Back
Barod, barod, ewch...i Ynys Echni


 20/12/19
Am ei bod yn gorwedd yng nghanol Môr Hafren, 5 milltir oddi ar arfordir Caerdydd, mae cyrraedd Ynys Echni wastad wedi bod ychydig yn fwy heriol na chyrraedd rhannau eraill o Gaerdydd, ond bydd glanfa newydd ar yr ynys yn gwneud hynny lawer yn haws.

Mae'r lanfa £365,000,  a ariannwyd drwy gyfrwng y Gronfa Gymunedol Tirlenwi gan Mondegreen EB, yn ddarn o seilwaith hanfodol i wasanaethu a dwyn ymwelwyr i'r ynys a bydd yn gymorth i broject £1.3 miliwn arfaethedig i warchod treftadaeth yr ynys, amddiffyn ei bywyd gwyllt a denu rhagor o ymwelwyr.

Wedi 30 mlynedd a mwy o wynebu'r elfennau a rhychwant llanw hynod Môr Hafren, roedd yr hen lanfa wedi dirywio a chollwyd rhan ohoni i'r môr yn llwyr, gan adael ffenest o 1.5 awr yn unig pan ellir glanio ar yr ynys gan leihau hygyrchedd y lle i ymwelwyr.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:Mae Ynys Echni yn gyforiog o hanes sydd yn mynd nôl i'r G6, mae'n atyniad unigryw ac yn un o drysorau cudd ein dinas.

"Bydd y lanfa newydd yn rhan greiddiol o'n cynlluniau ehangach i roi bywyd newydd i'r ynys, gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a galluogi mwy o bobl i ddarganfod gorffennol hynod a'r bywyd gwyllt a'r planhigion anarferol sydd i'w canfod yn y darn o dir mwyaf deheuol yng Nghymru."