Roedd sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth yn un o brif argymhellion ar gerddoriaeth yng Nghaerdydd yn yr adroddiad Sound Diplomacy, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a’i waith fydd bod yn bencampwr dros y sîn gerddoriaeth yn y ddinas, gwarchod a hybu cerddoriaeth ar bob lefel, a datblygu Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd.
Dewiswyd aelodau’r Bwrdd, a gaiff ei gadeirio gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, i adlewyrchu amrywiaeth cymdeithasol Caerdydd. Maent yn cynrychioli aml-feysydd sector gerddoriaeth Caerdydd, yn lleoliadau gigs lleol, rheolwyr arenâu, hyrwyddwyr, newyddiadurwyr, undeb y cerddorion, arbenigwyr ar dwristiaeth, addysgwyr busnes cerddoriaeth, sefydliadau cerddoriaeth gymunedol, cyllidwyr cyhoeddus, artistiaid, DJs a chynhyrchwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Mae hwn yn gam hanfodol ymlaen wrth gyflawni’r Strategaeth Gerddoriaeth a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Ein huchelgais yw trawsnewid Caerdydd i fod y ddinas gyntaf yn y DU lle mae cerddoriaeth wedi’i hymgorffori yn ei strwythur - mae hynny’n golygu popeth, o gynllunio a thrwyddedu i les cymdeithasol a thwristiaeth.”
“Mae Caerdydd yn ddinas llawn artistiaid, cerddorion, cantorion, cynhyrchwyr, peirianwyr sain, ac wrth gwrs, pobl sy’n dwlu ar gerddoriaeth. Adlewyrchwyd yr angerdd hwnnw dros gerddoriaeth yn nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd gan bobl oedd am gydweithredu fel rhan o’r Bwrdd Cerddoriaeth ac am weithredu strategaeth sy’n sicrhau gwerth economaidd a chymdeithasol gorau cerddoriaeth. Mae’r strategaeth hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ein huchelgais ehangach i helaethu sectorau creadigol a digidol y ddinas sydd eisoes yn creu argraff.”
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: “Mae Caerdydd yn un o bwerdai creadigol y DU - mae ein sector creadigol yn cyflogi oddeutu 15,000 o bobl ac yn cynhyrchu gwerth mwy na £1 biliwn i’r economi lleol – ond mae sector cerddoriaeth fyw y DU yn tyfu, yn ogystal â’r nifer o swyddi y mae’n eu cefnogi.
“Mae ‘na gyfle gwirioneddol fan hyn i’n sector gerddoriaeth ac i economi ehangach y ddinas, a chyda’r sgiliau eang a’r profiad sydd gan yr aelodau sydd newydd eu penodi i’r Bwrdd Cerddoriaeth, mae Caerdydd mewn lle da i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hynny, gan gynnwys datblygu digwyddiad unigryw blynyddol a fydd yn dyrchafu Caerdydd, ac yn wir bresenoldeb diwylliannol Cymru yn rhyngwladol.
“Mae’n amser cyffrous i fod yn greadigol yng
Nghaerdydd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd i wneud ein dinas yn
ddinas wirioneddol gerddorol.”
Aelodau’r bwrdd yw:
1. Bethan Elfyn
Cynhyrchydd radio llwyddiannus, cyflwynydd gyda’r
BBC ac ymchwilydd teledu gydag ugain mlynedd o brofiad rheng flaen o gerddoriaeth
newydd, Bethan sy’n arwain ar ddatblygu strategaeth partneriaeth gwerth
cyhoeddus BBC Cymru Wales gyda Chyngor Celfyddydau Cymru - Horizons/Gorwelion -
sef cynllun datblygu talent gerddorol i ddatblygu cerddoriaeth newydd,
annibynnol a chyfoes yng Nghymru.
2. Guto Brychan
Yn Brif
Weithredwr ar Glwb Ifor Bach ers 2012, daeth Guto yn Brif Weithredwr Gŵyl Sŵn
yn ddiweddar ac mae’n trefnu Maes B yn flynyddol i’r Eisteddfod
Genedlaethol. Guto yw un o brif
hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw yng Nghymru, yn cefnogi talent newydd yn y
diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Yn
flaenorol, roedd yn Aelod Bwrdd ac yn Swyddog y Gymraeg yn y Sefydliad
Cerddoriaeth Gymreig ac yn Rheolwr Labeli gyda Recordiau Sain.
3. Helia Phoenix
Blogiwr
llwyddiannus, awdur llyfrau, a newyddiadurwraig ym maes cerddoriaeth, teithio a
diwylliant. Am yr ugain mlynedd diwethaf mae Helia wedi gweithio fel
cynhyrchydd cynnwys, mewn radio ac ar ffilmiau dogfennol, ac mae wedi’i
chyhoeddi gan yn y Guardian, y Rolling Stone ac eraill. Mae Helia yn cynnal un
o’r blogiau dinesig mwyaf llwyddiannus yn y byd, ac yn 2017 cafodd ei henwi fel
gweledydd yn rhestr Cardiff Life o’r 50 prif berson sy’n adeiladu dyfodol
disgleiriach i’r ddinas. Ar hyn o bryd
hi yw Rheolwr y Cyfryngau gyda Chroeso Caerdydd, yn rheoli’r cynnwys cymunedol
a golygyddol.
4. Jon Fox
Mae gan
Jon dros 25 mlynedd o brofiad mewn Cynllunio a Llunio Lleoedd ac ef yw
ymgynghorydd yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth ar gynllunio a sŵn drwy
Brydain. Fel Cynlluniwr Trefol roedd
Jon yn rhan o’r tîm oedd yn gyfrifol am gyflwyno polisi Cyfrwng Newid yng
Nghymru.
5. Michael Garvey
Mae gan
Michael dros ugain mlynedd o brofiad o’r diwydiant cerddoriaeth a chelfyddydau,
yn y sectorau masnachol, â chymhorthdal, cyhoeddus ac elusennol. Yn ystod ei
yrfa mae wedi gweithio yn y diwydiannau recordio a darlledu, y system ariannu
gyhoeddus yn Lloegr a’r sector gerddorfeydd. Ef ar hyn o bryd yw Cyfarwyddwr
Gweithredol cyntaf y Benedetti Foundation, elusen addysg gerddorol newydd.
6. Lucy Squire
Mae Lucy yn gweithio yn y diwydiannau creadigol â
chanddi gefndir cyfreithiol, a phrofiad o’r byd busnes ac addysg. Mae wedi
chwarae rhan weithgar yn y byd cerddorol yn y De, ac mae wedi rhedeg busnesau
llwyddiannus yn y byd manwerthu, hyfforddiant, nwyddau, labeli recordiau a
digwyddiadau, yn fwyaf nodedig gyda’r brand Catapult oedd yn gweithredu o Arcedau
Caerdydd tan 2014. Lucy ar hyn o bryd yw Pennaeth Cerddoriaeth gyda Phrifysgol
De Cymru.
7. Phil Sheeran
Fel
Rheolwr Cyffredinol Arena Motorpoint Caerdydd, mae Phil wedi goruchwylio rhan
fawr o economi gerddorol y ddinas dros ddegawd a mwy, gan ddod ag artistiaid
mawr rhyngwladol fel Kylie, y Pixies, One Direction a’r Who i’r ddinas. Mae Phil hefyd yn rheoli lleoliad newydd llai
y Motorpoint - Exit 7. Mae hefyd yn
aelod o’r gronfa gerddorol newydd ANTHEM ac yn aelod o fwrdd ‘FOR Cardiff’.
8. Liz Hunt
Mae Liz Hunt yn gerddor, yn gyfansoddwr caneuon, yn
berchennog lleoliad ac yn drefnydd digwyddiadau. Gan ddechrau fel hyrwyddwr annibynnol, aeth
ymlaen i weithio mewn nifer o leoliadau bychain yn trefnu gigs, ac mae ganddi
bron i ugain mlynedd o brofiad o’r sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd. Mae Liz
nawr yn gyd-berchennog ar The Moon, lleoliad nid-er-elw ar Stryd Womanby. Mae
hefyd yn trefnu Hub Fest, Wales Goes Pop, Gŵyl Psych & Noise Caerdydd, a
digwyddiadau rhwydweithio yn y diwydiant.
9. Gavin Allen
Mae Gavin yn Ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth Ddigidol ym
Mhrifysgol Caerdydd. Yn gyn-Olygydd Cyswllt gyda Mirror.co.uk, mae hefyd wedi
gweithio yn MSN a’r MailOnline. Yn ystod
degawd gyda Media Wales treuliodd bedair blynedd yn ysgrifennu am gerddoriaeth
ar y South Wales Echo.
10. Tumi Williams
Mae
Tumi yn ymarferydd creadigol, asiant archebu a threfnydd digwyddiadau ac ef yw
prif leisydd Afro Cluster - grŵp sy’n enwog am eu cymysgedd unigryw a chyffrous
o Afro-Funk a Hip Hop a’u sioeau byw ffrwydrol.
11. Hannah Jenkins
Mae Hannah wedi gweithio yn
y sector ddiwylliannol ers bron i ugain mlynedd, yn flaenorol fel Rheolwr
Datblygu’r Celfyddydau, yn creu rhaglenni ar gyfer nifer o leoliadau gan
gynnwys Sinema’r Neuadd Farchnad, Theatr y Beaufort a Theatr Gymunedol
Abertyleri, yn ogystal â rheoli menter gelfyddydol gymunedol helaeth ledled
Blaenau Gwent. Ers 2008 hi yw
Cyfarwyddwr yr elusen gerddorol genedlaethol, Cerdd Gymunedol Cymru, sydd wedi
tyfu yn un o elusennau cyfranogi cerddoriaeth fwyaf blaenllaw Cymru, gydag enw
am ragoriaeth.
12. Nicholas Saunders
Mae Nicholas yn hyrwyddwr yn y diwydiant cerddoriaeth ac yn sylfaenydd The DEPOT a DEPOT Live Yn gyfrifol am ddod â Nile Rodgers a CHIC i Gastell Caerdydd yn 2020, a’r Foals ym Mehefin 2020, mae Nick hefyd yn Gyfarwyddwr Shangri-La Events sydd wedi dod ag artistiaid enwog yn rhyngwladol fel Duke Dumont, MK, Jamie Jones, Patrick Topping a Pete Tong i leoliadau yng Nghaerdydd, Lerpwl, Llundain ac Ibiza.
13. Andy Warnock
Andy yw Trefnydd Rhanbarthol Undeb y Cerddorion yng
Nghymru a de-orllewin Lloegr, ac mae’n gweithio o Gaerdydd. Mae’r MU yn cynrychioli dros 31,000 o
gerddorion sy’n gweithio yn y DU, yn negodi gyda’r prif gyflogwyr yn y
diwydiant, ac yn cynnig gwasanaethau, buddion a chyngor wedi’u teilwra i
anghenion cerddorion.
14. Daniel Minty
Daniel
yw awdur Canllaw Minty i Gigiau Caerdydd, ac mae wedi ymrwymo i hybu’r sîn
gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd a Chymru. Lansiodd fap ‘Canllaw Minty i Gigiau
Caerdydd’ a phodlediad wythnosol gyda’r nod o hybu’r holl leoliadau y gall pobl
fynd iddynt yng Nghaerdydd i fwynhau cerddoriaeth fyw. Yn ymgyrchydd ac
eiriolwr brwd dros dalent hen a newydd, mae Minty yn aelod llawrydd o dîm Horizons/Gorwelion BBC Cymru.
15. Sarah Hemsley-Cole
Sarah yw
Cyfarwyddwr Cwmni SC Productions Ltd. Yn arbenigo ar reoli Safleoedd,
Cynhyrchu, Digwyddiadau a Chysylltu gydag Artistiaid, mae SC Productions wedi
trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau o gyngherddau cerddorol ar raddfa fawr i
theatr safle-benodol mewn stadia, lleoliadau hanesyddol, meysydd gwyrdd, canol
dinasoedd a theatrau ledled y DU ac Ewrop.
Sarah hefyd yw cyd-sylfaenydd NOWIE – fforwm ar-lein yn bennaf ar gyfer
Menywod sy’n Gweithio yn y Diwydiant Digwyddiadau.
16. Antwn Owen-Hicks
Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru
yw Antwn. Mae ei waith yn cynnwys y portffolio cerddoriaeth, partneriaethau
darlledu, Ffilm Cymru Wales a’r Celfyddydau a Busnes. Hyfforddodd fel artist gweledol, ond mae
ganddo ddiddordeb arbennig mewn datblygu cerddoriaeth draddodiadol, gan
recordio a theithio fel cerddor traddodiadol ers 1995. Mae’n arwain dirprwyaeth
Cymru yn y Festival Interceltique de Lorient yn Llydaw bob blwyddyn.
17. Adrian Field
Cyfarwyddwr
Gweithredol “For Cardiff”, Ardal Gwella Busnes Caerdydd yw Adrian Field. Mae’n
cynnwys 130 o strydoedd yn y ddinas, o Stadiwm y Principality i Heol Casnewydd
ac o Butetown i Cathays. Yn un o
ardaloedd gwella busnes mwyaf y DU, yn cynnwys dros 900 o dalwyr trethi, mae’r
cynllun Cenhadon yn un o’r rhaglenni gwaith y mae’r Ardal wedi’i gynllunio ar
gyfer eu strategaeth 5 mlynedd i wneud Caerdydd yn fwy croesawgar, bywiog a
dylanwadol. Mae gan Adrian ddiddordeb
byw mewn datblygu’r sîn gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd fel rhan o economi'r nos
ffyniannus.
Wrth siarad am ei phenodiad i’r Bwrdd Cerddoriaeth, dywedodd Bethan Elfyn: “Mae’n fraint enfawr i gael fy ngwahodd i fod yn aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd. Mae sîn gerddoriaeth Caerdydd wedi effeithio ar bob rhan o fy mywyd ac wedi newid sawl llwybr. Syrthiais mewn cariad gyda’r ddinas drwy’r sîn gerddorol a’i chymuned greadigol ‘nôl yn y 90au. O weithio’n rhan amser yn Spillers, i weithio tu ôl y bar yn y Clwb, rêfio yn yr Hippo Club, moshio yn Metros, ac yn fwy diweddar ei gweld hi drwy lygaid DJ, hyrwyddwr a darlledwr - mae Caerdydd wedi newid llawer, ond does dim pall wedi bod yn y prysurdeb a’r ynni mae cerddoriaeth yn ei gyflwyno i’r ddinas.
“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r strategaeth, i gydweithio a chlywed syniadau a chynlluniau newydd ar gyfer datblygu ac adeiladu ar y porth hwn i gerddoriaeth o Gymru.”
Ymhlith aelodau eraill y Bwrdd mae:
Y Cynghorydd Huw Thomas (Cadeirydd) - Arweinydd
Cyngor Caerdydd
Y Cynghorydd Peter Bradbury -Aelod Cabinet dros
Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth
Ruth Cayford – y Diwydiannau Creadigol
a Diwylliant, Cyngor Caerdydd
Heather Brown - Swyddog Datblygu
Digwyddiadau, Cyngor Caerdydd
Gerwyn
Evans - Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol, Llywodraeth
Cymru
Dywedodd Llywydd Sound Diplomacy, Shain Shapiro:
“Sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yw’r garreg filltir gyntaf yn y broses o
symud ymlaen gyda’r strategaeth gerddoriaeth. Cofiwch, proses yw’r strategaeth
gerddoriaeth, nid râs. Mae’n rhan bellach o lywodraethu’r ddinas, fel unrhyw
beth arall. Bydd datblygu’r bwrdd yn helpu i yrru’r argymhellion yn eu blaen
gyda’i gilydd, yr ydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi ym mha bynnag ffordd y
gallwn.”
Llun gan: Pete Takes Pictures