Back
Cymorth i bobl sy'n ddigartref yng Nghaerdydd - Gaeaf 2019

 

  • Mae'r cyngor yn helpu llawer o bobl a allai ddod yn ddigartref ac mae ystod o ddarpariaeth ar gael o lety statudol dros dro i bobl y mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd iddynt i lety arall â chymorth y ceir mynediad ato trwy'r Porth Person Unigol a'r Porth Pobl Ifanc. 

 

  • Mae mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas yn un o brif flaenoriaethau'r Cyngor ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i roi ein Strategaeth Cysgwyr ar y Stryd ar waith, gan gynnwys model ‘Tŷ yn Gyntaf' sy'n symud cysgwyr ar y stryd ynsyth o'r strydoedd i gartref.

 

 

  • Yn 2018/19, helpom 157 person i ddod oddi ar y stryd ac i lety.

 

  • Rydym yn gweithio gydag elusennau digartref megis Byddin yr Iachawdwriaeth, Wallich, Huggard a'r YMCA i gynnig llety hostel, canolfan ddydd i'r digartref a gwasanaeth bws nos.

 

  •  Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag unigolion i'w cefnogi i gael mynediad at wasanaethau ac mae ein tîm Allgymorth yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos yn ystod y dydd a chyda'r nos i ymgysylltu â phobl sy'n cysgu ar y stryd neu sy'n wynebu risg o gysgu ar y stryd. 

 

 

  • Yn aml mae gan unigolion sy'n cysgu ar y stryd broblemau eithriadol gymhleth ac mewn rhai achosion maent yn penderfynu peidio â defnyddio ein llety ac yn lle hynny, byddant yn cysgu ar y stryd am lawer o flynyddoedd.Yn yr achosion hyn, mae ein tîm Allgymorth yn gweithio'n uniongyrchol â nhw bob dydd.

 

  • Mae tîm amlddisgyblaeth ar gael i helpu unigolion i fynd i'r afael â'u problemau. Mae'r tîm hwn yn cynnwys gweithiwr cyffuriau ac alcohol, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, gweithiwr therapiwtig a chwnselydd, mentoriaid sy'n gyfoedion a mynediad at wasanaethau a drefnir yn gyflym.
  • Mae ystod eang o wasanaeth cyfannol ar gael bob dydd i unigolion gan gynnwys gwasanaethau alcohol, cyffuriau a meddygol, ynghyd â gwasanaethau llety 
  • Yn gyffredinol rydym yn darparu 261 o leoedd hostel i bobl ddigartref sengl a 98 o welyau brys a 353 o unedau llety a gefnogir. Dros y gaeaf, mae gwelyau argyfwng ychwanegol.

 

  • Mae Tai yn Gyntaf yn profi'n llwyddiannus wrth ddarparu ar gyfer pobl sy'n cysgu allan sydd ag anghenion cymorth uchel a chymhleth.Eleni, cawsom arian gan Lywodraeth Cymru i allu estyn ein cynllun Tai yn Gyntaf yn y ddinas. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn rhoi'r gallu i'r Cyngor greu 10 gofod Tŷ yn Gyntaf, wedi ei anelu'n benodol at rai sy'n gadael y carchar gydag anghenion cymhleth i geisio dod allan o'r cylch digartrefedd a charchar.

 

 

  • Mae project Tŷ Nos y Cyngor wedi cael llwyddiant sylweddol o ran symud pobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd am amser hir i lety trwy ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnwys galluogi ffrindiau i symud i mewn gyda'i gilydd mewn grwpiau. Yn ddiweddar, mae uned 3 ystafell wely ychwanegol wedi'i nodi ar gyfer menywod, gan gynnig darpariaeth brys hunangynhwysol i fenywod yn unig mewn ymateb i angen a nodwyd.

 

  • Sefydlwyd gweithgareddau dargyfeirio Croeso Cynnes eleni gyda'r nod o fyndi'r afael â'r cynnydd mewn diwylliannau stryd negyddol a gwella sgiliau a gallu pobl i symud i fyw'n annibynnol, trwy ymgysylltu ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, ac allbynnau therapiwtig a chreadigol. Mae tua 300 o unigolion wedi cael cefnogaeth trwy'r cynllun sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau fel gweithdai celf, ffotograffiaeth a cherddoriaeth, gweithdai I Mewn i Waith a Chyngor Arian, boreau coffi a sesiynau chwaraeon.

 

C:\Users\c080012\Desktop\Homeless\Tresillian art pics\2019_0212_16465400.jpg

 

 

  • Mae'r project Taclo Digartrefedd a lansiwyd eleni yn cynnig cyfle i bobl sy'n byw mewn hosteli neu sy'n ymwneud â gwasanaethau cysgu ar y stryd i gymryd rhan mewn sesiynau bocsio a ffitrwydd wythnosol. Nod y rhaglen yw gwella iechyd meddwl a chorfforol cyfranogwyr, yn ogystal â gwella sgiliau bywyd. Mae cyfranogwyr wedi magu hyder a chymhelliant, sydd wedi arwain at fwy o ymgysylltu â gwasanaethau. Mae rhai wedi symud ymlaen i gael profiad gwaith diogel a gwaith â thâl, neu wedi cael llety parhaol.

 

 

C:\Users\c080012\Desktop\BOXING\IMG_4577.JPG

 

  • Yn ogystal a llety ar gyfer pobl sengl, mae gennym hefyd dros 500 uned llety dros dro i deuluoedd gael byw tra deuir o hyd i ateb mwy parhaol.

 

  • Mae'r Cyngor yn ystyried ffyrdd arloesol o ddod â rhagor o dai fforddiadwy i'r ddinas yn cynnwys defnyddio cynwysyddion morio fel cartrefi dros dro i deuluoedd digartref. Bydd 13 o gartrefi newydd yn barod yn gynnar yn y flwyddyn newydd ar Stryd Bute trabydd wyth cartref newydd yn cael eu creu yn Ty Green Farm yn Nhrelái, gyda'r teuluoedd 1af yn symud i mewn cyn y Nadolig.

 

  • Yn ogystal â llety mwy dros dro, y Cyngor yw un o'r cynghorau prin yn y wlad sy'n adeiladu tai cyngor newydd er mwyn dod â chartrefi fforddiadwy o safon dda i ateb galw cynyddol. Mae 1,000 tŷ cyngor newydd ar y gweill ar gyfer 2022 ac mae gennym darged o greu cyfanswm o 2,000 o gartrefi newydd yn y blynyddoedd nesaf.