Back
Gwnewch rywbeth newydd heddiw!


 17.1.20

Mae defnyddwyr llyfrgelloedd a hybiau ledled Cymru yn cael eu hannog i roi cynnig ar weithgaredd neu hobi newydd y flwyddyn newydd hon i hybu eu hiechyd a'u lles.

 

Ar ddydd Llun 20 Ionawr, bydd llyfrgelloedd ledled y ddinas yn cynnig cyfle i gwsmeriaid ac aelodau'r cyhoedd gymryd rhan mewn gweithgaredd newydd nad ydynt wedi rhoi cynnig arno erioed o'r blaen.

 

‘Diwrnod Gwnewch Rywbeth Newydd' yw rhan olaf ymgyrch Byw'n Dda yng Nghymru Llyfrgelloedd Cymru sy'n dod â llyfrgelloedd cyhoeddus a sefydliadau partner at ei gilydd i dynnu sylw at y rôl bwysig y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae yng nghalon eu cymunedau lleol ac i hyrwyddo'r miloedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n hybu iechyd a lles a gynhelir mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn.

 

Dechreuodd yr ymgyrch ym mis Mai 2019 gydag Wythnos Gweithredu Dementia, mewn partneriaeth â'r Alzheimer's Society, cyn cefnogi wythnos 'Nabod eich Rhifau!' elusen Pwysedd Gwaed y DU  ym mis Medi ac Wythnos Dyslecsia Cendlaethol Cymdeithas Dyslecsia Prydain ym mis Hydref.

 

Mae llyfrgelloedd Cymru yn gweithio gydag Amser i Newid Cymru, Hafal a MIND Cymru ar ‘Ddiwrnod Gwnewch Rywbeth Newydd', i ysbrydoli pobl i roi cynnig ar rywbeth newydd i wella eu lles corfforol a meddyliol ar ddechrau'r flwyddyn newydd hon.

 

Bydd pencampwr Amser i Newid Cymru yn ymweld â Hyb Llaneirwg ar 20 Ionawr (9.30am - 12pm) i roi gwybodaeth ar yr ymgyrch i roi diwedd i'r stigma y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn ei wynebu, tra bod ystod o ddigwyddiadau am ddim yn cael eu cynnal ledled hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd gan gynnwys:

 

Hyb STAR

 

Diwrnod Achub y Blaned

11am - 4pm

 

Hyb y Llyfrgell Ganolog

 

Jyglo gyda Syrcas Upside Down

 

Gwau

 

Crefftau Papur

 

Gweithdy Côr

 

Gwersi Blasu Ieithoedd (Pwyleg/Ffraneg)

 

 

11am-12pm

 

12pm - 1pm

 

12pm - 1pm

2pm - 3pm

 

3pm - 4pm

 

Hyb Powerhouse, Llanedern: 

 

Gwau a Sgwrsio

11.30am - 1.30pm

 

Hyb Trelái a Chaerau

Tai Chi

 

4pm—5pm

Llyfrgell Radur

Gwau a Chrosio

 

Sgwrsio Ffraneg (Dechreuwyr)

 

Dewch i chwarae Bridge

 

Codi Sbwriel Carwch Eich Cartref

10am - 12pm

 

11am - 11.45am

2pm 3.30pm

 

10 - 11.30am

 

Llyfrgell Treganna

Crefftio Papur

2pm - 4pm

Hyb Llanisien

Dewch draw am goffi a sgwrs a dewch â chrefft gyda chi

 

Ioga ar Gadair

 

Awr ‘Appus (help gydag appiau ar eich dyfais eich hun)

9.30am - 11.00am

 

 

 

2.30pm -3.30pm

 

11am-12pm

Llyfrgell Rhiwbeina

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwrdd â'r RSPB i gael gwybod am roi cartref i natur 

 

Bore Coffi Cymunedol

 

Gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli (gyda Tony Wakeham)

 

Ioga ar Gadair

 

Darllen yn Uchel

 

 

10am - 2pm

 

 

10am - 11.30am

 

10am - 2pm

 

 

10.30am - 11.30am

 

3pm - 4pm

 

Hyb Grangetown

 

 

Digwyddiad Achub y Blaned

 

11am-4pm

Hyb Llanrhymni

Gwau a Sgwrsio

 

Cwrdd ar Ddydd Llun

 

 

Hyfforddiant LIFT (dosbarthiadau ymarfer corff ysgafn i bobl hŷn)

 

 

Celf

11am-12pm

 

 

12pm - 2pm

 

 

12.15pm - 1pm.

 

 

1pm - 2pm

 

Hyb Llaneirwg

 

Olrhain eich Cyndeidiau

 

3pm - 4pm

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae dechrau 2020 yn amser perffaith i roi cynnig ar rywbeth newydd ac mae ein hybiau a llyfrgelloedd yn rhoi cyfle i bobl wneud hynny ar Ddiwrnod Gwnewch Rywbeth Gwahanol.

 

"Rwy'n falch ein bod ni'n gallu cynnig ystod mor eang o weithgareddau ledled y ddinas i roi blas i bobl ar y digwyddiadau, y dosbarthiadau a'r grwpiau sydd yn ein cyfleusterau gydol y flwyddyn yn rheolaidd. Mae Gwnewch Rywbeth Gwahanol yn gyfle gwych i amlygu'r effaith bositif y gall ein gwasanaethau llyfrgell a hyb ei chael ar dymer a lles pobl.

 

"Rydym yn falch o fod yn cefnogi menter Llyfrgelloedd Cymru, gan hyrwyddo lles cymdeithasol a ffyrdd o fyw actif, ac annog ein cwsmeriaid i roi cynnig ar rywbeth newydd a ddydd Llun."