Back
Preswylwyr yn ‘Gweithio i Gaerdydd’ i helpu i glirio’r dail o’r strydoedd

Yn ystod yr hydref, gall dail ar y strydoedd achosi problemau mawr yn y ddinas.

Mae yna berygl y gall pobl lithro a chwympo a gallan nhw flocio draeniau gan achosi llifogydd.

Mae preswylwyr sy'n byw ar strydoedd coediog yn y ddinas, lle mae yna fwy o ddail yn disgyn, wedi bod yn cydweithio fel cymuned i rannu'r dasg o glirio'r dail, gan eu hysgubo'n bentyrrau yn barod i'w codi gan Dîm Glanhau Strydoedd y Cyngor.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae preswylwyr Pontcanna a Glan-yr-afon wedi bod yn rhagweithiol i glirio dail fel rhan o'r project cymunedol Sgubo'r Stryd

Amserlen Sgubo'r Stryd Pontcanna a Glan-yr-afon:

  • Dydd Sadwrn, 2 Tachwedd - Ryder Street a Plasturton Gardens / Place
  • Dydd Sadwrn, 9 Tachwedd - Conway Road a Turberville Place
  • Dydd Sadwrn 16 Tachwedd - Talbot Street a Pontcanna Street
  • Dydd Sul 24 Tachwedd - Neville Street, Gerddi Despenser a Gerddi Clare
  • Dydd Sul 1 Rhagfyr - Severn Grove

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Am y pedair blynedd diwethaf rydym wedi gweld preswylwyr ym Mhontcanna wrthi'n frwdfrydig yn clirio dail gyda'i gilydd yn ‘Sgubo'r Stryd'.

"Mae'n waith caled, yn enwedig os bydd y dail yn wlyb ac yn drwm i'w symud ond mae'n werthchweil gweld canlyniad i'w hymdrechion, stryd y mae'n ddiogel cerdded ar ei hyd. Mae preswylwyr yn defnyddio eu hysgubau eu hunain a'r llynedd sylwom fod rhai yn defnyddio rhofiau eira ac mae'r rhain, mewn gwirionedd, yn declyn gwell ar gyfer dail sych a gwlyb fel ei gilydd."

"Mae'r ffordd hon o weithio gyda'i gilydd yn unigryw yng Nghaerdydd - trefnir yr ymdrechion yn gyfan gwbl gan y gymuned gyda chefnogaeth wych gan dîm Glanhau Strydoedd Canol Dinas y Cyngor"

"Diolch am yr holl waith ardderchog yn clirio'r dail - mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'n cymuned."

Gall preswylwyr gysylltu â ni ynghylch dail sydd wedi cwympo ar y pafin ac ar y ffordd trwy ddefnyddio ein App Llyw Caerdydd.

I lawrlwytho'r ap ewch i siop Google Play neu siop appiau Apple a chwilio am ‘Cardiff Gov'.