Back
Pedwar cerbyd all-ffordd anghyfreithlon arall yn cael eu hatafael drwy Operation Red Mana

Daeth Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru at ei gilydd eto dros y penwythnos i fynd i'r afael â beiciau all-ffordd yng Nghaerdydd.

Cafodd pedwar cerbyd all-ffordd eu hatafael fel rhan o'r cyrch a chaiff pob un ei wasgu a'i ailgylchu onid yw'r perchenogion yn hawlio eu cerbydau'n ôl gyda'r gwaith papur a manylion yswiriant cywir.

Cafodd beic allffordd Detroit du ei weld ar gylchfan Coryton, a llwyddodd swyddogion yr heddlu i'w stopio a'i atafaelu. Cafodd dyn 30 oed o Thornhill ei arestio gan Heddlu De Cymru gan eu bod yn amau ei fod yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau. Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad hyd nes bod canlyniad y dadansoddiad gwaed yn ôl.

Cafodd tri cherbyd all-ffordd pellach eu hatafael o Safle Teithwyr Rover Way gan eu bod wedi cael eu gadael ar Lwybr yr Arfordir. Cafodd y cerbydau eu canfod ar ôl i un o'r cwadiau ei ddilyn i'r safle, gan gael ei atafael.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Mae nifer o bobl mewn cymunedau ledled y ddinas sy'n cwyno i mi am y beiciau a'r cwadiau hyn yn gyrru dros barciau ac ar ffyrdd y ddinas yn cynyddu.

"Dyma pam ein bod yn gweithio gyda Heddlu De Cymru ar y mater hwn a bydd ein gweithrediadau'n parhau i geisio gwaredu cynifer o'r cerbydau hyn â phosibl.

"Gellir defnyddio'r beiciau hyn ar dir preifat â chaniatâd y tirfeddiannwr neu ar unrhyw drac cofrestredig. Ond ni chaniateir eu gyrru ar dir y cyngor, yn aml yn beryglus ac yn gyflym gan roi defnyddwyr eraill y parc a'r ffyrdd mewn perygl."

Dywedodd y Swyddog Martin Bagget o Heddlu De Cymru: "Gwyddom fod beiciau all-ffordd yn peri pryder i'r gymuned ac mae  Operation Red Mana'n ymgyrch blismona sydd am fynd i'r afael a hyn.

"Mae defnyddio beiciau o'r fath yn groes i reoliadau traffig ffyrdd a hefyd yn beryglus tu hwnt.
"Rydym yn pryderu y gallai rhywun gael ei frifo gan y beiciau hyn sy'n cael eu reidio ar gyflymder a hefyd y sŵn sy'n niweidiol i ansawdd bywyd trigolion.

"Byddem hefyd yn atgoffa rhieni o'u cyfrifoldebau o ran eu plant yn defnyddio beiciau oddi ar y ffordd. Y peth olaf mae rhywun ei eisiau yw cael ei alw i wrthdrawiad pan fo rhywun wedi'i anafu, neu waeth."

Mae'r Ddeddf traffig Ffyrdd yn caniatáu i'r heddlu atafael cerbydau nas yswirir a'r sawl sy'n cael eu gyrru heb drwydded.

Adran 59 y Ddeddf Traffig Ffyrdd Mae Adran 59 yn caniatáu i'r heddlu roi rhybudd i yrwyr os caiff ie hadrodd eu bod yn gyrru cerbyd mewn modd sy'n peri "gofid, trallof neu niwsans".


"Mae troseddwyr hefyd yn wynebu'r risg o golli eu cartrefi, oherwydd gallai ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon olygu eu bod yn torri eu cytundeb tenantiaeth gyda'r awdurdod lleol neu gymdeithas dai.

Byddem yn annog i'r cyhoedd roi unrhyw wybodaeth gyffredinol am ddefnyddio beiciau all-ffordd anghyfreithlon drwy e-bostio opredmana@south-wales.pnn.police.uk

#opredmana #keepingCardiffsafe @swpcardiff @SWP_Roads