Back
Ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion Cymraeg nawr ar agor.

 


24/1/2020

Mae Cyngor Caerdydd yn gwahodd aelodau'r cyhoedd i gael dweud eu dweud ar gynigion i newid dalgylchoedd rhai o'r ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg ar gyfer y flwyddyn ysgol yn 2021/22.

 

Mae'r newidiadau arfaethedig i ddalgylchoedd cynradd yn cynnwys:

  • Sefydlu dalgylch i Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad
  • Newidiadau i ddalgylchoedd Ysgol Mynydd Bychan, Ysgol Gymraeg Nant Caerau, Ysgol Gymraeg Pwll Coch ac Ysgol Gymraeg Treganna.

 

Mae'r newidiadau a gynigir i ddalgylchoedd ysgolion uwchradd yn cynnwys:

  • Trosglwyddo dalgylch Ysgol Glan Morfa o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

 

  • Newid i'r ffiniau rhwng dalgylchoedd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, ar y ffin cynradd rhwng Ysgol Pwll Coch ac Ysgol Treganna

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae dalgylchoedd ysgolion yn cael eu hadolygu'n barhaus er mwyn helpu i sicrhau fod y cyflenwad a'r galw am lefydd ysgol wedi ei ddosbarthu yn hafal ac yn strategol ar draws y ddinas.

"Er enghraifft, Ysgol Hamadryad yw'rysgol gynradd Gymraeg gyntaf erioed yn Butetown ac felly,fel ysgol newydd mae angen iddi ddatblyguei dalgylch ei hun.

Mae angen hefyd i alinio rhai dalgylchoedd ysgolion uwchradd Cymraeg am fod rhai ysgolion wedi eu gordanysgrifio ar hyn o bryd, tra bod llefydd ar gael mewn rhai eraill.

"Mae'r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i bobl ddod ymlaen i gael dwedu eu dweud ac rwy'n annog pob i gyflwyno eu barn, a all helpu i siapio'r cynigion ar gyfer trefniadaeth ysgolion."

Mae'r cyfnod ymgynghori nawr ar agor a bydd ar agor tan Ddydd Mercher 26 Chwefror 2020.

Mae manylion yr ymgynghoriad ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen isod:www.caerdydd.gov.uk/dalgylchoedd