Back
Lansio ymgyrch Papio’r Pw-pw i fynd i’r afael â baw cŵn


Mae Cyngor Caerdydd yn gofyn i breswylwyr dynnu lluniau o faw cŵn yn eu hardal leol ac anfon lluniau i'r Cyngor drwy App Cardiff Gov.

Mae'n hawdd lawrlwytho App Caerdydd drwy fynd i Play Store Google neu siop appiau Apple a chwilio am ‘Cardiff Gov'.

Gan ddefnyddio meddalwedd geotagio, gall y Cyngor wedyn dargedu crynodiadau mewn ardaloedd penodol gyda digon o adnoddau er mwyn gwaredu'r gwastraff yma sy'n gallu bod yn beryglus oddi ar strydoedd Caerdydd yn effeithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Mae baw cŵn ar ein strydoedd yn hyll, yn amhleserus ac anghymdeithasol. Mae hefyd yn gwbl ddiangen, oherwydd pe byddai pobl yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid, fyddai yna ddim baw cŵn ar strydoedd Caerdydd i dynnu lluniau ohono.

"Mae ysgarthion anifeiliaid hefyd yn beryglus i gŵn eraill ac i bobl. Gyda chŵn, gellir trosglwyddo haint Parvo rhwng anifeiliaid, sydd yn gallu bod yn farwol.

Mewn pobl, os bydd pridd neu dywod sydd wedi ei halogi ag ysgarthion anifeiliaid sydd wedi eu heintio yn cael eu dreulio gan y corff dynol, gall arwain at tocsocariasis, sy'n cael ei achosi gan barasit a alwn yn lyngyren neu lyngyr ac mae'n effeithio'n aml ar blant rhwng un a phedair oed.

"Gofynnwn i berchnogion cŵn lanhau ar ôl eu hanifeiliaid ac os gwelant faw anifeiliaid eraill ar y ffyrdd, mewn parciau neu fan agored arall, i dynnu llun gyda'u ffôn clyfar a'i anfon atom drwy App Caerdydd."

Mae'r fenter Papio'r Pw-pw newydd yn rhan o ymgyrch barhaus y ddinas i lanhau'r lle a chreu ymdeimlad o falchder mewn cymunedau ledled Caerdydd trwy gyfrwng yr Ymgyrch Caru Eich Cartref.

Yn ôl y gyfraith mae disgwyl i berchnogion cŵn lanhau ar ôl eu hanifeiliaid a gall y rheiny a gaiff eu dal nad ydynt wedi glanhau ar ôl eu hanifail wynebu Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. Gall hyn gynyddu i £1,000 os caiff yr achos ei gyfeirio i Lys yr Ynadon.

Dwedodd y Cynghorydd Michael ymhellach, "Mae App newydd Caerdydd yn ddull cyflym a hwylus i adrodd am broblemau wrth y Cyngor. Gallwn wedyn ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael i ni i'w eithaf sydd yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau yn fwy effeithiol."

I gael y newyddion diweddaraf am y fenter, gall preswylwyr gael gwybodaeth am yr ymgyrch drwy ddilyn #papiorpwpw ar Twitter@cyngorcaerdydd a Facebook drwy @cardiff.council1