"Caerdydd yw un o'r sectorau creadigol sydd yn tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain. Ar hyn o bryd mae dros 3000 o fusnesau creadigol gennym yn y ddinas a dros 15,000 wedi eu cyflogi yn y sector.
"Mae Prifddinas Cymru yn gartref i'r cynhyrchiad sydd wedi ennill tair gwobr Emmy, Sherlock, yn ogystal â rhai o gynyrchiadau oriau brig amlycaf y BBC, Dr Who a Casualty.
"Yn fwyaf diweddar mae cyfres wyth bennod ddychmygus o ‘His Dark Materials' wedi ei sgrinio, sydd yn addasiad teledu o drioleg ffantasi Phillip Pullman sydd yn adnabyddus yn rhyngwladol ac sydd wedi ei chynhyrchu'n gyfangwbl yng Nghaerdydd ac a fydd i'w gweld ar BBC One ac ar Home Box Office
"Ar Ddydd Sul 27 Hydref a Dydd Llun 28 Hydref, bydd golygfa yn cael ei ffilmio ar gyfer cynhyrchiad newydd sydd ar y gweill o'r enw ‘Infinite', sydd yn ffilm llawn cyffro ar raddfa fawr.
"Mae'r ffaith fod Caerdydd wedi ei dewis fel un o'r lleoliadau ffilmio yn y DG ar gyfer y ffilm hon yn newyddion gwych i'r ddinas. Mae Caerdydd bellach wedi ei sefydlu fel canolfan o bwys ar gyfer cynyrchiadau ffilm, rydym yn gyrru neges glir i'r diwydiant fod Caerdydd yn hynod agored i fusnes yn y sector hwn."
"Bydd y cynhrychiad hwn yn golygu cau Heol Casnewydd o'r gyffordd â Fitzalan Place i'r gyffordd â Heol y Plwca (City Road) am y ddau ddiwrnod dan sylw. Mae'r dyddiadau hyn wedi eu dewis am ei bod yn hanner tymor i ysgolion, pan fo traffig ar y rhwydwaith yn sylweddol is nag arfer.
"Bydd y safle ffilmio ar Heol Casnewydd wedi ei diogelu gan gwmni diogelwch a bydd rheoli traffig ar waith er mwyn ail-gyfeirio traffig, cerddwyr a beicwyr. Bydd mapiau rhag blaen yn cael eu cyhoeddi ar lwyfannau cymdeithasol y Cyngor sy'n nodi'r dargyfeiriadau a bydd arwyddion yn cael eu gosod ar y safle i hysbysu pobl rhag blaen ynghylch y cau.
"Mae'r cwmni cynhyrchu wedi bod yn ymgysylltu â phreswylwyr a busnesau lleol a gaiff eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cau er mwyn sicrhau y byddant yn gallu mynd i mewn i'r ardal a chyrchu eu heiddo.
"Carem ddiolch preswylwyr ac ymwelwyr am eu hamynedd tra bod y ffilmio hwn yn mynd rhagddo."