Back
Cyhoeddi llyfr newydd yn dangos delweddau na welwyd o’r blaen o Gastell Caerdydd
Mae llyfr newydd yn cynnwys delweddau na welwyd o’r blaen o Gastell Caerdydd wedi’i gyhoeddi.

Y llyfr - “Cardiff Castle and the Marquess of Bute” yw’r cyntaf mewn bron i ganrif i ganolbwyntio’n llwyr ar y castell ac fe’i hysgrifennwyd gan gyn-Guradur y Castell, Matthew Williams a ymddeolodd yn gynharach eleni, ar ôl 29 mlynedd yn gweithio dros Gaerdydd.

Yn ogystal â ffotograffau lliw wedi’u comisiynu o’r newydd, mae’r llyfr 208 tudalen yn cynnwys dros 100 delwedd na gyhoeddwyd o’r blaen.  Mae’r rhain yn cynnwys nifer o baentiadau olew, lluniau dyfrlliw a phrintiau, a thua 60 ffotograff hanesyddol na welwyd o’r blaen, a gasglwyd o archifau’r castell a chasgliadau cyhoeddus a phreifat eraill - gan gynnwys casgliad preifat y teulu Bute.

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Mr Williams: “Mae wedi bod yn fraint enfawr cael gweithio yn un o adeiladau mwyaf dychmygus y 19eg ganrif. Hyd yn oed pan oeddwn yn fyfyriwr, roeddwn yn ffan o William Burges - roedd gen i boster o’r arddangosfa yn nodi canrif ers ei farwolaeth ar fy wal - felly mae cael chwarae rhan yn y gwaith o adfer y castell a rhannu fy mrwdfrydedd a fy niddordeb gydag ymwelwyr, a nawr darllenwyr, wedi bod yn bleser pur.”

Aeth Mr Williams ymlaen i ddweud: “Mae’r teulu Bute wedi bod yn arbennig o garedig a chefnogol dros y blynyddoedd, gan ganiatáu i mi grwydro’n helaeth o amgylch Mount Stuart, cartre’r teulu yn yr Alban oedd yn hynod ddefnyddiol wrth ddatblygu dealltwriaeth o’r castell Fictoraidd.  

“Dyma fy anrheg ffarwel i’r castell. Fe’i ysgrifennais pan oeddwn yn gweithio yno, ac mae’n cynnwys bron popeth dwi wedi dysgu am y lle, ers i’w gysylltiad â’r teulu Bute ddechrau.”

Mae’r delweddau nodedig yn y llyfr yn cynnwys:

  • Argraff arlunydd anhygoel o’r tŵr newydd oedd i’w godi yn y castell, mewn dyfrlliw er mwyn denu diddordeb yr Arglwydd Bute cyn iddo gael ei godi, ac yn dangos to o deils - nid y plwm a roddwyd arno yn y pendraw.   
  • Ffotograff prin o Dŵr y Cloc o’r 1880au hwyr, gwinwydd yn tyfu ar wal y De ac anifeiliaid enwog Wal yr Anifeiliaid - heb eu cerfio eto.  
  • Ffotograff nad oedd unrhyw un yn gwybod am ei fodolaeth o risiau staer aruchel y castell yn 1907, wedi’u haddurno ar gyfer ymweliad y Brenin Edward VII. Ffotograffydd amatur o Gaerdydd, Mr Chorley dynnodd y llun, y rhoddwyd ei ffotograffau i gasgliad y castell yn Chwefror eleni. 
  • Ffotograff o 1943, o gasgliad preifat yn y Gorllewin, yn dangos difrod i do mur y castell achoswyd gan fomio yn ystod y rhyfel.  
  • Dyfrlliw o 1793 o gasgliad preifat yn dangos y golygfeydd o’r castell i Fae Caerdydd yr oedd modd eu mwynhau yn y dyddiau hynny. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae Matthew wedi bod yn rhan greiddiol o Gastell Caerdydd am flynyddoedd lawer ac rwy’n gwybod y bydd pawb yn y castell yn ei golli, yn ogystal â’r miloedd o ymwelwyr sy’n dod drwy’r clwydi bob blwyddyn.

“Mae’r wybodaeth y mae wedi’i chasglu a’i chofnodi yn y llyfr hwn yn anhygoel a dwi’n siŵr y bydd yn ychwanegiad poblogaidd i’r anrhegion a’r cofroddion a werthir yn siop roddion y castell, gan ein helpu i barhau i warchod y rhan eiconig hon o dreftadaeth Caerdydd am genedlaethau i ddod.”

Mae’r llyfr bwrdd coffi 208 tudalen hwn ar gael i’w brynu’n uniongyrchol o siop roddion Castell Caerdydd yn ogystal â thrwy Amazon am £30.  Mae argraffiad cyfyngedig clawr caled hefyd ar gael, yn costio £75.