Back
Darparu cartrefi newydd i bobl hŷn


 17.1.20

Cynlluniau cyffrous ar gyfer 100 o dai cyngor newydd i fodloni anghenion a dyheadau pobl hŷn yn y ddinas i'w drafod gan y Cabinet yr wythnos nesaf.

 

Mae'r cynigion i adeiladu cartrefi modern, eang a hygyrch i bobl hŷn yn Llaneirwg a Maelfa yn rhan annatod o gynlluniau uchelgeisiol y Cyngor ar gyfer codi 1,000 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2022.

 

Cyflwynwyd y ddau gynllun ar gyfer cymeradwyaeth gynllunio ym mis Rhagfyr yn dilyn digwyddiadau ymgynghori preswylwyr llwyddiannus ac fe'u cynlluniwyd i ymateb yn gadarnhaol i anghenion cyfnewidiol pobl hŷn gan alluogi tenantiaid i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn annibynnol tra'n darparu amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol a mannau awyr agored hygyrch. Mae'r ddau gynllun wedi'u cynllunio i fod yn fwy hygyrch a hyblyg er mwyn lleihau'r angen am addasiadau yn y dyfodol, tra'n sicrhau safon uchel o ddylunio a phensaernïaeth.

 

Mae prosiect Maelfa yn estyniad newydd i'r tŵr fflatiau presennol yn Llanedern a bydd yn darparu 41 o fflatiau hygyrch gyda balconi neu batio preifat yn ogystal â lolfa preswylwyr ar y safle, ystafelloedd gweithgareddau, ystafell feddygol a chyfleusterau eraill. Cyswllt gwydrog newydd a gardd do a fydd yn cysylltu'r datblygiad newydd â'r tŵr fflatiau gan greu ymdeimlad gwirioneddol o gymuned i'r trigolion.

 

Cynllun prosiect Llaneirwg yw ailddatblygu'r hen ganolfan gymunedol a bydd yn darparu 60 o fflatiau hygyrch newydd yn ogystal ag ystafelloedd gweithgareddau, lolfa preswylwyr, ystafell feddygol a gerddi preifat.

 

Bydd y ddau gynllun yn cael eu defnyddio i ddarparu hyb i wasanaethau ar gyfer y boblogaeth hŷn ehangach yn yr ardal gyfagos er mwyn helpu i fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'n hanfodol ein bod, fel rhan o'n gweledigaeth tai ar gyfer y dyfodol, yn datblygu cartrefi sy'n diwallu anghenion pobl hŷn, nid yn unig pan fyddant yn symud i mewn yn gyntaf ond wrth iddynt heneiddio hefyd.

 

"Bydd y ddau gynllun hyn yn darparu cartrefi newydd sy'n cynorthwyo pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a'u cysylltedd â'u cymunedau lleol er mwyn helpu i atal unigedd cymdeithasol, a lleihau'r angen am ofal preswyl yn y tymor hwy."

 

 

Bydd y Cabinet yn ystyried yr argymhelliad i gymeradwyo'r broses gaffael i benodi contractwyr ar gyfer adeiladu'r ddau gynllun yn ei gyfarfod ddydd Iau, Ionawr 23.