Back
Datgelu gweledigaeth newydd i ddatblygu economi dwyrain Caerdydd

Mae rhoi hwb enfawr i'r economi leol a gwella cyfleoedd yn nwyrain Caerdydd ymhlith prif amcanion strategaeth newydd ar gyfer yr ardal sydd wedi ei datgelu gan Gyngor Caerdydd. 

Mae Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd yn disgrifio cynllun fydd yn helpu i adfywio rhan o'r ddinas sydd heb weld buddsoddi mawr hyd yn hyn.

Ymhlith y prif faterion y  mae'n mynd i'r afael a nhw mae:

  • Seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus
  • Adfywio
  • Cysylltedd
  • Datblygu diwydiannau ‘gwyrdd' newydd

Mae ffigurau'n dangos bod y rhai sy'n byw yn nwyrain Caerdydd bedair gwaith yn fwy tebygol o fyw yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o'u cymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae lefelau diweithdra deirgwaith yn uwch na gweddill y ddinas ac mae'r seilwaith trafnidiaeth yn annigonol ar hyn o bryd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae'n amlwg nad oes digon o fuddsoddi wedi bod yn nwyrain y ddinas yn hanesyddol. Nod strategaeth newydd dwyrain Caerdydd yw newid hun, drwy greu gweledigaeth sy'n creu swyddi newydd yn yr ardal ac yn cynyddu gobaith trigolion lleol o gael swyddi.

"Mae'n hen bryd cwblhau Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae, ac mae'r Cyngor yn cefnogi'r cynigion ar gyfer gorsaf a datblygiad Parcfordd Caerdydd yn llwyr. Gorsaf Bae Caerdydd yw'r un fwyaf dwyreiniol yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, ac ni all hyn fod yn iawn. Bydd Parcffordd Caerdydd yn newid y sefyllfa'n llwyr a gallai agor y drws ar gyfer cyfres o orsafoedd newydd ar yr hen linellau cludo.

"Mae disgwyl y bydd cais cynllunio ar gyfer Parcffordd Caerdydd yn cael ei gyflwyno yng ngwanwyn 2020, ac mae disgwyl y bydd y gwaith adeiladu wedi ei orffen erbyn 2023, gyda'r oraf hefyd yn weithredol y flwyddyn honno. Bydd gweddill y parc busnes wedyn yn cael ei ddatblygu dros gyfnod o 10 mlynedd.

"Rydym hefyd am wella cysylltedd rhwng dwyrain Caerdydd â gweddill y ddinas a'r tu hwnt er mwyn creu mwy o gyfleoedd iddynt am swyddi. Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd y Cyngor yn cyhoeddi cynlluniau manwl ar gyfer pont newydd dros yr afon i wella cysylltiadau bws rhwng Llanrhymni a'r cyfleuster parcio a theithio ar yr A48. Galli hyn leihau hyd siwrneiau i ganol y ddinas yn fawr a gwella mynediad at seilwaith allweddol y ddinas, megis yr ysbyty.

Mae'r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar dri phrif faes.

  1. Datblygu cyfleoedd busnes newydd
  2. Gwella trafnidiaeth leol
  3. Gwella seilwaith a chefnogi gwelliannau amgylcheddol

Aeth y Cynghorydd Goodway yn ei flaen i ddweud:

"Mae datblygu busnes y tu allan i'r parc busnes arfaethedig hefyd yn allweddol i lwyddiant y strategaeth hon, a byddwn yn ystyried opsiynau i gefnogi busnesau presennol, yn ogystal â gweledigaeth tymor hirach i ddatblygu tir o gwmpas Ffordd Lamby a thir i'r de o Wentloog Avenue, Cors Pengam a Trwobridge Mawr.

"Yn y strategaeth hon, rydym yn sefydlu polisi clir i gefnogi mentrau ynni ‘gwyrdd'. O gofio treftadaeth ddiwydiannol yr ardal, ni fydd cynigion ynni nad ydyn nhw'n dangos bod ganddynt egwyddorion gwyrdd cadarn ar waith yn cael eu cefnogi gan y Cyngor. Yn fy meddwl i, mae hyn yn golygu na fyddai'r llosgydd gwastraff sy'n cael ei gynnig ar gyfer Newlands Road ger Parc Corfforaethol Wentloog yn Trowbridge yn cael ei gefnogi gan y cyngor.

Caiff gweithgor newydd ei greu u lywio'r strategaeth newydd. Bydd y gweithgor newydd hwn yn adrodd i Is-bwyllgor o'r Cabinet fydd yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth gyflawni ac yn ystyried trefnu a chaffael tir, darparu cam wrth gam, cyfleoedd cyllido ac achos busnes dros fuddsoddiad gan y sector preifat. Bydd ymgynghori ac ymglymu pellach ag aelodau lleol ar bob project unigol cyn penderfynu ar gynlluniau manwl.

Mae Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn trafod Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd ddydd Iau, 3 Hydref, cyn penderfyniad gan y Cyngor. Disgwylir y penderfyniad hwnnw wythnos yn ddiweddarach ddydd Iau, 10 Hydref.