos ymrwymiad ysgolion i hawliau plant ac uchelgais Caerdydd i ddod yn ddinas sy'n ystyriol o blant."