Back
Sicrhau dyfodol y Theatr Newydd yng Nghaerdydd
Mae dyfodol theatr hanesyddol Caerdydd, sef y Theatr Newydd, wedi ei sicrhau ar ôl i Gyngor Caerdydd gytuno ar brydles 25 mlynedd gydag un o weithredwyr theatrau amlycaf y DG.

Yn gynnar yn 2020 bydd y theatr poblogaidd yn dod o dan adain cwmni HQ Theatres and Hospitality.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:“Y Theatr Newydd yw un o asedau diwylliannol pwysicaf Caerdydd, ond ers nifer o flynyddoedd mae wedi costio tua £500,000 y flwyddyn i’r Cyngor i’w chynnal.

“Mae’r cytundeb hwn gyda HQ Theatres and Hospitality, un o weithredwyr theatrau amlycaf y DG, yn golygu y bydd y theatr yn gweithredu heb gymhorthdal, yn cynhyrchu arian y gellir ei fuddsoddi yn seilwaith yr adeilad, ac yn sicrhau fod drysau’r adeilad yn aros ar agor am flynyddoedd lawer i ddod. 

“Mae’r fargen yn wych i’r theatr, gwych i fynychwyr theatr Caerdydd a gwych i holl staff y Theatr Newydd oherwydd y diogelir eu swyddi gyda’r cytundeb hwn.”

Y Theatr Newydd fydd trydydd lleoliad ar ddeg cwmni HQ, sy’n is-gwmni i grŵp Qdos Entertainment, sydd â chysylltiadau ers tro byd â’r theatr.

Dwedodd Nick Thomas MBE, Cadeirydd a Sefydlydd Grŵp Qdos Entertainment:“Wedi 20 mlynedd yn cynhyrchu pantomeim mwyaf Cymru yn y Theatr Newydd rydym wedi dod i adnabod y lleoliad a chynulleidfaoedd Caerdydd yn dda.  Dyna un o’r rhesymau pam ei fod yn ddatblygiad mor gyffrous i ni fod yn rhedeg y theatr.  

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r tîm yn y Theatr Newydd i deulu HQ a Qdos – lle byddant yn gallu manteisio ar fod yn rhan o rwydwaith cefnogol o gydweithwyr sy’n rhedeg ein theatrau llwyddiannus – ac o rannu arfer gorau’r diwydiant sydd yn brif nodwedd i’r hyn a wnawn.

“Rydym wedi’n cyffroi i fod yn cymryd yr awenau yn y theatr ragorol hon – ac o gael y cyfle i weithio gyda phartneriaid yng Nghyngor Caerdydd er mwyn sicrhau llwyddiant y berl ddiwylliannol yma yng Nghaerdydd i’r dyfodol.

Gwerthuswyd y cynnig gan HQ law yn llaw â chynigion gan chwe pharti arall oedd â diddordeb.  Roedd prif nodweddion y cynnig llwyddiannus yn cynnwys:

  • Cytundeb prydles 25 mlynedd.
  • Dim gofyn am gymhorthdal gweithredol gan y Cyngor.
  • Ymrwymiad gan HQ i fuddsoddi yn yr adeilad dros gyfnod y brydles gan gynnwys ail-wampio yr ardaloedd blaen tŷ.
  • Ymrwymiad i dyfu’r rhaglen o 335 cynhyrchiad y flwyddyn ym mlwyddyn 1 i 359 erbyn blwyddyn 3 ac wedi hynny.
  • Ymrwymiad i gynnal a gwella’r gymysgedd o sioeau cerdd, bale a drama wythnosol.
  • Cadw’r strwythur staffio presennol
  • Ymrwymiad i gadw’r rhaglen wirfoddolwyr presennol.  

Dwedodd y Cynghorydd Bradbury ymhellach:“Roedd hi’n wirioneddol bwysig i ni fod profiad gweithredu theatrau tebyg gan y cynigydd llwyddiannus, profiad o gynnal a chadw adeiladau hanesyddol a’r cryfder ariannol i wneud i hyn weithio – Mae HQ yn cynnig y pethau hynny i gyd a mwy, ac rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda nhw dros y chwarter canrif nesaf.”