Back
Cwblhau gwaith gwerth £300,000 i adnewyddu capeli yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig
Mae seremoni ailgysegriad wedi’i chynnal yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar ôl cwblhau rhaglen adfywio gwerth £300,000 ar y capeli. 

Ymhlith y gwaith gwella yn y fynwent oedd:

  • Cwblhau'r gwaith o ailaddurno’r ddau gapel.
  • Ailfodelu capel mwy y Wenallt.
  • Adnewyddu’r ystafelloedd aros.
  • Adnewyddu ac ymestyn yr ardaloedd wedi'u gorchuddio y tu allan i'r capeli.
  • Lloriau newydd.
  • Seddi newydd.
  • Cataffalc (platfform dyrchafedig a ddefnyddir i gefnogi'r arch) newydd.

Dywedodd Andrew Gregory, Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd: “Mae cwblhau’r gwelliannau hyn yn golygu bod y bobl mewn profedigaeth sy’n mynychu’r 3000 o angladdau a gynhelir bob blwyddyn yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig yn gallu talu teyrnged yn y lleoliad mwyaf sympathetig a gyda chymaint o urddas â phosibl - gan godi ymhellach safonau’r cyfleusterau sydd eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol eleni, wrth i’r fynwent ennill gwobr Mynwent y Flwyddyn, y tiroedd yn cadw eu statws Baner Werdd, ac mae’r tîm Gwasanaethau Profedigaeth wedi cael ei gydnabod am y gwasanaeth a ddarperir, gan ennill gwobr Tîm Gwasanaeth y Flwyddyn Cymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE).”

Roedd y seremoni’n cynnwys darlleniad gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a datgelodd yr Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dan De’Ath blac ailgysegriad, oedd yn rhodd garedig gan Seiri Coffa Mossfords.  Roedd cynrychiolwyr grwpiau ffydd amrywiol, dyneiddwyr a phobl heb ffydd hefyd yn rhan o’r seremoni dan arweiniad y Parchedig Ganon Stewart Lisk.

Roedd aelodau’r tîm Gwasanaethau Profedigaeth hefyd yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr o Drefnwyr Angladdau Coles, Penarth Funeral Homes, Green Willow Funerals a Simon Morgan o Seiri Coffa Mossfords.