Back
Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru

Cynhelir arfer Sul y cofio cenedlaethol Cymru, sy'n cael ei gynnal ar y cyd gan Gyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol ddydd Sul 10 Tachwedd 2019.

Bydd carfannau o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Bysgota a'r Cadetiaid yn gorymdeithio o Rodfa'r Brenin Edward VII drwy Rodfa'r Amgueddfa at Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am ac yn ymuno o amgylch y gofeb.

Bydd colofnau o gyn-filwyr yn ymuno â nhw, wedi'u trefnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a cholofnau o sifiliaid yn cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn y presennol a'r gorffennol.

Bydd detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan fand y Sioe Frenhinol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol o 10:40am tan ychydig cyn 11am pan fydd y gwasanaeth yn dechrau gydag ymbiliau a geiriau o'r ysgrythurau a roddir gan gaplan anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk.

Bydd band Byddin yr Iachawdwriaeth Treganna hefyd yn arwain cyn-filwyr i'r Senotaff a bydd yn parhau i chwarae hyd nes cychwyn y gwasanaeth ac yn ystod y canu emynau.

Bydd Côr Meibion Parc yr Arfau Caerdydd hefyd yn arwain y canu emynau yn ystod y gwasanaeth.

Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn seinio'r 'Caniad Olaf' yn dilyn am 11am gan gwn o'r 104 o'r Gatrawd Frenhinol Gymreig, Casnewydd a fydd yn tanio i nodi dechrau'r ddwy funud o dawelwch a fydd yn cael ei chadw. Bydd ei derfyn yn cael ei farcio unwaith eto gan danio'r gwn a chwarae 'Reveille' gan y biwglwr.

Yna bydd Arglwydd Is-gapten ei Mawrhydi yn Ne Morgannwg, Morfudd Meredith, yn gosod torch wrth y gofeb, ar ran ei Mawrhydi'r Frenhines, ac yna daw gynrychiolwyr o bob rhan o Gymru.

Caiff Aelodau'r cyhoedd hefyd osod torchau yn y gofeb genedlaethol ar ôl y gwasanaeth.

Ar ddiwedd y gwasanaeth, bydd yr holl gyfranogwyr a'r gwesteion yn ymgynnull i weld yr Orymdaith a'r Cyfarchiad gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Daniel De'Ath o flaen Neuadd y Ddinas.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Dan De'Ath:  "Mae'r Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol yn cynrychioli cyfle i ni ymgynnull wrth Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd a thalu teyrnged i'r dynion a'r benywod a aberthodd eu bywydau mewn rhyfel.

"Rhaid i ni sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn parhau â'r traddodiad hwn ac yn cofio arwyddocâd y diwrnod i'r rhyddid sydd gennym heddiw. Mae hefyd yn gyfle i ni feddwl am y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd yn y lluoedd arfog a'r teuluoedd y mae rhyfel yn effeithio arnynt."

Dywedodd Anthony Metcalfe, Rheolwr Ardal Cymru, Y Lleng Brydeinig Frenhinol: "Mae Sul y Cofio yn rhoi cyfle i bob un ohonom gymryd saib ac adfyfyrio ar y rhai fu'n ymladd ac sy'n dal i ymladd ar ein rhan. Mae'n bwysig nad ydym yn anghofio cyfraniad ac aberth ein Lluoedd Arfog ond mae'n rhaid i ni hefyd edrych ymlaen â gobaith am ddyfodol heddychlon."