Back
King yn Cwrdd â'r Frenhines i gael ei anrhydeddu gydag MBE

Llongyfarchiadau i sylfaenydd Cardiff Rivers Group Dave King, sydd wedi cael ei anrhydeddu gydag MBE am "ei wasanaethau i'r amgylchedd" yn Arwisgiad Tachwedd.

Gyda Dave ym Mhalas Buckingham oedd ei wraig, ei nith a'i dad sef yr un y gwnaeth gysegru ei wobr iddo.

Dywedodd Dave: "Roedd yn ddiwrnod bendigedig ac rwyf mor falch fy mod wedi cael y cyfle i fod yn rhan ohono gyda fy nheulu; roedden nhw ar ben eu digon - wedi mwynhau ma's draw."

"Cefais wybod fy mod wedi cael fy enwebu am MBE tua mis cyn y cyhoeddiad ym mis Mehefin felly rwyf wedi bod yn nerfus ac yn llawn cyffro yn aros am y diwrnod."

"Pan wnaethom ni gyrraedd Palas Buckingham, cawsom ein croesawu gan Fand y Marchoglu Cartref ar y grisiau.  Yna, cefais fy nhywys i'r ardal aros lle cefais y pleser o gwrdd â phobl hynod hyfryd oedd hefyd yn cael eu hanrhydeddu gydag MBE ac OBE - pobl o bob cwr o'r wlad."

"Dim ond awr cyn yr amser cawsom wybod mai'r Frenhines fyddai'n cyflwyno ein gwobrau i ni gan y gall gael ei gynnal gan Dywysog Siarl, Dug Caergrawnt neu'r Dywysoges Anne."

"Pan gefais wybod mai gan y Frenhines y byddai'n cael fy ngwobrwyo, roeddwn mor hapus! Roedd yn brofiad rhyfeddol."

"Roedd y Frenhines yn hyfryd.  Llongyfarchodd fi a chymryd yr amser i siarad gyda phob un ohonom yn unigol. Roedd ganddi ddiddordeb gwirioneddol yn y gwaith gwirfoddol rydym yn ei wneud yma yng Nghaerdydd."

"Ar hyn o bryd, mae fy medal ar ben y cwpwrdd nes mod i'n penderfynu lle i'w arddangos."

Sefydlodd Dave Cardiff Rivers Group gyda 5 o wirfoddolwyr Cadw Cymru'n Daclus yn ôl ym 2009 a degawd yn ddiweddarach, mae'r grŵp wedi mynd o nerth i nerth gyda phwyllgor rhagorol a thros 600 o gefnogwyr a gwirfoddolwyr ar eu rhestr aelodaeth. Maen nhw'n gweithio gyda sefydliadau a chwmnïau gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Awdurdod yr Harbwr, Viridor, Gwasanaethau Parciau Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Carwch Eich Cartref, Tŷ'r Cwmnïau McDonalds, Dŵr Cymru ac wrth gwrs, Cadwch Gymru'n Daclus.

Yn ogystal â sefydlu Cardiff Rivers Group, sefydlodd Dave Cadwch Grangetown yn Daclus ac roedd yn rhan annatod o roi Cadwch Sblot yn Daclus ar ben ffordd. Hefyd, sefydlodd ‘The Dusty Shed' - elusen wedi'i seilio ar y syniad o Ddynion mewn Siediau gyda'r nod o helpu dynion sy'n teimlo ar wahân.

Ers cael ei MBE ddydd Iau, roedd Dave yn ôl yn ei waith dridiau'n ddiweddarach, yn arwain criw o bobl i hel sbwriel ym Mharc Hamadryad ddydd Sul.

Dywedodd:  "Roedd gennym ni 35 o wirfoddolwyr gyda Cardiff Rivers Group ddydd Sul ac fe gasglom ni 120 bag o sbwriel ynghyd â llawer o sbwriel rhydd."

"Gwych yw gweld cymunedau yn awyddus i ofalu am eu hardaloedd lleol. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn parhau i ddatblygu."

Llongyfarchiadau Dave a diolch i chi am wneud cymaint o wahaniaeth i Gaerdydd - heb os, rydych yn llawn haeddu'r wobr hon.

Awydd ymuno? Cymerwch ran! Gallwch gael rhagor o wybodaeth a manylion am y digwyddiadau ynCardiff River Group ac ewch iKeep Cardiff Tidy er mwyn cael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli.