Back
Erlyn pobl sy’n defnyddio’r cynllun bathodyn glas yn anghyfreithlon

Mae pump o bobl wedi eu herlyn yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau, 21 Tachwedd am gamddefnyddio ‘r cynllun bathodyn glas yng Nghaerdydd.

Mae'r Cynllun Twyll Cenedlaethol yn amcangyfrif yn y DG, bod un o bob pump bathodyn glas yn cael eu defnyddio yn anghyfreithlon ac mae camau yn cael eu cymryd nawr gan nifer o awdurdodau lleol i erlyn y rheiny sydd yn camddefnyddio'r cynllun.

Yng Nghaerdydd mae 18,000 o fathodynnau wedi eu rhoi i breswylwyr yn gyfreithlon a dechreuodd y cyngor car gynllun addysg a gorfodi fis mai er mwyn sicrhau fod y bobl sy'n defnyddio'r cynllun bathodyn glas yn gwneud hynny yn gywir.

Ers mis Mai, mae 45 o fathodynnau wedi eu hatafaelu, daethpwyd ag wyth achos yn llwyddiannus i'r llys, a rhoddwyd un rhybudd ffurfiol, tra bod disgwyl i'r 36 achos arall i gael eu herlyn.

Rhoddwyd y dirwyon canlynol gan Lys Ynadon Caerdydd ddoe.

  • Nid oedd Robert Molden, 74 o Channel View Road, Caerdydd yn y llys ac fe glywyd yr achos yn ei absenoldeb. Derbyniodd Mr Molden ddirwy o £270, ei orchymyn i dalu £300 mewn costau, a gordal dioddefwr o £30 am ddefnyddio bathodyn glas ei wraig pan barciodd ar Ffordd Churchill ar 29 Mai, 2019, pan nad oedd hi yn y cerbyd.
  • Plediodd Rosa Duarte, 48 oed, o Heol Albany, Caerdydd yn euog i ddefnyddio bathodyn glas o eiddo un o'i chleientiaid, pan nad oedd y cleient yn y cerbyd ar 29 mai, 2019 ar Blas Windsor a chafodd ddirwy o £200, fe'i gorchmynnwyd i dalu £300 mewn costau a gordal dioddefwr o £30
  • Plediodd Xue Jin Chen, 39, o Cheddar Crescent, Caerdydd yn euog i ddefnyddio bathodyn glas ei ferch ar Blas Windsor ar 4 Mehefin, 2019, pan nad oedd yn y cerbyd a derbyniodd ddirwy am £200, gorchymyn i dalu costau o £300 a gordal dioddefwr o £30.
  • Plediodd Lisa Jane Dring, 49, o New Roadt, Caerdydd yn euog i ddefnyddio bathodyn glas ei thad pan barciodd at Lôn Windsor ar 6 Mehefin, 2019, pan nad oedd ef yn y cerbyd a derbyniodd ddirwy am £200 gorchymyn i dalu costau o £300a gordal dioddefwr o £30.
  • Plediodd Rachel Cooper, 50, o Evard Way, Caerdydd yn euog i ddefnyddio bathodyn glas ei mab ar Lôn Windsor ar 14 Mehefin, 2019, pan nad oedd ef yn y cerbyd a derbyniodd ddirwy am £200, gorchymyn i dalu costau o £300 a gordal dioddefwr o £30.

Dwedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r Cyngor mewn unrhyw fodd yn targedu pobl anabl, i'r gwrthwyneb, gan ein bod yn targedu'r rhai hynny sydd yn defnyddio bathodynnau glas yn anghyfreithlon ac yn mynd â llefydd parcio dynodedig sydd gwir eu hangen ar bobl mewn angen."

Mae bathodyn glas yn galluogi person anabl i:

  • Barcio ar strydoedd gyda mesuryddion parcio neu beiriannau talu ac arddangos cyhyd ag sydd angen
  • Parcio mewn man anabl ar strydoedd cyhyd ag sydd angen, oni bai bod arwydd sy'n rhoi cyfyngiad amser
  • Eich galluogi i barcio ar linellau melyn dwbl neu sengl am hyd at dair awr oni bai bod arwydd ‘dim llwytho'.
  • Nid yw cael bathodyn glas yn eich galluogi i barcio'n unrhyw le. Mae'n rhaid dilyn rheoliadau parcio. Gellir rhoi tocyn o hyd os parciwch mewn ardal sy'n peryglu pobl, er enghraifft y tu allan i ysgol neu'n agos at gyffordd.

Nid yw cael bathodyn glas yn golygu eich bod yn gallu parcio unrhyw le, oherwydd rhaid dilyn y rheoliadau parcio. Os byddwch yn parcio mewn ardal sy'n peryglu pobl, er enghraifft y tu allan i ysgol neu wrth gyffordd gallwch gael tocyn.

Gall deiliad bathodyn glas adael i rywun arall ddefnyddio ei fathodyn dim ond os:

  • Ydych yn y car gyda nhw
  • Ydynt yn eich casglu neu'ch gollwng, a bod angen iddynt barcio'n agos i'r lleoliad y mae angen i chi fynd iddo
  • Os bydd rhywun arall yn eich gyrru chi, rhaid i chi roi gwybod iddynt am y rheolau, neu gallai'r bathodyn gael ei atafaelu.

Aeth y llefarydd ymlaen i ddweud: "Y neges glir yw i ddeiliaid bathodynnau glas eu defnyddio nhw yn gywir, yn unol â'r gyfraith, fel arall fe gaiff y bathodyn ei atafaeluac ni fydd deiliad y bathodyn yn cael mynediad i unrhyw fudd-daliadau, a bydd yn cael ei erlyn trwy'r llysoedd.Y ddirwy fwyaf y gall llys ei rhoi am y drosedd hon yw £1000. Mae hawl gyfreithiol gan y Cyngor i atafaelu bathodynnau glas gan unrhyw un sydd yn eu defnyddio nhw, gan fod proses apêl ar gael os bydd person anabl yn tybio bod ei fathodyn glas wedi ei gymryd oddi arno yn anghyfreithlon."