Back
Cymorth i bobl ddigartref - Gaeaf 2019/20

 

Mae cynlluniau i gynorthwyo pobl sy'n cysgu allan i fynd i lety a gwasanaethau cymorth yn y ddinas dros yr Ŵyl a thrwy'r gaeaf.

 

Mae Caerdydd yn defnyddio dull gwaith allanol cadarn o gynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd a defnyddio gwasanaethau lle gallant gychwyn ail-adeiladu eu bywydau. Mae'r Tîm Aml-ddisgyblaeth, sy'n cynnwys ystod o weithwyr proffesiynol gyda'r arbenigedd i helpu pobl ag anghenion cymhleth, allan ar y strydoedd saith niwrnod yr wythnos o'n gynnar yn y bore tan yn hwyr yn y nos.

 

Mae'r tîm yn cynnwys gweithiwrcyffuriau ac alcohol, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol, gweithiwr therapiwtig a chwnselydd, mentoriaid cyfoedion a mynediad i wasanaethau presgripsiynu cyflymac mae'n dull ar y cyd rhwng y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a'r Fro i gynorthwyo pobl i gael mynediad at y gwasanaethau mae arnynt eu hangen er mwyn dod oddi ar y strydoedd.

 

Mae tua 69 lle ychwanegol ar gael hefyd yn ystod cyfnod oeraf y flwyddyn yn ogystal â'r 261 lle hostel ar gyfer pobl ddigartref, 98 gwely argyfwng a 353 uned llety â chymorth ar gael trwy'r flwyddyn.  Mae cyfle hefyd i agor darpariaeth arall i greu mwy fyth o lefydd os oes angen.

 

Mae'r Cyngor yn awyddus i annog y rhai sy'n cysgu ar y strydoedd i ddod i lety lle gallant gael yr help mae arnynt ei angen a bydd y MDT yn gweithio gydag unigolion bob dydd ac yn gweld sut mae eu lles a rhoi cymorth iddynt ddod i mewn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae darpariaeth ar gyfer y digartref yn cael ei hadolygu i sicrhau bod y gwasanaethau yn ateb anghenion pobl, ac eleni, rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'r ddarpariaeth frys mewn tywydd oer.

"Gyda'n project Tŷ Nos, rydym wedi gwrando ar ein cleientiaid sydd wedi dweud na ddônt i lety heb eu cyfeillion felly rydym yn gadael i ffrindiau symud i mewn gyda'i gilydd mewn grwpiau. Rydym hefyd wedi defnyddio uned 3 ystafell wely ychwanegol ar gyfer menywod yn unig, gan gynnig darpariaeth frys hunangynhwysol i fenywodmewn argyfwng."

Er bod llety a gwasanaethau ar gael, mae llawer o bobl yn aros y tu allan oherwydd y gall eu hanghenion cymhleth neu'r profiadau trawmatig y maent wedi eu cael fod yn rhwystr rhag defnyddio gwasanaethau. Yn yr achosion hyn, mae'r tîm gwaith allanol yn parhau i weithio â nhw i fynd i'r afael â'u hanghenion.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne:  "Rydym yn cael rhywfaint o lwyddiant yn cysylltu ag unigolion sydd bellaf oddi wrth gael mynediad at wasanaethau diolch i waith y tîm aml-ddisgyblaeth sy'n helpu pobl i fynd i'r afael ag achosion sydd wrth wraidd eu digartrefedd ac mae'n galonogol bod lefelau ymgysylltu â chleientiaid wedi cynyddu'n anferthol ers creu'r ymateb gwaith allanol cadarnhaol aml-asiantaeth hwn."

 

Eleni, mae 135 person a oedd yn cysgu allan ac yn gwrthod cael mynediad at dai a chymorth, wedi cael cymorth i fynd i lety ac mae nifer y pebyll, a oedd yn rhwystr ychwanegol rhag ymgysylltu â phobl, wedi lleihau yn sylweddol i chwech.

 

Rhan o waith y Tîm Aml-ddisgyblaeth ydy sefydlu gweithgareddau dargyfeiriol i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn diwylliannau stryd negyddol a gwella sgiliau a gallu pobl i symud i fyw'n annibynnol, trwy ymgysylltu ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, ac allbynnau therapiwtig a chreadigol. Mae tua 300 o unigolion wedi cael eu cynorthwyo drwy'r cynllun, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis gweithdai celf, ffotograffiaeth a cherddoriaeth, gweithdai i Mewn i Waith a Chyngor ar Arian, boreau coffi a sesiynau chwaraeon.

 

Caiff darpariaeth llety a darfyfeirio ei ehangu yn y Flwyddyn Newydd gyda'r nod o gyrraedd hyd yn oed rhagor o oedolion sy'n agored i niwed.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:  "Rydym yn cydnabod bod angen newid sut rydym yn gweithredu rhai o'n gwasanaethau ac rwy'n falch bod y trefniadau newydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl y maen nhw wir angen ein cymorth.

 

"Mae tua 44 person yn dal i gysgu ar y strydoedd y mis Rhagfyr hwn ond mae'r ffigwr wedi gostwng yn sylweddol, o'i gymharu â 87 person y llynedd a 79 yn 2017. Yn anffodus, buan y daw pobl eraill i le'r bobl rydym yn eu helpu i fynd i lety ond byddwn yn parhau i wneud ein gorau i sicrhau bod y bobl sy'n agored iawn i niwed yn cael y cymorth mae arnynt ei angen."