Back
Annog trigolion i helpu i wneud Caerdydd yn un o ddinasoedd gorau'r byd ar gyfer ailgylchu

Bydd trigolion Caerdydd yn cael cymorth ychwanegol i ailgylchu'n iawn dan gynllun newydd a fydd yn rhoi gwybod iddynt pan fyddant yn cyflwyno gwastraff halogedig sy'n anaddas i'w ailgylchu.

Gobeithir y bydd y cynllun newydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd yr ailgylchu a chompostio a gesglir o ymyl y ffordd gan Gyngor Caerdydd - gan helpu'r ddinas i ddod yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd.

Mae ffigurau a ryddhawyd gan y Cyngor yn dangos bod 20% o wastraff sy'n cael ei roi mewn bagiau gwyrdd i'w ailgylchu yn cynnwys deunyddiau anghywir sy'n llesteirio'r broses ailgylchu. Y prif droseddwyr yw clytiau budr, dillad, pecynnu a gwastraff bwyd.

Mae gwastraff gardd gwyrdd hefyd yn cael ei gyflwyno gyda deunyddiau anghywir fel caniau dyfrio, cardfwrdd, dodrefn gardd a hyd yn oed rhannau o siediau yn cael eu rhoi mewn biniau olwynion gwyrdd. Er bod lefelau halogi yn is ar 5% mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd ei gynllun newydd yn rhoi hwb i ffigurau ailgylchu ar draws y ddinas.

Bydd yr ymgyrch newydd yn gweld sticeri pinc llachar yn cael eu rhoi ar ailgylchu a bagiau gwastraff gardd neu finiau yn rhybuddio preswylwyr eu bod yn cynnwys eitemau anghywir. Os caiff sticer pinc ei roi ar gynhwysydd, bydd rhaid i breswylwyr fynd â'u gwastraff yn ôl i'w heiddo er mwyn cael gwared ar yr eitemau anghywir cyn iddynt roi eu hailgylchu allan eto ar y dyddiad casglu nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd yng Nghyngor Caerdydd: "Os yw pobl yn gweld pinc rydyn ni eisiau iddyn nhw stopio a meddwl. Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn casglu deunydd ailgylchadwy sych mewn bagiau gwyrdd, er mwyn ei gwneud mor hawdd â phosibl i breswylwyr ailgylchu eu gwastraff.

"Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn casglu ychydig dros 40,000 tunnell o wastraff ailgylchu o strydoedd y ddinas bob blwyddyn, ond ni all 7,000 tunnell o'r gwastraff hwn gael ei ailgylchu neu mae wedi cael ei halogi gymaint gan ddeunyddiau eraill fel na ellir ei wahanu ar gyfer ei ailgylchu.

"Ar gyfer y gwastraff sy'n cael ei roi yn y bagiau gwyrdd, y camgymeriadau mwyaf cyffredin yw rhoi gwastraff bwyd, clytiau a thecstilau yn y bagiau gwyrdd. Nid oes angen rhoi'r eitemau hyn yn y bagiau ailgylchu gwyrdd, gan fod gennym gasgliadau gwastraff bwyd wythnosol ar wahân, a chasgliad hylendid ar gyfer cewynnau. Gallwch hefyd fynd ag eitemau fel tecstilau i'n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

"Ar gyfer y gwastraff gardd gwyrdd, dim ond toriadau glaswellt, coed neu lwyni a dderbynnir. Dyma'r unig eitemau y dylid eu rhoi yn y biniau olwynion gwyrdd.

"Os gwelwch sticer pinc ar eich gwastraff yn y dyfodol yna byddwch hefyd yn gweld cyfeiriad ar-lein ar gyfer ein A i Y ailgylchu ar wefan y Cyngor. Gallwch weld pa ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn ein gwasanaeth casglu ymyl y ffordd.

"Rydym hefyd yn gofyn i breswylwyr rinsio eu caniau, eu tuniau a'u gwydr cyn eu hailgylchu. Bydd hyn oll yn helpu i wneud Caerdydd yn un o ddinasoedd gorau'r byd ar gyfer ailgylchu ac mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo."

Bydd yr ymgyrch ailgylchu newydd hon yn cynnwys pum cam hawdd eu dilyn:

Cam 1)Os bydd casglwyr gwastraff yn gweld gwastraff ailgylchu anghywir naill ai yn y bagiau gwyrdd neu'r bin olwynion gwyrdd, rhoddir sticer pinc ar y cynhwysydd sy'n cynghori'r preswylydd i weithredu.

Cam 2)Os bydd hyn yn digwydd eto, caiff sticer arall ei roi ar y cynhwysydd a bydd llythyr yn cael ei anfon i'r cyfeiriad yn hysbysu'r preswylydd ei fod wedi rhoi eitemau anghywir yn ei wastraff gan ei gynghori i weithredu. 

Cam 3)Os ceir trydydd achos, bydd trydydd sticer yn cael ei roi ar y cynhwysydd a bydd llythyr ffurfiol yn cael ei anfon at y preswylydd i roi gwybod iddo y gall dderbyn hysbysiad cosb benodedig am gyflwyno ailgylchu halogedig eto.

Cam 4)Os ceir achos pellach, bydd pedwerydd sticer yn cael ei roi ar y cynhwysydd gwastraff a bydd hysbysiad adran 46 yn cael ei gyflwyno. Llythyr cyfreithiol yw hwn i roi gwybod i'r preswylydd sut y dylid cyflwyno gwastraff i'w gasglu ac y bydd methu â chydymffurfio yn arwain at hysbysiad cosb benodedig.

Cam 5)Bydd pumed achos yn arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. Os methir â chydymffurfio, bydd y Cyngor yn mynd â'r mater i'r Llys Ynadon ar gyfer erlyn.

Bydd y sticeri pinc yn cyfeirio preswylwyr at wefan, sy'n rhoi 'A-Y o ddeunyddiau ailgylchadwy' er mwyn iddynt allu ymgyfarwyddo â pha eitemau y dylid eu rhoi yn y cynwysyddion a ddarperir.

Os oes angen, bydd tîm addysg y Cyngor yn ymweld â rhai aelwydydd i helpu preswylwyr i ddeall lle maent yn mynd o'i le.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'r ymgyrch hon wedi'i chynllunio i addysgu'r cyhoedd am y deunyddiau y dylid eu rhoi yn y bagiau gwyrdd ar gyfer ailgylchu a pha ddeunyddiau y dylid eu rhoi naill ai yn y biniau olwynion gwyrdd, neu fagiau, ar gyfer compostio.

"Dros gyfnod treigl o 12 wythnos, os bydd preswylydd yn rhoi eitemau anghywir naill ai yn ei fagiau gwyrdd neu yn ei fin compostio gwyrdd (neu fagiau) ar bum achlysur gwahanol, rhoddir hysbysiad cosb benodedig o £100 iddo.

"Mae'n bwysig pwysleisio mai dim ond i breswylwyr sy'n rhoi'r deunyddiau anghywir wrth ailgylchu a chompostio y mae'r ymgyrch hon a'r pum cam a amlinellir yn berthnasol. Ar gyfer pob trosedd amgylcheddol arall, fel taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon, gosod posteri'n anghyfreithlon, ac eraill, bydd gorfodaeth gwastraff arferol ar waith.

"Cofiwch, er nad oes modd ailgylchu rhai eitemau wrth ymyl y ffordd, gallwn ailgylchu dros 20 o eitemau eraill yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff cartref. Ceir mwy o fanylion ymahttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspx 

"Mae'r cynllun yn cael ei gynnal yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar addysg a gorfodaeth gwastraff."

Os yw preswylydd yn anwybyddu'r sticer pinc ac yn gadael ei wastraff ar y stryd gellir hepgor y broses pum cam a gallai wynebu hysbysiad cosb benodedig o £100 yn syth am daflu sbwriel.

Mae didoli'r gwastraff hwn na ellir ei ailgylchu o ffrydiau ailgylchu'r ddinas yn costio tua £????? i'r cyngor a'r trethdalwr, ac mae'n cael effaith negyddol ar berfformiad ailgylchu'r ddinas a allai arwain at gosbau gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru am fethu â chyrraedd ein targedau ailgylchu heriol.

Gobeithir y bydd yr ymgyrch newydd yn gwella ansawdd yr ailgylchu a gesglir yn y ddinas, yn cynyddu'r gyfradd ailgylchu ac yn helpu'r ddinas i chwarae ei rhan wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Disgwylir i'r cynllun peilot gael ei gyflwyno o 2 Mawrth a bydd rhagor o wybodaeth am ba wardiau fydd yn cael eu cynnwys yn cael eu rhyddhau yn nes at y dyddiad lansio.