Back
Y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn Symud i’r Cam Nesaf

Mae cynllun newydd i gwblhau datblygiad Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd wedi'i ryddhau gan Gyngor Caerdydd heddiw.

Nod y cynllun newydd yw denu nifer o atyniadau ‘chwaraeon antur' newydd i adeiladu ar y cyfleusterau presennol i sefydlu atyniad ymwelwyr o safon genedlaethol sy'n cynnwys:

  • ardal well i gerddwyr yn cysylltu'r cyfleusterau gyda'i gilydd 
  • man cyhoeddus newydd ar gyfer digwyddiadau awyr agored gydol y flwyddyn;
  • cyfleuster ‘Blwch Hamdden' newydd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon antur ‘dan un to';
  • ymestyn canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd ac ychwanegu atyniadau newydd pellach;
  • darparu promenâd bwyd a diod deniadol ar y glannau;
  • ychwanegu cyfleuster newydd o bosibl i gwblhau'r datblygiad sglefrio iâ ar ochr y glannau; a
  • chynnal a gwella llwybr cerdded ymyl y Bae er defnydd y cyhoedd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Russell Goodway: "Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu cyrchfan hamdden o arwyddocâd cenedlaethol ar y safle arbennig hwn. Mae'r Cyngor wedi bod yn gysylltiedig â'r safle am bron i ddau ddegawd bellach, ac ar ôl dechrau da, daeth y cynlluniau i stop. Rydym yn cydnabod bod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i'r diwydiant datblygu eiddo ac felly mae angen i ni ddefnyddio dull gwahanol i roi'r project ar waith eto."  

Bydd adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 10 Hydref yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo strategaeth datblygu newydd ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ac i roi caniatâd i'r Cyngor barhau i ddatblygu'r safle Glannau sy'n berchen i'r Cyngor i helpu i ariannu'r datblygiad hamdden ehangach. Byddai hyn yn golygu codi datblygiad preswyl o ansawdd da ar hyd y glannau gyda phromenâd bwyd a diod ar ysgwydd y Bae wrth ymyl y dŵr.

Byddai incwm o ddatblygu'r safle ar y glannau yn cael ei glustnodi i gefnogi creu'r datblygiad hamdden newydd. Gofynnir i'r Cabinet hefyd roi awdurdod i nodi gweithredwr masnachol addas i adeiladu a rhedeg cyfadeilad hamdden newydd ar hen safle Toys R Us a gallai hyn gynnwys bod yn gyfrifol am weithredu Canolfan Dŵr Gwyn Caerdydd fel rhan o unrhyw fargen.

Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway: "Mae'r ffaith bod y Cyngor wedi prynu safle Toys R Us wedi creu cyfle i ailfeddwl y strategaeth. Gallwn nawr symud yr ochr hamdden i gefn y safle a gwneud y gorau o werth y safle ar lan y dŵr. Mae hefyd yn rhoi cyfle i gyflwyno mannau cyhoeddus newydd ar gyfer gweithgareddau awyr agored.  Rydym am greu ardal hamdden i deuluoedd, wedi'i dylunio i fod yn hygyrch, diogel a deniadol.

"Y cynllun blaenorol ar gyfer y Pentref Chwaraeon oedd darparu llethr sgïo dan do. Mae wedi dod yn glir nad yw hyn yn fasnachol bosibl mwyach. Bydd y strategaeth newydd yn cynnig y cyfle i weithredwyr ddarparu atyniadau eira amgen llai ac atyniadau sgïo technoleg newydd a all o bosibl lenwi'r gwagle. Un esiampl yw'r sgïo cludfelt sydd ar gael yn Llundain a Belfast ar hyn o bryd sy'n boblogaidd iawn ac sy'n addas i ddechreuwyr a'r rheiny â sgiliau pellach.

"Mae cysylltiadau trafnidiaeth i'r ardal yn gryf. Dim ond rhyw dri chan metr i ffwrdd o'r safle mae gorsaf reilffordd Cogan dros Bont-y-Werin ac mae gwasanaethau bws rheolaidd sy'n cysylltu â chanol y ddinas. Byddwn hefyd yn ceisio gwneud defnydd llawn o'r Bae a'r afonydd i gysylltu'r safle yn ôl i'r harbwr mewnol a chanol y ddinas trwy dacsis dŵr. A bydd y cyfleuster parcio a theithio newydd wrth gyffordd 33 yr M4 yn cynnig mynediad cyflym pwysig i'r safle ar fws o'r rhanbarth ehangach."

Nod y strategaeth newydd yw sicrhau bod y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn cael ei gwblhau dros gyfnod o tua 5 mlynedd, gan gadw'r cyfle i ymestyn y cyfleuster wedi hynny, trwy gyfnewid y maes parcio presennol am faes parcio sawl lefel neu aml-lawr er mwyn rhyddhau tir ar gyfer datblygu.