Bydd yr Arglwydd Faer yn agor y sioe drwy ddarllen ychydig dudalennau o’r llyfr i blant ar y llwyfan, gerbron miloedd o ymwelwyr.
Dywedodd yr Arglwydd Faer: “Mae’n gyffrous iawn fy mod wedi cael fy ngofyn i agor y sioe gan fy mod yn rhiant sydd wedi darllen y llyfr gynifer o weithiau i’m plant, ac mae’n anrhydedd fod yn rhan o stori Nadoligaidd mor bwysig sy’n boblogaidd â theuluoedd ledled y byd.”
Mae’r Arglwydd Faer hefyd yn cynnal rêf i ddathlu
Dydd Sadwrn Teg Caerdydd - mudiad byd eang a sefydlwyd yn Bilbao sy’n dathlu
grym y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i newid y byd.
Bydd yr holl elw o’r
digwyddiad, sy’n cael ei hyrwyddo gan The DEPOT, yn mynd i’r ddwy elusen o
ddewis yr Arglwydd Faer, Cymorth i Fenywod Cymru a BAWSO.
Bydd y rêf a gaiff ei gynnal
yn yr Hen Lyfrgell ar yr Aes ar 30 Tachwedd yn cynnwys setiau DJ gan: un o hen
bennau’r sîn ddawns yng Nghaerdydd, Craig Bartlett; Esyllt o’r noson glwb Dirty
Pop, sefydlydd noson glwb Shangri-la, Nick Saunders; criw cydweithredol o
Gaerdydd, Ladies of Rage, ac ymddangosiad arbennig gan y gŵr â’r gadwyn aur, yr
Arglwydd Faer ei hun.
Meddai’r Arglwydd Faer, Daniel
De’Ath: “Fe ddwedais pan ddois yn Arglwydd Faer fy mod am wneud pethau ychydig
yn wahanol, ac rwy’n credu mod i’n saff i ddweud mai dyma’r Maer cyntaf o
Gaerdydd sydd wedi cynnal rêf.
“Mae cerddoriaeth wastad wedi
chwarae rhan fawr yn fy mywyd i, felly mae gallu ei defnyddio fel ffordd o godi
arian i’r ddwy elusen, sy’n gwneud gwaith pwysig dros ben i helpu menywod sy’n
wynebu amgylchiadau mor anodd a thrallodus, yn wych.
“Mae am fod yn barti go iawn -
mae Caerdydd yn ddinas mor greadigol a bydd llawer yn digwydd i nodi ymwneud
cyntaf y ddinas â mudiad Dydd Sadwrn Teg felly rwy’n gobeithio y gwelwn ni
lwyth o bobl yn dod mas, a mwynhau rhai o’r digwyddiadau ffantastig gan orffen
y cyfan gyda noson o ddawnsio dros achosion gwerth chweil.”
Dr Seuss’ How the Grinch Stole Christmas! The
Musical rhwng 20 a 24 Tachwedd. Am docynnau, ewch i https://motorpointarenacardiff.co.uk/whats-on/how-grinch-stole-christmas-musical
Mae tocynnau ar gyfer y rêf ar
gael yma:https://shangri-la.eventcube.io/events/21895/lord-mayors-rave/