Ymhlith gwobrau eleni mae lle yng Ngŵyl Sŵn 2020,
amser recordio gyda'r cynhyrchydd amlwg Charlie Francis, sydd wedi gweithio
gydag ystod o artistiaid o Future of the Left i Turin Brakes, Robyn Hitchcock,
Wilco ac REM.
Daw'r gystadleuaeth, sy'n agored i artistiaid o
unrhyw arddull gerddorol, i'w brig gyda dwy rownd gynderfynol, i'w cynnal ym
mis Ionawr cyn y ffeinal mawr ar 15 Chwefror yng Nghlwb Ifor Bach, lle bydd
artistiaid yn cael cyfle i arddangos eu cerddoriaeth yng nghalon sin gerddorol
Caerdydd, o flaen panel o arbenigwyr y diwydiant.
Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:
"Mae Caerdydd yn un o bwerdai creadigol y DU - mae sector creadigol y
ddinas eisoes yn cyflogi dros 15,000 o bobl ac yn cynhyrchu gwerth mwy nag £1
biliwn i'r economi leol.
"Gyda bwrdd cerddoriaeth cyntaf y ddinas
yn barod i ddechrau datblygu cynlluniau i ymgorffori cerddoriaeth yn strwythur
y ddinas, mae'n amser cyffrous i fod yn rhan o ddiwylliant cerddoriaeth
Caerdydd.
"Rydym yn awyddus i ymgorffori
cerddoriaeth ym mhob agwedd ar y ddinas gan gynnwys cynllunio a thwristiaeth,
ac yn y pen draw, diogelu a thyfu sector cerddoriaeth Caerdydd - mae rhan o hyn
yn ymwneud â chefnogi artistiaid newydd ac mae'r Gig Fawr yn gyfle gwych i
gerddorion ifanc ddangos eu doniau a gwneud argraff ar y diwydiant
cerddorol."
Mae'r sawl a gyrhaeddodd rownd derfynol y Gig
Fawr o'r blaen wedi mynd ymlaen i chwarae yng Ngŵyl Sŵn a Glastonbury yn
ogystal â bod yn rhan o raglen ddigwyddiadau Cyngor Caerdydd.
Nid yw beirniaid ar gyfer eleni wedi eu
cadarnhau eto, ond yn flaenorol, roeddent yn cynnwysbeirniad
cerdd y South Wales Echo David Owens, cyn reolwr Coldplay Estelle Wilkinson, a
sefydlydd Gŵyl Sŵn John Rostron.
I gymryd rhan ac am fanylion llawn, ewch iwww.visitcardiff.com/biggig,
cwblhewch ffurflen fynediad a'i hanfon ynghyd â dau recordiad MP3 o'ch
cerddoriaeth i biggig@cardiff.gov.uk.
Rhaid
i bob ymgeisydd gyflwyno o leiaf un gân wreiddiol. Cewch gyflwyno ceisiadau o
22 Tachwedd tan 16 Rhagfyr.
#DinasCerddoriaeth
#yGigFawr