Back
Trydedd wobr fawr i Grangetown Werddach
Mae project Grangetown Werddach, sydd ar waith mewn deuddeg o strydoedd preswyl yn Grangetown, wedi ennill trydedd wobr fawr, Gwobr gan Ddiwydiant Adeiladu Prydain. Mae’r wobr, a gyflwynwyd mewn seremoni yn Grosvenor House, Llundain ddydd Sul (13 Hydref) yn un o'r gwobrau mwyaf ar gyfer unrhyw broject adeiladu yn y DU.

Mae’r cynllun draenio cynaliadwy yn defnyddio dros 100 o fannau â phlanhigion, a elwir yn erddi glaw, i ddal, glanhau ac ailgyfeirio dros 40,000m² o ddŵr glaw yn uniongyrchol i Afon Taf, yn hytrach na'i bwmpio am wyth cilomedr drwy Fro Morgannwg, drwy system drin, ac i'r môr yn y pendraw. 

Y project hwn, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Arup, ERH Communications and Civil Engineering Ltd, gyda chymorth ariannol pellach gan Gronfa Cymunedau Tirlenwi, oedd yr unig broject Draenio Trefol Cynaliadwy i gael ei gydnabod yn y gwobrau eleni. Mae eisoes wedi ennill Gwobr Diwydiant Dŵr y DU (2018) ar gyfer Project Peirianneg y Flwyddyn a Gwobr Roy Edwards Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru (2019) ar gyfer y Project Bach Gorau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:“Mae’r gydnabyddiaeth mae'r project blaengar hwn yn ei gael yn gwbl haeddiannol.

 “Hyd yn oed os nad ydych chi’n gyfarwydd â diben y project a’r buddion amgylcheddol sy’n dod yn ei sgil, mae’r 127 o goed newydd a’r gofod gwyrdd 1,700 metr sgwâr yn sicr wedi gwella pryd a gwedd strydoedd Grangetown. Mae'r project hefyd wedi rhoi hwb i ysbryd cymunedol yr ardal - a'r newyddion da yw y bydd Grangetown yn edrych yn wyrddach byth wrth i'r coed a'r planhigion dyfu a lledaenu."

Yn ogystal â gwella’r gofod cyhoeddus, drwy gyflwyno perllan gymunedol, meinciau newydd a mannau ar gyfer beiciau, creodd y project hefyd ‘stryd feiciau’ gyntaf Cymru – ac fe gafodd hyn ei gydnabod gan enwebiadau ar gyfer Gwobrau Strydoedd Iach 2019 a Gwobr Seiclo Caerdydd am y cyfraniad mwyaf at wella seiclo yng Nghaerdydd.

Dywedodd Fergus O’Brien, rheolwr strategol dŵr gwastraff Dŵr Cymru: “Rydym yn hynod falch bod y project hwn wedi ei gydnabod gan y wobr hon.  Mae draenio cynaliadwy’n hanfodol yn null hirdymor Dŵr Cymru o ddiogelu ein cwsmeriaid a gwella’r amgylchedd er gwaetha pwysau cynyddol newid yn yr hinsawdd a threfoli.  Mae’n gwneud hyn drwy wella gwydnwch cynhenid ein hasedau a’u galluogi i ddelio â’r cynnydd yn y galw amdanyn nhw." 

 “I gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol rhwng nawr a 2050 mae angen i ni weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i rannu gwybodaeth a buddsoddi mewn ardaloedd lle mae ein blaenoriaethau’n gorgyffwrdd.

 “Mae project Grangetown Werddach yn enghraifft wych o’r ffordd y gallwn weithio gyda chynghorau blaengar fel Caerdydd, a’r gobaith yw y bydd llawer o bartneriaethau o’r fath yn datblygu.”

Dywedodd Martyn Evans, Arweinydd y Project gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: “Rydyn ni wedi bod yn ofnadwy o falch bod yn rhan o’r project hwn, ryw saith mlynedd ers i ni gydweithio gyda Chyngor Caerdydd a Dŵr Cymru gyntaf ar yr astudiaeth gychwynnol ar y cynllun hwn.

 “Rwy’n llwyr grediniol y bydd y project hwn yn gadael ei ôl ac yn dangos sut gall seilwaith gwyrdd greu amgylcheddau iach a gwydn, a dod â buddion economi a lles i drefi a dinasoedd fel Caerdydd am genedlaethau lawer."

Dywedodd Chris Ellis, Peiriannydd y project gydag Arup: “Rwyf wrth fy modd bod Grangetown Werddach wedi ei gydnabod gan y gwobrau mawr hyn. Mae Arup wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddylunio’r project ers y cychwyn cyntaf, o’r astudiaeth dichonolrwydd a chysyniadol, i’r cymorth dylunio manwl ac adeiladu. Mae’n hyfryd gweld yr effaith drawsffurfiol mae’r cynllun gorffenedig wedi ei chael ar yr ardal, tra hefyd yn gwneud Grangetown yn fwy gwydn o ran ymateb i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd."

Dywedodd Ken Evans, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Sifil ERH/Centregreat:“Mae ERH/Centregreat yn ymfalchïo’n fawr mai nhw oedd prif gontractwr Cynllun Draenio Cynaliadwy Grangetown Werddach.Roedd y gwaith adeiladu’n project arloesol mewn ardal ddinesig uchel ei phoblogaeth, ac roedd hynny ynddo’i hun yn heriol.Drwy weithio’n agos â phartneriaid y cynllun, dylunwyr a’r gymuned leol, fodd bynnag, bu’n bosibl i ERH/Centregreat gwblhau cynllun draenio cynaliadwy sydd wedi mynd yn ei flaen i gael wi wobrwyo."