Back
Yr Arglwydd Faer yn cynnal rêf i ddathlu Dydd Sadwrn Teg

Mae'n bryd chwilio am y chwiban a gwisgo'r menig gwynion am fod Arglwydd Faer Caerdydd yn cynnal rêf i ddathlu Dydd Sadwrn Teg Caerdydd - mudiad byd eang a sefydlwyd yn Bilbao sy'n dathlu grym y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i newid y byd. 

Bydd yr holl elw o'r digwyddiad, sy'n cael ei hyrwyddo gan The DEPOT, yn mynd i'r ddwy elusen o ddewis yr Arglwydd Faer, Cymorth i Fenywod Cymru a BAWSO.

Bydd y rêf a gaiff ei gynnal yn yr Hen Lyfrgell ar yr Ais ar 30 Tachwedd yn cynnwys setiau DJ gan: un o hen bennau'r sîn ddawns yng Nghaerdydd, Craig Bartlett; Esyllt o'r noson glwb Dirty Pop, sefydlydd noson glwb Shangri-la, Nick Saunders; criw cydweithredol o Gaerdydd, Ladies of Rage, ac ymddangosiad arbennig gan y gŵr â'r gadwyn aur, yr Arglwydd Faer ei hun.

Dwedodd yr Arglwydd Faer, y Cyng Dan De'Ath: "Fe ddwedais pan ddois yn Arglwydd Faer fy mod am wneud pethau ychydig yn wahanol, ac rwy'n credu mod i'n saff i ddweud mai dyma'r Maer cyntaf o Gaerdydd sydd wedi cynnal rêf."

"Mae cerddoriaeth wastad wedi chwarae rhan fawr o ‘mywyd i, felly mae gallu ei defnyddio fel ffordd o godi arian i'r ddwy elusen, sy'n gwneud gwaith pwysig dros ben i helpu menywod sy'n wynebu amgylchiadau mor anodd a thrallodus, yn wych."

"Mae am fod yn barti go iawn - mae Caerdydd yn ddinas mor greadigol a bydd llawer yn digwydd i nodi ymwneud cyntaf y ddinas â mudiad Dydd Sadwrn Teg felly rwy'n gobeithio y gwelwn ni lwyth o bobl yn dod mas, a mwynhau rhai o'r digwyddiadau ffantastig gan orffen y cyfan gyda noson o ddawnsio dros achosion gwerth chweil."

Mae tocynnau'n costio £10 ac maen nhw ar gael yn:

https://shangri-la.eventcube.io/events/21895/lord-mayors-rave/